Prif gymeriad ffuglennol sydd yn dad y
teulu Simpson
yn y gyfres deledu animeiddiedig
The Simpsons
yw
Homer Jay Simpson
. Fe leisir gan
Dan Castellaneta
ac ymddangosodd ar deledu yn gyntaf, yngh?d a gweddill ei deulu, yn y cart?n byr "Good Night" ar
The Tracey Ullman Show
ar 19 Ebrill, 1987. Crewyd a dyluniwyd Homer gan y cartwnydd
Americanaidd
Matt Groening
tra roedd yn aros yng nghyntedd swyddfa
James L. Brooks
. Cafodd Groening ei alw i gynnig cyfres o gartwnau byrion yn seiliedig ar ei strip comig
Life in Hell
ond penderfynodd i greu gr?p newydd o gymeriadau. Enwodd y cymeriad ar ol ei dad Homer Groening. Wedi iddynt ymddangos ar
The Tracey Ullman Show
am dair mlynedd, ymddangosodd y teulu Simpson ar gyfres eu hunain ar
Fox
ar 17 Rhagfyr, 1989. Bellach mae
The Simpsons
yn parhau i gael ei gynhyrchu a'i ddarlledu ar deledu mewn nifer fawr o wledydd.
Tad anfoesgar a digywilydd y teulu Simpson yw Homer. Mae ganddo fe a'i wraig
Marge
tri o blant:
Bart
,
Lisa
a
Maggie
. Fel enillwr cyflog y teulu mae'n gweithio yn
Atomfa Springfield
. Ymgorffora Homer nifer o ystrydebau
dosbarth gweithiol
Americanaidd: mae'n amrwd, gordew, analluog, lletchwith, a diog; ond mae hefyd yn hynod o ymroddedig i'w deulu. Er gwaethaf trefn reolaidd ei fywyd
coler las
maestrefol, mae Homer wedi cael nifer o brofiadau rhyfeddol.
Yn y cartwnau byrion a phenodau cynnar, lleisiodd Castellaneta Homer fel dynwarediad bras o
Walter Matthau
; ond yn ystod ail a thrydydd dymhorau'r rhaglen hanner-awr datblygodd llais Homer yn fwy cadarn er mwyn galluogi mynegiant eangach o emosiynau. Ymddangosa Homer mewn cyfryngau eraill sy'n gysylltiedig a
The Simpsons
? yn cynnwys gemau fideo,
Y Simpsons Ffilm
,
The Simpsons Ride
, hysbysebion a llyfrau comig ? ac mae wedi sbarduno llinell o
farsiandiaeth
. Cynhwysir ei ymadrodd cyffredin, y rhoch drallodus "
d'oh!
", yng
Ngeiriadur Saesneg Newydd Rhydychen
ers 1998 a
Geiriadur Saesneg Rhydychen
ers 2001.
Homer yw un o'r cymeriadau ffuglennol mwyaf dylanwadol ar deledu: disgrifiwyd gan
The Sunday Times
fel "cread comig gorau yr oes [fodern]". Enwyd fel yr ail gymeriad cart?n gorau gan
TV Guide
a chafodd ei ethol fel y cymeriad teledu gorau erioed gan wylwyr
Channel 4
. Enillodd Castellaneta dair
Wobr Emmy
am Berfformiad Lleisiol Ardderchog a
Gwobr Annie
arbennig am leisio Homer. Yn 2000, cafodd Homer, yngh?d a gweddill ei deulu, ei wobrwyo gyda seren ar y
Hollywood Walk of Fame
.