Math o
hufen
trwchus yw
hufen tolch
, sy'n cael ei wneud drwy wresogi
llaeth
hufen llawn yn anuniongyrchol ag ager neu mewn baddon d?r ac yna ei adael mewn pedyll bas i oeri ryw ychydig. Yn ystod y broses oeri, mae'r hufen yn dod i'r wyneb ac yn ceulo'n dolchau.
[1]
Mae'n rhan annatod o de hufen.
Er nad yw'n sicr o ble mae'n dod yn wreiddiol, fe gysylltir cynhyrchu'r hufen a ffermydd llaeth yn
ne-orllewin Lloegr
ac yn enwedig a
Chernyw
a
Dyfnaint
. Cwmni Rodda's yn
Redruth
, Cernyw, yw'r cynhyrchydd masnachol mwyaf, a gall gynhyrchu hyd at 25 tunnell o hufen tolch y diwrnod.
[2]
Ym 1998 daeth y term
hufen tolch Cernyw
yn
Enw Tarddiad Gwarchodedig
gan gyfarwyddeb yr
Undeb Ewropeaidd
. O dan hon, rhaid i o leiaf 55% o gynnwys hufen tolch fod yn fraster er mwyn cael defnyddio'r term yn swyddogol.
Mae gan hufen tolch flas "cnau, fel llaeth wedi'i gogonio"
[3]
a "blas melys, bras" sy'n teimlo ychydig yn rudiog yn y geg, ac weithiau ceir pelenni olewog ar gramen wyneb yr hufen. Mae'r hufen tew hwn yn cynnwys llawer iawn o fraster (lleiafrif o 55%, ond 64% ar gyfartaledd), digon i fod yn
fenyn
yn ol cyfraith yr
Unol Daleithiau
.
[4]
I'w gymharu a chynhyrchion llaeth eraill, dim ond 18% o
hufen sengl
yw braster. Er gwaethaf ei boglogrwydd, nid yw'n cadw'n ffres yn hir iawn.
[4]
Oherwydd ei fod yn cynnwys cymaint o
fraster dirlawn
, ni chredir bod bwyta hufen tolch yn gyson yn iach iawn, er bod peth braster llaeth yn y diet i fod yn llesol.
[5]
Mewn arolwg gan weithwyr byd maetheg yn 2006, hufen tolch a ddewiswyd fel y bwyd lleiaf iach o restr o 120 o fwydydd a oedd yn cynrychioli diet pobl yng ngwledydd Prydain.
[6]
Yn ol yr
Asiantaeth Safonau Bwyd
, mae twb 100 g o hufen tolch yn rhoi 586 o
galoriau
, sef tua'r un faint a
byrgyr caws
200 g.
[7]
Hysbyseb o 1920
Roedd hufen tolch yn cael ei wneud yn wreiddiol gan ffermwyr er mwyn lleihau'r gwastraff o'u llaeth. Erbyn hyn mae'n rhan annatod o ddiwylliant Cernyw a Dyfnaint ac mae'n denu twristiaeth i'r ardaloedd hyn,
[8]
ond er nad oes amheuaeth am ei gysylltiad cryf a nhw, nid yw'n glir o ble daeth yn wreiddiol. Mae'n debyg i
kaymak
, cynnyrch llaeth o'r
Dwyrain Agos
sy'n cael ei wneud drwy gydol y
Dwyrain Canol
,
de-ddwyrain Ewrop
,
Iran
,
Affganistan
,
India
a
Thwrci
. Yn ol yr
Oxford Companion to Food
, gallai fod wedi cael ei gyflwyno i Gernyw gan fasnachwyr o
Ffenicia
a oedd yn chwilio am y metel
tun
.
[9]
Er hynny, mae arbenigwyr bwyd hyfanol
[10]
wedi cynnig ei bod yn debyg y byddai trigolion cynnar gwledydd Prydain wedi ceulo hufen er mwyn ei gadw'n ffres, gan nodi sylwadau
Strabo
am Brydain ("Maent yn byw oddi ar eu gyrroedd ... Am fod ganddynt fwyngloddiau tun a
phlwm
, rhoddant y metelau hyn a chrwyn eu gwartheg i'r masnachwyr o'r mor ... yn lle olew olewydd byddant yn defnyddio menyn").
