한국   대만   중국   일본 
Howard Hughes - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Howard Hughes

Oddi ar Wicipedia
Howard Hughes
Ganwyd Howard Robard Hughes Jr.  Edit this on Wikidata
24 Rhagfyr 1905  Edit this on Wikidata
Houston   Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Ebrill 1976  Edit this on Wikidata
Houston   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad Technoleg California
  • Prifysgol Rice
  • The Thacher School
  • Fessenden School  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth cynhyrchydd ffilm , cyfarwyddwr ffilm , hedfanwr, flight engineer, entrepreneur, dyfeisiwr , cynhyrchydd  Edit this on Wikidata
Tad Howard R. Hughes, Sr.  Edit this on Wikidata
Mam Allene Stone Gano  Edit this on Wikidata
Priod Ella Botts Rice, Jean Peters  Edit this on Wikidata
Partner Terry Moore, Katharine Hepburn , Faith Domergue, Ava Gardner, Gloria Vanderbilt , Ginger Rogers , Rita Hayworth , Jean Harlow   Edit this on Wikidata
Gwobr/au Medal Aur y Gyngres, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan  Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.hhmi.org/   Edit this on Wikidata
llofnod

G?r busnes ac entrepreneur o dras Gymreig o Unol Daleithiau America oedd Howard Robard Hughes, Jr. ( 24 Rhagfyr 1905 ? 5 Ebrill 1976 ). Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn awyrenau , buddsoddi , peirianneg a chreu ffilmiau . Daeth i amlygrwydd bydeang yn y 1920au yn y 1920au drwy greu ffilmiau yn Hollywood - rhai drudfawr ac yn aml - dadleuol ee The Racket (1928), Hell's Angels (1930), Scarface (1932), a The Outlaw (1943). Yn ystod ei oes, roedd yn un o bobl gyfoethoca'r byd, gan wneud ei arian ei hun yn hytrach na thrwy etieddu arian.

Ymhlith ei gariadon roedd: Billie Dove, Bette Davis , Ava Gardner , Olivia de Havilland , Katharine Hepburn , Ginger Rogers a Gene Tierney; gofynnodd i Joan Fontaine ei briodi sawl tro, heb fawr o lwc.

Yn dilyn hyn, ffurfiodd The Hughes Aircraft Company a huriodd lawer o beiriannwyr a chynllunwyr. Treuliodd weddill y 1930au yn sefydlu sawl record hedfan, cynhyrchodd yr Hughes H-1 Racer a'r H-4 "Hercules" (a adnabyddir ar lafar fel y "Spruce Goose") a phrynodd ac ehangodd y Trans World Airlines (TWA) , a werthwyd yn ddiweddarach i gwmni American Airlines [1] . Prynodd hefyd Air West a'i ailenwi'n Hughes Airwest ; gwerthodd y cwmni hwn yn ei dro i Republic Airlines (1979?1986).

Rhestrwyd Hughes yn rhestr y Flying Magazine o 50 'Arwr y Byd Hedfan', gan ddod yn 25fed. [2] Fe'i cofir yn benaf am ei arian anhygoel, ei ymddygiad ecsentrig, gwahanol ac am dreulio'i flynyddoedd olaf fel meudwy. Etifeddwyd ei waddol ariannol gan elusen a sefydlodd i ymchwilio i ddatblygiadau meddygol: Howard Hughes Medical Institute .

Cyndadau [ golygu | golygu cod ]

Roedd ei dad, Howard Robard Hughes, yr Hynaf (9 Medi 1869 ? 14 Ionawr 1924), hefyd yn ?r busnes a ffurfiodd Hughes Tool Company , a'i daid Felix Turner Hughes (10 Tachwedd 1837, Millstadt, Illinois ? 19 Hydref 1926, Los Angeles, California), yn farnwr. Cyn hynny bu Felix yn filwr ym Myddin yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America , ac roedd yn fab i Joshua Waters Hughes (g. 15 Hydref 1808) a Martha Askins; roedd yn ofaint. [3] [4] Ganwyd ei dad William Hughes tua 1780, priododd tua 1807, Judith Hughes, (g. 1790), merch Josiah Hughes).

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "copi archif" . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-06 . Cyrchwyd 2015-10-05 .
  2. "51 Heroes of Aviation." Archifwyd 2017-07-02 yn y Peiriant Wayback . Flying magazine ; adalwyd Rhagfyr 2014.
  3. www.genealogy.com; adalwyd Hydref 2015
  4. Gweler: "Genealogy of Howard Robard Hughes Jr" gan Mary Smith Fay, yn y National Genealogical Quarterly , Mawrth 1983, Cyfrol 71 #1, tud 5-12.