Llysieuyn
bychan ydy'r
hopys
(
Lladin
:
Humulus lupulus
) a ddefnyddir i roi blas a chadernid i
gwrw
ac mewn
moddion llysieuol
. Credir iddo gael ei ddefnyddio i roi blas ar gwrw mor bell yn ol a'r 11g ond mae dogfennau o'r
Almaen
yn dangos iddyn nhw gael eu tyfu yno yn 736 O.C.
[1]
Gall y planhigyn dyfu'n gyflym iawn ac fel arfer fe'i gwelir yn dringo rhesi o linyn mewn caeau pwrpasol, hyd at 6 metr o ran hyd.
Dywedir ei fod yn blanhigyn da ar gyfer gwella
diffyg cwsg
mewn person o'i yfed fel te; gellir hefyd ei stwffio y tu fewn i'r gobennydd.
[2]
Mae Comisiwn Ymchwil i Iechyd, yr Almaen wedi profi y tu hwnt i amheuaeth ei fod yn dda i gynorthwyo person i gysgu.
[3]
Cred llawer fod gan y llysieuyn hwn rinweddau eraill, sef at y
diffyg traul
ac fel
antiseptig
. Gan ei fod yn perthyn i'r un teulu a
marijuana
, cred rhai bod y perthynas a chwsg yn deillio o'r un fan.
[3]
Gellir ei gymryd wrth ei hun, ond fel arfer, cymysgir ef gyda pherlysieuyn rhinweddol arall, sef
Triaglog
(
valarian
).