Yn ddiweddarach, mae archaeolegwyr
[10]
[11]
wedi cysylltu rhai o siambrau tanddaearol ardaloedd Prydain, Ffrainc ac Iwerddon ar lan Mor Iwerydd fel storfeydd oer ar gyfer cynhyrchu llaeth, hufen ac yn enwedig caws. Roedd
pentisiau
cerrig yn nhai hirion yr ardaloedd hyn yn cael eu defnyddio yn yr un modd fel llaethdai yn
yr Oesoedd Canol
.
[12]
Mae pobl yn dadlau ers cryn amser a yw'r hufen yn dod o Gernyw neu o Ddyfnaint yn wreiddiol a pha ardal sy'n gwneud yr hufen tolch gorau.
[13]
Ceir tystiolaeth bod mynachod Abaty
Tavistock
yn gwneud hufen tolch yn gynnar yn y
14g
.
[14]
Ar ol i
Lychlynwyr
ysbeilio'u habaty yn 997, ailgodon nhw ef gyda chymorth
Ordulf, Iarll Dyfnaint
. Gweithwyr lleol oedd yn helpu i'w atgyweirio ac fe roddodd y mynaich fara, hufen tolch a chyffaith mefus iddynt am eu gwaith.
[15]
Mae rysait am "clouted cream" yn llyfr coginio
The Compleat Cook
a gyhoeddwyd yn 1658.
[16]
Yn y 19g credid ei fod yn fwy maethlon na hufen "amrwd" gan fod hwnnw'n dueddol o suro a bod yn anodd ei dreulio, ac felly'n achosi salwch.
[17]
Mae erthygl o 1853 yn amcangyfrif y bydd cynhyrchu hufen tolch yn creu 25% mwy o hufen na'r dulliau arferol.
[18]
Yn Nyfnaint, roedd ef mor gyffredin fel ei fod yn cael ei gorddi i wneud menyn yn lle hufen neu laeth. Roedd y menyn hwn yn cadw'n hirach ac nid oedd ganddo ddim blas annymunol o'r broses gorddi.
[19]
Tun a ddefnyddiwyd yn y 1970au i anfon hufen tolch drwy'r post o Ddyfnaint
Ers talwm roedd trigolion ac ymwelwyr yn yr ardaloedd sy'n cynhyrchu hufen tolch yn anfon tuniau neu dybiau bach ohono drwy'r post at eu cyfeillion a'u teuluoedd dros Ynysoedd Prydain.
[20]
Er hynny, mae yna reolau yn erbyn anfon nwyddau darfodus dramor.
[21]
Cyfarwyddebau'r Undeb Ewropeaidd
[
golygu
|
golygu cod
]
Ym 1993, gwnaethpwyd cais i'r term
hufen tolch Cernyw
gael
Enw Tarddiad Gwarchodedig
yn yr
Undeb Ewropeaidd
am hufen wedi'i gynhyrchu yn ol y rysait draddodiadol o Gernyw, ac fe dderbyniwyd hwn ym 1998.
[22]
Rhaid i hufen tolch gael ei wneud o laeth Cernyw ac i o leiaf 55% o'i gynnwys fod yn
fraster menyn
. Daw lliw melynaidd unigryw hufen tolch Cernyw o'r lefelau uchel o
garoten
yn y gwair yno.
Yn draddodiadol, roedd hufen tolch yn cael ei greu drwy hildo llaeth ffres buwch, ei adael mewn padell fas mewn lle oer am nifer o oriau nes i'r hufen godi i wyneb y llaeth, yna'i wresogi dros ludw neu mewn baddon d?r ac yna ei adael i oeri.
[23]
[24]
Roedd y tolchau ar ben y llaeth yn cael eu tynnu a soser a choes hir, o'r enw
reamer
neu
raimer
yn Nyfnaint.
[24]
Erbyn y 1930au roedd y dull traddodiadol o ddefnyddio llaeth newydd o'r llaethdy yn prysur ddiflannu yn Nyfnaint gan fod pobl yn defnyddio
hufennwr
i wahanu'r hufen o'r llaeth drwy rym allgyrchol. Roedd hyn yn cynhyrchu llawer mwy o hufen tolch o'r un maint o laeth na'r dull traddodiadol, fel dywedodd ffermwraig o
Poundsgate
, "mae'r hufennwr yn achub y fuwch gyfan!".
