Llwyth o fewn isdeulu'r
Homininae
yw
Hominini
. Mae gan y llwyth hwn dri is-lwyth:
Hominina
, a'i genws
Homo
, sef y dynolion;
Australopithecina
, sy'n cynnwys sawl genera diflanedig, sef yr
Awstralopithesiniaid
; a
Panina
, a'i un genws
Pan
, sef y
tsimpansiaid
.
[1]
[2]
Gelwir aelodau cytras y llwyth hwn, gan gynnwys
Homo
a'r rhywogaethau Awstralopithesinaidd hynny a ffurfiwyd
ar ol
hollti oddi wrth y tsimpansiaid, yn epaod dynaidd.
Cangen ddynolaidd yw'r is-lwyth
Hominina
; hynny yw, dynolion y genws
Homo
’n unig. Cynnigiodd anthropolegwyr y term tacsonomig
Hominini
ar sail y dylai'r rhywogaeth lleiaf tebygol gael ei wahanu oddi wrth y ddau arall. Y tsimpansi cyffredin a bonobo'r genws
Pan
yw perthnasau agosaf y dynolion, o ran esblygiad. Maen nhw'n rhannu'r un hynafiad a dynolion, hynafiad a drigai ar y Ddaear 4-7 miliwn o flynyddoedd yn ol (
CP
).
[3]
Mae ymchwil a wnaed yn 1973 gan Mary-Claire King yn dangos fod 99% o'r
DNA
yn gyffredin rhwng y tsimpansi a'r bod dynol.
[4]
Addaswyd y ffigwr hwn yn ddiweddarach gan ymchwilwyr i 94%.
[5]