Human Rights Watch
|
Enghraifft o'r canlynol
| international non-governmental organization,
sefydliad di-elw
, sefydliad hawliau dynol
|
---|
Dechrau/Sefydlu
| 1978, 1988
|
---|
Sylfaenydd
| Robert L. Bernstein, Aryeh Neier, Jeri Laber
|
---|
Rhagflaenydd
| Helsinki Watch
|
---|
Aelod o'r canlynol
| International Freedom of Expression Exchange, Campaign to Stop Killer Robots, Forum Menschenrechte
|
---|
Gweithwyr
| 450
|
---|
Ffurf gyfreithiol
| non-profit organisation, sefydliad 501(c)(3)
|
---|
Pencadlys
| Dinas Efrog Newydd
|
---|
Gwefan
| https://www.hrw.org/
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Corff heb gysylltiad a llywodraeth sy'n amddiffyn
hawliau dynol
yw
Human Rights Watch
(
HRW
). Lleolir ei bencadlys yn
Ninas Efrog Newydd
yn yr
Unol Daleithiau
ac mae ganddo swyddfeydd mewn sawl dinas o gwmpas y byd. Fe'i sefydlwyd yn
1988
ar ol cyfuno sawl mudiad, yn enwedig
Helsinki Watch
. Rhoddwyd wobr Hawliau Dynol y
Cenhedloedd Unedig
i Human Rights Watch yn 2008 (ar y cyd a Louise Arbour,
Benazir Bhutto
, Ramsey Clark, yr Athro Carolyn Gomes, yr Athro Denis Mukwege a'r Chwaer Dorothy Stang)
[1]
Mae HRW yn gweithredu ar lefel ryngwladol i geisio sicrhau fod y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol yn cael ei barchu ymhob gwlad, er enghraifft mewn perthynas a
rhyddid mynegiant
, yn cynnwys
rhyddid y wasg
. Mae'n ceisio dod a
throseddau rhyfel
a
masnachu arfau
anghyfreithlon i sylw'r byd ac yn barod i feirniadu llywodraethau sy'n euog o hynny. Mewn canlyniad mae HRW wedi cael ei feirniadu gan rai am fod yn fudiad gydag amcanion gwleidyddol, er enghraifft pan gondemniodd
Llu Amddiffyn Israel
am ei ddefnydd o
ffosfforws gwyn
yn
Gaza yn 2009
.