한국   대만   중국   일본 
Hen Norseg - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Hen Norseg

Oddi ar Wicipedia
Ardaloedd lle siaredid Hen Norseg ac ieithoedd cysylltiedig yn nechrau'r 10g:        Tafodiaith Hen Norseg y gorllewin        Tafodiaith Hen Norseg y dwyrain        Hen Gutlandeg        Hen Saesneg        Gotheg y Crimea [1]        Ieithoedd Germanaidd eraill chanddynt rywfaint o gyd-eglurder ag Hen Norseg

Iaith Germanaidd gogleddol yw Hen Norseg a siaredid yn Llychlyn a gwladfeydd y Llychlynwyr ar draws arfordiroedd gogledd Ewrop, Ynysoedd Prydain ac Iwerddon , ac ar lannau afonydd dwyrain Ewrop o'r 8g i ganol y 14g. Dyma iaith lenyddol y sagau a genid yng Ngwlad yr Ia , a thraddodiadau hengerdd y skald a'r eda .

Trawsnewidiodd Cyn-Norseg yn Hen Norseg erbyn y 8g. Arhosai Hen Norseg yn hynod o sefydlog yn y cyfnod 1150?1350, cyn iddo ddatblygu yn ffurfiau cynnar ar yr ieithoedd Germanaidd gogleddol modern yn niwedd y 14g. Rhennir Hen Norseg yn dair tafodiaith : Hen Norseg y gorllewin, a ddatblygodd yn Hen Islandeg, Hen Norwyeg a Norseg yr Ynys Las; Hen Norseg y dwyrain, a ddatblygodd yn Hen Ddaneg a Hen Swedeg; ac Hen Gutlandeg, a ddatblygodd yn Gutlandeg . Hen Norseg yw iaith gysefin yr ieithoedd Islandeg , Ffaroeg , Norwyeg , Daneg , a Swedeg , a'r ieithoedd meirw Norn a Norseg yr Ynys Las . [2]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. * MacDonald Stearns, Crimean Gothic. Analysis and Etymology of the Corpus , Saratoga 1978. (Saesneg)
  2. "Nordiska sprak", Nationalencyklopedin : § Historia , §§ Omkring 800?1100 , 1994 (Swedeg)