Tref farchnad a
chymuned
yn
Sir Benfro
,
Cymru
, yw
Hwlffordd
[1]
[2]
(Saesneg:
Haverfordwest
). Lleolir pencadlys Sir Benfro yn y dref. Mae gan ardal adeiledig Hwlffordd y boblogaeth fwyaf yn y sir, gyda phoblogaeth o 15,388 (amcan) yn 2020.
[3]
Mae maestrefi'r dref yn cynnwys
Prendergast
,
Albert Town
ac ardaloedd preswyl a diwydiannol Withybush.
Daw'r enw "Hwlffordd", mae'n debyg, o'r enw Saesneg
Haverfordwest
.
[4]
Ystyr
Haverford
, neu
Harford
ar lafar gwlad, yw 'rhyd y bychod gafr'. Ychwanegwyd yr elfen
-west
tua'r
15g
er mwyn osgoi dryswch gyda
Henffordd
.
[4]
Cynrychiolir yr ardal hon yn
Senedd Cymru
gan
Paul Davies
(
Ceidwadwyr
)
[5]
ac yn
Senedd y DU
gan
Stephen Crabb
(
Ceidwadwr
).
[6]
Yng
nghyfrifiad 2011
roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
[7]
[8]
[9]
[10]
Cyfrifiad 2011
|
|
|
|
Poblogaeth cymuned Hwlffordd (pob oed) (12,042)
|
|
100%
|
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Hwlffordd) (1,682)
|
|
14.6%
|
:
Y ganran drwy Gymru
|
|
19%
|
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Hwlffordd) (8292)
|
|
68.9%
|
:
Y ganran drwy Gymru
|
|
73%
|
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Hwlffordd) (1,974)
|
|
36.6%
|
:
Y ganran drwy Gymru
|
|
67.1%
|
Ymwelodd
Gerallt Gymro
a Hwlffordd yn ystod ei
daith trwy Gymru
yn
1188
. Cafodd
Waldo Williams
, yr actor
Christian Bale
a'r cerddor
Gruff Rhys
eu geni yn y dref.
Adeiladau a chofadeiladau
[
golygu
|
golygu cod
]
Cynhaliwyd
Eisteddfod Genedlaethol
yn Hwlffordd ym
1972
. Am wybodaeth bellach gweler:
Mae clwb pel-droed y dref yn chwarae yn
Uwchgynghrair Cymru
, sef
Sir Hwlffordd
-
Y castell
-
Y castell
-
Y castell
-
Eglwys y Santes Fair
-
Porth Eglwys y Santes Fair
-
Bedyddfaen Eglwys y Santes Fair
-
Nenfwd Eglwys y Santes Fair
-
Y tu fewn i Eglwys y Santes Fair