Can gospel i blant a ysgrifennwyd gan Harry Dixon Loes yn y 1920, a hynny o dan yr enw "
This Little Light of Mine
", yw
"Hon yw Fy Fflam Fach I
". Cafodd ei haddasu gan Zilphia Horton, ynghyd a nifer o actifyddion eraill, mewn cysylltiad a'r mudiad hawliau sifil.
[1]
Mae thema Feiblaidd i'r geiriau, ac mae'n bosib ei fod yn seiliedig ar eiriau Iesu yn Mathew 5:14-16 a Luc 11:33, ble mae'n cyfeirio at oleuni a channwyll.
Ceir nifer o fersiynau o'r gan erbyn heddiw. Mae'r gan hefyd wedi'i seciwlareiddio i "This Little Girl of Mine" a'i recordio gan
Ray Charles
[2]
yn 1956 a The Everly Brothers yn ddiweddarach. Mae'n aml yn cael ei chyflwyno gyda chyfres o symudiadau dwylo ar gyfer plant.
Daeth yn anthem hawliau sifil yn y 1950au a'r 1960au o dan ddylanwad Zilphia Horton, Fannie Lou Hamer, ac yn arbennig y fersiwn gan Betty Fikes.
[3]
Recordiwyd hi gan The Seekers ar gyfer eu halbwm
Hide & Seekers
(hefyd yn cael ei adnabod fel
The Four & Only Seekers
) yn 1964. Daeth yn gan boblogaidd i blant dros amser, a chafodd ei recordio a'i pherfformio gan Raffi yn the 1980au.
Perfformiodd Odetta a Boys Choir of Harlem y gan ar raglen
The Late Show with David Letterman
ar 17 Medi 2001, y gyntaf ar ol i Letterman ail-ddechrau darlledu yn dilyn digwyddiadau
9/11
.
[4]