Epoc
daearegol
ydy
Holosen
a gychwynodd tua 12,000 blwyddyn yn ol hyd at y presennol; mae'n dilyn y
Pleistosen
[1]
. Mae'r rhan o'r cyfnod
Chwarteraidd
.
Tardd yr enw o'r geiriau
Groeg
holos
(
?λο?
) ‘cyfan’ a
kainos
(
καιν??
) ‘newydd, diweddar’; a'r cyfieithiad llythrennol, felly, ydy ‘hollol newydd, cwbl ddiweddar’.
Caiff yr Holosen ei gysylltu gyda'r cyfnod cynnes, presennol, a adnabyddir gan naturiaethwyr a
biolegwyr
fel
Marine Isotope, Stage 1
, a daw'r dystiolaeth o hanes elfennau gymharol ddiweddar o'r ddaear, megis
rhewlifau
a ffurfiwyd yn ystod yr
Oes Ia Fawr
. Nodwedd arall ohono yw datblygiad
bodau dynol
, a'u heffaith ar amgylchedd y Ddaear a'r dull y maent wedi cofnodi ei hanes. Oherwydd hyn, bathwyd term arall (yn answyddogol) sef
Anthroposen
er mwyn cynnwys yr elfen yma o effaith dyn ar
ecosystemau
bregys y Ddaear, gan fod yr effaith hwn ar
fioamrywiaeth
mor sylweddol.
Mae'r epoc hwn yn dilyn yr Oes Ia ddiwethaf, sef y
Wisconsinan Glacial Period
. the Baltic-Scandinavian Ice Age, or the Gellir ei rannu'n bump is-epocau o ran newidiadau o bwys yn yr hinsawdd:
- Nodyn: Ystyr "
ka
" yw "mil o flynyddoedd".