Cyfundrefn
gyfathrebu
yw
iaith
. Gelwir astudiaeth ieithoedd yn
ieithyddiaeth
. Mae'n cynnwys astudiaeth
cystrawen
,
seineg
a
morffoleg
iaith.
Does dim cytundeb pryd y
dechreuwyd defnyddio iaith
gan yr hil ddynol. Mae amcangyfrifon yn amrywio o ryw ddwy filiwn o flynyddoedd yn ol hyd at mor ddiweddar a phedwar deng mil o flynyddoedd yn ol.
Mae ieithoedd y byd wedi eu rhannu'n
deuluoedd ieithyddol
lle mae'r ieithoedd ym mhob teulu yn tarddu o'r un ffynhonnell hanesyddol. Ond mae rhai ieithoedd sydd ddim yn dangos perthynas ag unrhyw iaith arall e.e.
Basgeg
. Mae'r prif deuluoedd ieithyddol yn cynnwys yr
ieithoedd Indo-Ewropeaidd
, yr ieithoedd
Affro-Asiaidd
, a'r ieithoedd
Sino-Tibetaidd
.