Yr Henfyd
yw'r enw traddodiadol a ddefnyddir er cyfnod y
Dadeni
i ddisgrifio'r gwareiddiau a flodeuai o amgylch y
Mor Canoldir
, o ddechrau'r
dinasoedd
cyntaf i gwymp yr
Ymerodraeth Rufeinig
. Mae'n cwmpasu y gwareiddiau cyntaf ym
Mesopotamia
a'r
Hen Aifft
, y
Ffeniciaid
,
Groeg yr Henfyd
,
Carthago
a nifer o wareiddiau eraill. Mae ei derfynau cronolegol a daearyddol braidd yn amwys ond gellid ei ddiffinio ymhellach fel y byd oedd yn adnabyddus i'r Groegiaid hynafol a'r Rhufeiniaid. Roedd hynny'n cynnwys rhannau helaeth o
Orllewin Ewrop
, basn y Mor Canoldir gan gynnwys de Ewrop,
Gwlad Groeg
a'i hynysoedd,
Asia Leiaf
,
Persia
, y
Dwyrain Canol
,
Yr Aifft
a
Gogledd Affrica
. Enwau eraill ag ystyr gyffelyb a ddefnyddir yw 'Y Byd Hynafol', 'Yr Henfyd Clasurol' ac 'Y Byd Clasurol' (tueddir i ddefnyddio'r gair
Clasurol
am y cyfnod pan oedd Groeg a Rhufain yn eu hanterth).