Hugo Chavez
|
---|
|
Ganwyd
| Hugo Rafael Chavez Frias
28 Gorffennaf 1954
Sabaneta
|
---|
Bu farw
| 5 Mawrth 2013
o
canser colorectaidd
Hospital Militar de Caracas
|
---|
Man preswyl
| La Casona
|
---|
Dinasyddiaeth
| Feneswela
|
---|
Alma mater
| - Military Academy of the Bolivarian Army
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
, swyddog milwrol
|
---|
Swydd
| President of Venezuela, arweinydd plaid wleidyddol
|
---|
Taldra
| 173 centimetr
|
---|
Plaid Wleidyddol
| Revolutionary Bolivarian Movement-200, Fifth Republic Movement, United Socialist Party of Venezuela
|
---|
Tad
| Hugo de los Reyes Chavez
|
---|
Mam
| Elena Frias de Chavez
|
---|
Priod
| Nancy Colmenares, Marisabel Rodriguez de Chavez
|
---|
Plant
| Maria Gabriela Chavez
|
---|
Perthnasau
| Asdrubal Chavez
|
---|
Gwobr/au
| Gwobr hawliau Dynol Al-Gaddafi, Urdd Francisco Morazan, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Urdd dros ryddid, Urdd Francisco de Miranda, Order of the Star of Carabobo, Urdd Jose Marti, Urdd Carlos Manuel de Cespedes, Ribbon of the Order of the Republic of Serbia, Urdd Umayyad, Uatsamonga Order, Order of the Friendship of Peoples, Gwobr y Blaned Las, honorary doctor of the University of International Business and Economics, Order of Augusto Cesar Sandino, Medal of the Oriental Republic of Uruguay, Urdd Croes y De, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Urdd Gwladwriaeth Serbia, Gorchymyn Anrhydedd
|
---|
Gwefan
| http://www.chavez.org.ve
,
http://todochavez.gob.ve
|
---|
Safle
| pitcher
|
---|
llofnod
|
---|
|
| lleoliad_geni=
Sabaneta
,
Barinas
,
Feneswela
| dyddiad_marw=5 Mawrth 2013
(2013-03-05)
(58 oed)
| plaid=
Plaid Sosialaidd Unedig Feneswela
| priod=
Nancy Colmenares
(ysg.)
Marisabel Chavez
(ysg.)
|}}
Arlywydd
Feneswela
o 1999 hyd 2013 oedd
Hugo Rafael Chavez Frias
(
IPA
:
'u?o
rafa'el
't?aβes
'f?ias
(
28 Gorffennaf
1954
?
5 Mawrth
2013
). Fel arweinydd
y Chwyldro Bolifariaidd
hybodd ei weledigaeth o
sosialaeth ddemocrataidd
drwy ddiwygio cymdeithasol ac roedd yn feirniadol iawn o bolisiau tramor
yr Unol Daleithiau
.
Dywedir iddo sefydlu mudiad
asgell-chwith
o'r enw
Fifth Republic Movement
wedi methiant y
coup
i ddiorseddu'r Arlywydd
Carlos Andres Perez
yn 1992. Cafodd ei ethol yn Arlywydd ei wlad yn 1998 gyda
maniffesto
yn addo cynorthwyo'r tlodion. Cafodd ei ail-ethol i'r swydd yn 2000, yn 2006 ac yn 2012. O fewn ei wlad roedd yn frwdfrydig iawn dros
datblygiadau economaidd
amgen
; gan ganolbwyntio hefyd ar estyn llaw i wledydd eraill yn
Ne America
.
Roedd yn ddyn oedd yn barod iawn i ddweud ei farn, gan greu gelynion a chyfeillion gyda phob brawddeg, bron. Hona Llywodraeth yr Unol Daleithiau ei fod yn fygythiad i systemau democrataidd
America Ladin
.
[1]
Cafodd ei fagu ar aelwyd gweithiol yn
Sabaneta, Barinas
. Wedi cyfnod fel swyddog yn y fyddin sefydlodd MBR-200 yn y 1980au cynnar gyda'r nod o ddymchwel Llywodraeth yr Arlywydd Carlos Andres Perez. Yn 1992 aflwyddiannus oedd ei ymdrech i wneud hyn drwy
coup d'etat
a chafodd ei garcharu am ddwy flynedd. Yn dilyn ei ryddhau o'r carchar sefydlodd plaid sosialaidd, democrataidd o'r enw Mudiad y Pumed Gweriniaeth.
Yn 1998 fe'i etholwyd yn Arlywydd Feneswela. Canlyniad ei bolisiau i adfer diwydiant a chymdeithas (Cyfansoddiad Newydd y Llywodraeth, 1999) oedd:
gwladoli
sawl diwydiant allweddol, cynyddu nawdd y Llywodraeth ym maesydd
iechyd
a gofal ac
addysg
, a lleihau
tlodi
.
[2]
Ar 20 Medi, 2006, areithiodd Chavez i
Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
gan gondemnio George W. Bush (Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd) yn hallt.
[3]
Yn yr araith, fe alwodd ef Bush yn "Ddiafol", gan gyfeirio at y ffaith i Bush fod yn areithio yn yr un fan y diwrnod cynt "to share his nostrums to try to preserve the current pattern of domination, exploitation and pillage of the peoples of the world."
[4]
Er iddo gael ei feirniadu am hyn gan y cyfryngau a gwleidyddion led-led y byd,
[5]
fe dderbyniodd Chavez gymeradwyaeth frwdfrydig.
[6]
.
Bu farw ar y 5ed o Fawrth 2013 yn dilyn dwy flynedd o frwydro yn erbyn
cancr
. Cyhoeddwyd cyfnod saith niwrnod o fwrnio cenedlaethol drwy'r wlad i'w goffau.