[24]
Erbyn heddiw, dwy ffordd o gynhyrchu hufen tolch sydd. Mae'r dull "Float Cream" yn golygu gwresogi haen o
hufen dwbl
i 82 °C mewn llaeth sgim neu gyflawn mewn hambyrddau bas gan ddefnyddio ager neu dd?r poeth iawn. Ar ol i'r cymysgedd gael ei wresogi am hyd at awr, mae'n cael ei oeri'n araf am 12 awr neu fwy ac yna mae'r hufen yn cael ei wahanu a'i becynnu.
[23]
Mae'r dull "Scald Cream" yn debyg, ond yma mae'r haen o laeth yn cael ei dynnu'n gyntaf a haen o hufen sydd wedi'i wahanu'n fecanyddol i isafswm lefel braster sy'n cael ei ddefnyddio. Gwresogir yr hufen hwn yn yr un modd ond ar dymheredd is. Wedyn, ar ol amser penodedig mae'n cael ei oeri a'i becynnu.
[23]
Yn y Deyrnas Unedig mae'r gyfraith yn ystyried hyn yn gyfwerth a chael ei basteureiddio. Er hynny, yn wahnol i basteureiddio, nid oes rhaid cofnodi'r tymereddau ar siartiau thermograff.
[25]
Oherwydd bod y tymereddau hyn yn is na'r rhai mewn pasteureiddio safonol, rhaid i safonau hylendid fod yn uchel iawn wrth gynhyrchu'r hufen.
Cynhyrchydd mwyaf hufen tolch yn y Deyrnas Unedig yw Rodda's, busnes teuluol yn
Scorrier
, Cernyw.
[26]
Sefydlwyd y cwmni ym 1890,
[2]
ac erbyn 1985,
[4]
roedd yn cynhyrchu dros 450,000 kg o hufen bob blwyddyn. Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr yn 2010 eu bod o bosib yn cynhyrchu cyn lleied a 5,000 i 6,000 kg ym mis Ionawr ond hyd at 25,000 y diwrnod wrth i'r Nadolig nesau.
[2]
Yn y 1980au cynnar, gwnaeth Rodda's gytundebau a chwmniau hedfan rhyngwladol i werthu tybiau bach o hufen tolch gyda'r pwdinau ar eu hawyrennau,
[4]
a
Phencampwriaethau Tennis Wimbledon
yw un o gyfnodau gwerthu prysuraf y cwmni. O bob 450 l o laeth a ddefnyddir yn y broses, ceir 430 l o laeth sgim yn sgil-gynnyrch, sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu bwyd.
[2]
Prynwyd un cynhyrchydd, Definitely Devon, gan gwmi Robert Wiseman Daries ym mis Mawrth 2006, gan gau un o'r ddau laethdy yn Nyfnaint a symud yr holl broses gynhyrchu i
Okehampton
.
[27]
Er hynny, gwerthodd Roberth Wiseman frand Definitely Devon i Rodda's, a symudodd y cynhyrchu i Gernyw. Roedd hyn yn bwnc llosg ar y pryd am na newidion nhw'r enw,
[28]
a arweiniodd at archwiliad gan
Adran Safonau Masnachu
.
[29]
Diwydiant cartref yw gwneud hufen tolch drwy Gernyw a de-orllewin Loegr ac mae llawer o ffermydd a llaethdai'n cynhyrchu'r hufen a'i werthu yn siopau lleol eu bro. Gan nad yw'n hawdd dod o hyd i hufen tolch y tu allan i'r ardal hon, mae nifer o ffyrdd o greu cynnyrch tebyg. Un o'r rhain yw cymysgu
mascarpone
gyda hufen chwipio, ychydig o siwgr a
rhin fanila
.
[30]
Y tu hwnt i Gernyw a Dyfnaint, mae cynhyrchwyr hufen tolch yng
Ngwlad yr Haf
,
[31]
Dorset
,
[32]
Swydd Henffordd
,
[33]
Ynys Wyth
[34]
a hyd yn oed yng Nghymru yn
Sir Benfro
.
