한국   대만   중국   일본 
Hela - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Hela

Oddi ar Wicipedia
Hela Baedd , tacuinum sanitatis casanatensis (14eg ganrif)

Yr ymarfer o erlid anifeiliaid byw yw hela , gan amlaf bywyd gwyllt ar gyfer bwyta , adloniant , neu masnach . Me defnydd cyfoes y term yn cyfeirio ar hela cyfreithlon yn hytrach na herwhela . Cyfeirir at yr anifeiliaid a ddelir fel helwriaeth , gan amlaf maent yn famaliaid neu'n adar .

Gellir hela hefyd gyfeirio at waredu ar fermin , fel modd o reoli pla i atal ymledaeniad heintiau a achosir gan or-boblogaeth. Mai rhai sydd o blaid hela hefyd yn dadlau y gall hela fod yn elfen bwysig o reoli bywyd gwyllt, [1] ar mwyn helpu cynnal poblogaeth iach o anifeiliaid o fewn gallu cynhaliaeth system ecoleg yr amgylchedd lle nad yw rheolaeth naturiol megis ysglyfaethwyr yn bodoli. [2]

Pysgota yw'r term a ddefnyddir ar gyfer yr erlid o bysgod , a ni gaiff ei gategoreiddio fel hela yn gyffredin.

Yr Oesoedd Canol [ golygu | golygu cod ]

Sonia Beirdd yr Uchelwyr yn aml iawn am hela, ac felly hefyd y y cyfreithiau Cymreig . Nodir yr anifeiliaid canlynol yn aml: y carw coch, yr iwrch, y baedd gwyllt, y llwynog, y dyfrgi, y creyr, aderyn y bwn, y gylfinir, yr aran a gwenyn. Cai unrhyw un ddal y llwynog, y dyfrgi a’r iwrch a chadw gwenyn. Yn Y Naw Helwriaeth , sef testun a luniwyd tua chanol yr 16eg ganrif sy’n crybwyll y carw, yr iwrch, yr ysgyfarnog, y llwynog, y dringhedydd (sef y gath goed, y ffwlbart neu’r wiwer), y ceiliog coed (sef ffesant neu geiliog du'r mynydd, o bosibl, neu 'aderyn helwriaeth' yn gyffredinol), eogiaid, gwenyn, baeddod gwyllt ac eirth, er bod yr anifeiliaid hyn wedi diflannu o wledydd Prydain. [3]

Roedd sawl dull hela, nid yn unig ymlid gan helgwn a saethu gyda bwa ond hefyd drwy ddefnyddio rhwyd rawn (rhawn yw blew ceffyl). Er i r gael eu defnyddio weithiau ar gyfer dal anifeiliaid mawr fel y ceirw a'r baedd gwyllt yn ogystal a chreaduriaid bach fel pysgod, adar, cwningod ac ysgyfarnogod, ystyrid defnyddio rhwyd yn ddull 'dianrhydded' gan rai. Ceid dulliau hela mwy 'gwerinol a chanodd Maredudd ap Rhys gerddi gofyn a diolch am rwyd bysgota. Canodd Gruffudd ap Maredudd at y defnydd o dryfer i ddal eog ifanc (neu 'gleisiad'), a chrybwyllodd yr Ustus Llwyd at y defnydd o rwydi ddal dyfrast. Roedd sawl dull o hela adar, fel y gwelir yng nghywydd Dafydd ap Gwilym , 'Ymddiddan a'r Cyffylog', sef drwy eu saethu, eu dal mewn magl ac, efallai, eu gyrru i fan agored neu lannerch mewn coed, fel y gellid eu dal mewn rhwydi.

O'r holl anifeiliaid, yr hydd, oedd yr anifail hela uchaf ei fri, ac adlewyrchir hyn yng ngherddi'r cyfnod. Sonia Guto’r Glyn mewn cerdd i ofyn am walch fod Deon Bangor, Risiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, yn mwynhau hela hydd (cerdd 60.38).

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Ted Williams (Mawrth 2002). Wanted: More Hunters copy URL
  2.  Craig A Harper. Quality Deer Management Guidelines for Implementation . Agricultural Extension Service, The University of Tennessee. Adalwyd ar 2006-12-20.
  3. [1] adalwyd 21 Rhagfyr 2015