Herbert Kitchener, Iarll 1af Kitchener
|
---|
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/84/Herbert_Kitchener_1914.jpg/220px-Herbert_Kitchener_1914.jpg) |
Ganwyd
| Horatio Herbert Kitchener
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) 24 Mehefin 1850
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Ballylongford
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Bu farw
| 5 Mehefin 1916
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Mor y Gogledd
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Dinasyddiaeth
| Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Alma mater
| - Academi Milwrol Brenhinol
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png)
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
, diplomydd,
peiriannydd
, swyddog milwrol, director of land survey, swyddog y fyddin
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Swydd
| aelod o D?'r Arglwyddi,
Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel
, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig,
llysgennad
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Adnabyddus am
| A trigonometrical survey of the island of Cyprus
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Tad
| Henry Horatio Kitchener
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Mam
| Frances Anne Chevallier
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwobr/au
| Chevalier de la Legion d'Honneur, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Sior,
Urdd y Gardas
, Livingstone Medal, Knight of St. Patrick, Knight Grand Commander of the Order of the Star of India, Knight Grand Commander of the Order of the Indian Empire
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Milwr ac
ymerodraethwr Prydeinig
oedd y Maeslywydd
Horatio Herbert Kitchener, Iarll 1af Kitchener
KG
,
KP
,
GCB
,
OM
,
GCSI
,
GCMG
,
GCIE
,
PC
(
24 Mehefin
1850
?
5 Mehefin
1916
). Arweiniodd sawl ymgyrch drefedigaethol gan
y Fyddin Brydeinig
yn
Affrica
, a daeth yn enwog am ei greulondeb yn erbyn y boblogaeth, yn enwedig ei bolisi tir llosg a'i
wersylloedd crynhoi
yn ne'r Affrig.
[1]
[2]
Ef oedd concwerwr y
Swdan
yn sgil methiant
Gordon
, a phennaeth y lluoedd yn ystod
Ail Ryfel y Boer
. Penodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel ar ddechrau'r
Rhyfel Byd Cyntaf
. Bu farw ger
Ynysoedd Erch
pan gafodd ei long ei suddo gan un o ffrwydron yr Almaenwyr. Ei deitlau llawn oedd
Horatio Herbert Kitchener, Iarll 1af Kitchener o Khartoum ac o Broome
,
Is-iarll Broome o Broome, Barwn Denton o Denton, Barwn Kitchener o Khartoum ac o Aspall
, ac
Is-iarll Kitchener o Khartoum, o'r Vaal, ac o Aspall
.
Fe'i ganwyd yn Ballylongford ger
Listowel
,
Swydd Kerry
, yn fab i rieni Seisnig, y milwr Henry Horatio Kitchener (1805?1894) a'i wraig Frances Anne Chevallier (m. 1864). Cafodd ei fagu yn
Iwerddon
nes i'r teulu symud i'r
Swistir
ym 1864. Mynychodd ysgol breswyl Saesneg yn Rennaz ger
Montreux
.
[3]
Dychwelodd i Loegr ym 1867 a chafodd ei hyfforddi'n swyddog milwrol yn yr Academi Filwrol Frenhinol, Woolwich. Cafodd ei gomisiynu i'r
Peirianwyr Brenhinol
a'i ddanfon i wasanaethu yn y Dwyrain Canol. Ym 1886, penodwyd yn Llywodraethwr Taleithiau Eifftaidd Dwyrain Swdan a Glannau'r Mor Coch, teitl rhwysgfawr ond mewn gwirionedd dim ond Porth Suakin oedd dan reolaeth y Prydeinwyr ar y pryd. Fe ddringodd ysgol yr yrfa filwrol-lywodraethol, trwy wasanaethu'n ddirprwy gadfridog yng
Nghairo
ac yna'n sirdar, neu bencadfridog, ar fyddin yr Aifft ym 1892.
[4]
Daeth i sylw'r cyhoedd ym 1898 am iddo ennill Brwydr Omdurman a thrwy hynny dwyn y Swdan i reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig. Fe'i wobrwyd gyda'r teitl Arglwydd Khartoum. Yn y frwydr bu'r milwr ifanc
Winston Churchill
, a ysgrifennodd i'w fam: "
Our victory was disgraced by the inhuman slaughter of the wounded and Lord Kitchener was responsible for this.
"
[5]
Penodwyd yn Bennaeth Staff yn Ail Ryfel y Boer ac yn y Transvaal bu'n allweddol yn ymgyrch
yr Arglwydd Roberts
i orchfygu Gweriniaethau'r Boeriaid. Dyrchafwyd Kitchener i swydd Roberts, y pencadfridog, a sefydlodd wersylloedd i garcharu sifiliaid tra'n ymladd yn erbyn herwfilwyr Boeraidd. O 1902 hyd 1909, arweiniodd
Byddin Brydeinig India
a bu'n cweryla gyda'r Rhaglaw
Yr Arglwydd Curzon
. Dychwelodd Kitchener i'r
Aifft
yn Asiant a Phrif Gonswl Prydeinig, hynny yw llywodraethwr y wlad.
Yr hysbyseb recriwtio enwog, seiliedig ar bortread gan
Alexander Bassano
Ar gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914 penodwyd Kitchener yn weinidog cabinet yn llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel. Rhagfynegodd y byddai'r rhyfel yn para tair blynedd o leiaf, a threfnodd fyddin wirfoddol (Byddin Kitchener) a chynydd mewn cynhyrchu ar gyfer yr ymdrech frwydro ar Ffrynt y Gorllewin. Daeth yn symbol o gryfder ewyllys Prydain ar ddechrau'r rhyfel, ac mae'r poster recriwtio ohono yn pwyntio'i fys yn gyfarwydd hyd heddiw. Er ei ymdrechion, cafodd ei feio am brinder
sieliau
ym 1915 a'i amddifadu o'i reolaeth dros arfau a strategaeth. Bu foddi Kitchener pan suddwyd yr HMS
Hampshire
ger Ynysoedd Erch, ar ei ffordd i
Rwsia
.
[4]
Bu farw mwy na 600 o bobl eraill ar y llong.