[35]
Te hufen heddiw
Mae hufen tolch yn hanfodol mewn
te hufen
, ffefryn gyda
thwristiaid
yng
Nghernyw
a
Dyfnaint
. Mae'n cael ei roi ar
sgons
?neu ar "fyns hollt" yng Nghernyw
[36]
?gyda jam mefus neu fafon a photaid o de. Yn draddodiadol, mae hwn yn cael ei fwyta mewn ffordd wahanol ymhob ardal: yn Nyfnaint, yr hufen sy'n cael ei roi ar y sgonsen gyntaf ac yna'r jam ar ei ben; yng Nghernyw daw'r jam gyntaf ac wedyn yr hufen.
[37]
Aeth traddodiad y te hufen a'r ryseitiau traddodiadol i
dde Awstralia
gyda'r mewnfudwyr cynnar o Gernyw a Dyfnaint.
[38]
Yn 2010, dechreuodd fferm Langage Farm yn Nyfnaint ymgyrch am gael
Enw Tarddiad Gwarchodedig
i "de hufen Dyfnaint" yn yr un modd ag sydd gan "hufen tolch Cernyw".
[39]
[40]
Amrywiad ar y te hufen traddodiadol yw "Mellt a Tharanau", sy'n cynnwys tafell o fara ac ar ei ben hufen tolch a
thriagl melyn
neu
ddu
neu fel.
[41]
Mae hufen tolch yn cael ei fwyta gyda phwdinau poeth ac oer. Fe'i defnyddir yn aml wrth bobi, yn enwedig hufen tolch Dyfnaint, sy'n llai melyn oherwydd lefelau is o
garoten
yn y gwair yno. Mae i'w gael mewn
hufen ia
[42]
a
chyffug
[43]
drwy gydol Cernyw a de-ddwyrain Lloegr.
Gellir defnyddio hufen tolch mewn rhai bwydydd sawrus,
[44]
fel tatws stwnsh,
risotto
ac wyau wedi'u sgramlo.
[45]
"Hufen bresych" oedd un o ddanteithion canol y 17g. Nid oedd yn cynnwys bresych, ond roedd siwgr a
d?r rhosynnau
'n cael eu gwasgaru ymhlith haenau o hufen tolch a oedd a golwg debyg i haenau dail fresychen.
[46]
Roedd yr hufen yn cael ei fwyta'n aml gyda cheulfwyd, neu laeth maidd, a oedd yn ffasiynol hyd at ganol y 20g.
Yn ystod gwledd briodas y
Tywysog Siarl
a'r
Arglwyddes Diana Spencer
ym 1981, cafwyd cwrs o fefus a hufen tolch Cernyw.
[4]
Llenyddiaeth a llen gwerin
[
golygu
|
golygu cod
]
Soniodd
Edmund Spenser
am hufen tolch yn ei gerdd
The Shepheardes Calender
ym 1579:
Ne would she scorn the simple shepherd swain,
For she would call him often heam,
And give him curds and clouted cream.
Yn yr un modd a sawl peth sy'n tarddu o Gernyw a Dyfnaint, mae hufen tolch yn rhan o len gwerin yr ardal. Er enghraifft, mae un chwedl yn son am ferch o'r enw Jenny yn denu'r cawr Blunderbore (neu Moran) drwy roi'r hufen iddo'i fwyta. Fe gwympodd y cawr mewn cariad a hi a daeth Jenny'n bedwaredd wraig iddo.
[47]
Mae chwedl arall o Dartmoor yn adrodd hanes tywysoges a oedd am briodi a thywysog y coblynnod, ond yn ol y traddodiad, roedd rhaid iddi ymdrochi mewn hufen pur yn gyntaf. Yn anffodus, roedd gwrach a oedd am roi'r tywysog yn ?r i'w merch hi yn suro'r hufen o hyd. Yn y pen draw, roddodd y tywysog hufen tolch i'r dywysoges ac ni allai'r wrach droi hwnnw'n sur.
[48]
- ↑
BBC Devon: article on clotted, or clouted, cream
- ↑
2.0
2.1
2.2
2.3
"Interview with Nicholas Rodda"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2010-11-06
. Cyrchwyd
2 Rhagfyr
2010
.
