Huw T. Edwards
|
---|
Ffugenw
| Huw Thomas Edwards
|
---|
Ganwyd
| 19 Tachwedd 1892
Rowen
|
---|
Bu farw
| 9 Tachwedd 1970
Abergele
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Cymru
|
---|
Galwedigaeth
| undebwr llafur,
gwleidydd
,
bardd
, glowr, chwarelwr, paffiwr
|
---|
Chwaraeon
|
---|
Undebwr llafur a gwleidydd sosialaidd a chenedlaetholgar oedd
Huw Thomas Edwards
(
19 Tachwedd
1892
?
8 Tachwedd
1970
). Cafodd marwolaeth ei fam yn Mehefin 1901 gryn ddylanwad arno weddill ei oes.
Ganed ef yn
Ro-wen
,
Dyffryn Conwy
yn fab i Hugh Edwards ac Elizabeth Williams. Cafodd marwolaeth ei fam pan oedd yn wyth mlwydd oed gryn effaith arno a chafodd fawr o addysg o werth. Ailbriododd y tad o fewn chwe mis i fam Huw T. farw, priodi a gweddw 30 oed. Ni fu Huw a'i lys fam erioed yn agos. Plentyndod digon anodd gafodd Huw T.
[1]
Gweithiodd ar ffermydd ac yn
chwareli
ithfaen
yr ardal cyn mudo i dde Cymru yn 1909, lle y bu'n gweithio yn y pyllau glo. Daeth yn aelod o gapel yr Annibynwyr, Bethania Aberfan tua 1913.
Roedd ymhlith y cyntaf i'w alw i danchwa
Senghennydd
aci ddisgyn i'r pwll i chwilio am unrhyw rai oedd wedi goroesi'r ddamwain.
Ymunodd a'r Army Special Reserve (ASR) yn 1911 a chael ei hyfforddi yn
Preston
. Gan ei fod yn aelod o'r Cefnlu galwyd ef i'r rhengoedd ar ddiwrnod cyntaf y
Rhyfel Byd Cyntaf
a chafodd ei glwyfo yn 1918. Wedi hynny dychwelodd i fyw i'r gogledd, gan weithio yn chwareli ithfaen ardal
Penmaenmawr
.
Yn yr 1920au daeth yn swyddog undeb, yn drefnydd etholiadol gyda'r
Blaid Lafur
ac yn gynghorydd tre. Yn 1932 cafodd swydd gyda'r TGWU gan symud i fyw i
Shotton
,
Sir y Fflint
. Am gyfnod maith roedd yn un o'r dynion mwyaf dylanwadol yn y mudiad llafur yng ngogledd Cymru.
Penodwyd ef yn gadeirydd
Cyngor Cymru a Mynwy
yn 1949 gan aros yn y swydd tan ei ymddiswyddiad dadleuol yn 1958. Yn 1959 gadawodd y Blaid Lafur ac ymuno a
Phlaid Cymru
, ond dychwelodd i'w hen blaid yn 1965.
Roedd wedi dadlau o blaid sefydlu
senedd
i Gymru er 1944. Yn ystod cyfnod ei gadeiryddiaeth o Gyngor Cymru, pwyswyd ar y llywodraeth Geidwadol i sefydlu'r swydd
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
. Ni lwyddwyd i wireddu hyn yn yr 1950au ond yn 1964 sefydlwyd y swydd gan y llywodraeth Lafur a etholwyd yn y flwyddyn honno.
Bu'n gyfarwyddwr y cwmni teledu masnachol
TWW
ac roedd ymhlith y cyntaf i alw am sefydlu sianel deledu
Gymraeg
. Yn 1956 achubodd y papur newydd
Y Faner
a oedd mewn trafferthion ariannol.
Bu farw yn 1970. Gosodwyd cofeb iddo yn
Ro-wen
yn 1992.
Cyhoeddodd ddwy gyfrol hunangofiannol:
- Tros y Tresi
(1956)
- Troi'r Drol
(1963)
Cyhoeddwyd cofiant iddo yn 2007:
- Gwyn Jenkins:
Prif Weinidog Answyddogol Cymru: cofiant Huw T Edwards
(Y Lolfa, 2007)
- ↑
Prif Weinidog Answyddogol Cymru sef Cofiant Huw T. Edwards Gwyn Jenkins 2007 Y Lolfa