Mathemategydd
oedd
Henry Owen
(
1716
?
14 Hydref
1795
). Roedd yn ail fab (ar ol Lewis Owen) i
gyfreithiwr
o'r enw William Owen a'i wraig Jonette Owen.
Ganwyd Henry Owen yn Nhan-y-gadair,
Dolgellau
. Cafodd ei addysg yn
Ysgol Rhuthun
ac yna yng
Ngholeg yr Iesu, Rhydychen
pan oedd yn 19 mlwydd oed. Bu yno
Rhydychen
o
1736
hyd nes iddo raddio, ym
1739
. Fe raddiodd eilwaith, mewn
meddygaeth
ym
1746
gan gymryd ei M.D. ym
1753
. Fe'i urddwyd ym
1746
, a bu'n gurad ac yn
feddyg
yng
Nghaerloyw
am dair mlynedd. Terfynodd ei waith meddygol rwydro wedi hynny, oherwydd salwch. Daeth yn gaplan i ?r bonheddig, a rhoddodd hwnnw iddo, ym 1752, reithoraeth Terling yn
Essex
? roedd hefyd yn gurad yn
Stoke
Newington.
[1]
Dyma rhai o'r teitlau a gyhoeddwyd gan Owen:
- Harmonia Trigonometrica, or A short treatise on Trigonometry;
(1748)
- The Intent and Propriety of the Scripture Miracles considered and explained;
(1755)
- An Enquiry into the present State of the Septuagint Version of the Old Testament;
(1769)
- Critica Sacra, or a short Introduction to Hebrew Criticism;
(1777)
- Collatio codicis Cottoniani Geneseos cum editione Romana a Joanne Ernesto Grabe jam olim facta nunc demum summa cura edita ab Henrico Owen, M.D.;
(1778)
- A brief Account, historical and critical, of the Septuagint Version of the Old Testament, to which is added a Dissertation on the comparative Excellency of the Hebrew and Samaritan Pentateuch;
(1787)
- The Modes of Quotation used by the Evangelical Writers, explained and vindicated.
(1789)