- ↑
Figioni, Paula (2010).
How Baking Works: Exploring the Fundamentals of Baking Science
. John Wiley and Sons. t. 363.
ISBN
0-470-39267-3
.
- ↑
4.0
4.1
4.2
4.3
4.4
Anderson, Lisa (23 Ionawr 1985).
"
'
Clotted cream' caviar of dairy"
.
Ottawa Citizen
. Cyrchwyd
3 Rhagfyr
2010
.
- ↑
Clay, Xanthe (13 Gorffennaf 2007).
"
Full fat takes the cream
"
. London: The Telegraph
. Cyrchwyd
2011-03-01
.
No one is suggesting that eating clotted cream for breakfast every day is life-prolonging, but a moderate amount of dairy fat in your diet is not only not going to do you harm, it's actually healthy, as well as life-enhancing.
- ↑
Scarborough, P., Rayner, M., Stockley, L., & Black, A. (2007).
"Nutrition professionals' perception of the 'healthiness' of individual foods"
.
Public Health Nutrition
10
(4): 346?353.
doi
:
10.1017/S1368980007666683
.
http://www.aseanfood.info/Articles/11020362.pdf
. Adalwyd 5 Mai 2013
.
- ↑
Food Standards Agency: Manual of Nutrition
. HMSO Llundain. 2008.
- ↑
Terry Marsden; Jonathan Murdoch (2006).
Between the local and the global: confronting complexity in the contemporary agri-food sector
. Emerald Group Publishing. tt. 306?309.
ISBN
0-7623-1317-X
. Cyrchwyd
2 Rhagfyr
2010
.
- ↑
Alan Davidson; Tom Jaine (2006).
The Oxford companion to food
. Oxford University Press. t. 225.
ISBN
0-19-280681-5
.
- ↑
10.0
10.1
Wood, Jacqui
.
Prehistoric Cooking
. Stroud: Tempus, 2001.
ISBN 0-752-41943-9
- ↑
Medieval Decon & Cornwall: Shaping an Ancient Countryside
, Gol. Sam Turner, 2006
- ↑
"The Pre-Norman Landscape"
. Flyingpast.org.
- ↑
Gweler:
A tour through Cornwall, in the autumn of 1808
. Wilkie and Robinson. 1809. tt. 360?361.
a
Spencer, Nikki (30 Mai 1998).
"
The tartars of cream
"
. Llundain:
The ndependent
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2012-01-21
. Cyrchwyd
2011-01-07
.
- ↑
Lane, John (1998).
In Praise of Devon: A Guide to Its People, Places and Character
. Dundurn Press Ltd.
ISBN
1-870098-75-7
.
- ↑
"
Did cream teas originate in Tavistock in 997AD?
"
.
BBC News
. 17 Ionawr 2004
. Cyrchwyd
3 Rhagfyr
2010
.
- ↑
"
"
To make Clouted Cream",
The Compleat Cook
(1658)"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2014-08-19
. Cyrchwyd
2014-05-10
.
- ↑
Sinclair, Sir John (1807).
The code of health and longevity: or, A concise view, of the principles calculated for the preservation of health, and the attainment of long life
. Printed for A. Constable & co. tt. 272?273.
- ↑
"Rural economy: The dairy"
.
New York Times
. 21 Ionawr 1853. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2012-11-10
. Cyrchwyd
3 Rhagfyr
2010
.
- ↑
The transactions of the Provincial medical and surgical association
. Provincial Medical and Surgical Association, Worcester,. 1839. tt. 203?204.
CS1 maint: extra punctuation (
link
)
- ↑
Spencer, Nikki (30 Mai 1998).
"
The tartars of cream
"
. Llundain:
The Independent
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2012-01-21
. Cyrchwyd
7 Ionawr
2011
.
- ↑
"cornishcream.co.uk"
. Pengoon Farm
. Cyrchwyd
7 Ionawr
2011
.
- ↑
Cyfarwyddeb 98
30 Medi 1998
Supplementing the Annex to Regulation (EC) No 2400/96 on the entry of certain names in the Register of protected designation of origin and protected geographical indications
- ↑
23.0
23.1
23.2
Early, Ralph (1998).
The technology of dairy products
. Springer. tt. 45?49.
ISBN
0-7514-0344-X
.
- ↑
24.0
24.1
24.2
Fielden, Marjory Eckett (1934). "
Old-time survivals in Devon".
Report and Transactions of the Devonshire Association
(Torquay: The Devonshire Press)
LXVI
: 367.
- ↑
A. H. Varnam; Jane P. Sutherland (2001).
Milk and milk products: technology, chemistry and microbiology
. Springer. tt. 204?205.
ISBN
0-8342-1955-7
.
- ↑
"
Rodda's clotted cream boss whips up a media frenzy
"
. The Observer. 22 Mai 2011
. Cyrchwyd
12 Mawrth
2013
.
- ↑
"Forty-five jobs go in dairy close"
.
BBC News
. 23 Hydref 2006
. Cyrchwyd
2 Rhagfyr
2010
.
- ↑
"Fury as 'Definitely Devon' clotted cream is made in Cornwall and label says add jam first"
. This Is Devon. 21 Ebrill 2011. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2011-07-23
. Cyrchwyd
13 Mehefin
2011
.
- ↑
"Trading probe into 'Definitely Devon' claims"
. This Is Cornwall. 26 Mai 2011. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2012-02-10
. Cyrchwyd
13 Mehefin
2011
.
- ↑
"Devonshire (Clotted) or Devon Cream Recipe"
. Joy of Baking
. Cyrchwyd
3 Rhagfyr
2010
.
- ↑
"St James's Restaurant at Fortnum & Mason"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2012-03-26
. Cyrchwyd
2014-05-10
.
- ↑
"Afternoon tea at the Heights - serving a traditional Dorset cream tea"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2014-07-09
. Cyrchwyd
2014-05-10
.
- ↑
"The Teashop, Ross-on-Wye"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2013-06-21
. Cyrchwyd
2014-05-10
.
- ↑
"Calbourne Classics Isle of Wight clotted cream"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2012-01-11
. Cyrchwyd
2014-05-10
.
- ↑
"Welsh Icons: Welsh Dairy Products"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2011-10-02
. Cyrchwyd
2014-05-10
.
- ↑
Nigel Slater's Devonshire cream tea recipes
,
The Guardian
, 22 Awst 2010
- ↑
"How do you do take your cream tea?"
.
BBC News Online
. 9 Mehefin 2010
. Cyrchwyd
2 Rhagfyr
2010
.
- ↑
Wilfrid Prest, Kerrie Round, Carol S. Fort (2001).
Wakefield Companion to South Australian History
.
Wakefield Press
. t. 210.
ISBN
1-86254-558-8
.
CS1 maint: multiple names: authors list (
link
)
- ↑
Savill, Richard (20 Mai 2010).
"Cream teas battle rages between Devon and Cornwall"
.
The Daily Telegraph
. London
. Cyrchwyd
3 December
2010
.
- ↑
"Devon cream tea campaign put to government"
.
BBC News Online
. 8 Mehefin 2010
. Cyrchwyd
2 Rhagfyr
2010
.
- ↑
"Britain's Best at Teatime"
.
The New York Times
. 5 Medi 1982
. Cyrchwyd
2007-01-28
.
- ↑
For example:
"Kelly's of Cornwall products"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2011-01-02
. Cyrchwyd
2010-12-03
.
- ↑
For example:
"Radford's Fine Fudge"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2011-01-19
. Cyrchwyd
2011-03-22
.
- ↑
BBC food: Clotted cream recipes
- ↑
"Clotted cream: the perfect summer treat"
.
The Guardian
. 22 Mehefin 2011.
- ↑
A gift to young housewives
. Indiana University Press. 1998. tt. 368?369.
ISBN
0-253-21210-3
.
- ↑
Viccars, Sue (2011).
Frommer's Devon and Cornwall With Your Family
. Frommer. t. 238.
ISBN
0-470-74947-4
.
- ↑
Sandles, Tim.
"Dartmoor Clotted Cream"
. Legendary Dartmoor
. Cyrchwyd
3 Rhagfyr
2010
.
[
dolen marw
]