Y cildwrn a roddir ar
Ddydd Calan
(
Calan Gaeaf
yn wreiddiol) yw
Calennig
, er y dyddiau hyn mae'n gyffredin i roi bara a chaws.
[1]
Hel calennig yw'r arfer o fynd o gwmpas yn casglu'r arian: ceiniog newydd fel arfer. Roedd yn rhaid casglu'r arian cyn canol dydd, fodd bynnag.
Mae'r hen draddodiad hwn yn parhau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru o hyd. Mae prifddinas Cymru,
Caerdydd
, yn cynnal dathliadau Calennig ar ffurf g?yl tri diwrnod i groesawu'r Flwyddyn Newydd. Mae hi'n cynnal Pared Llusern Calennig trwy'r ddinas gydag arddangosfa weithdy tan fel rhan y dathliadau.
Mae llawer o bobl yn rhoi anrhegion ar fore Dydd Calan, ac mae plant yn cael afalau wedi'u rhoi ar sgiwer, wedi'u gorchuddio efo resins a ffrwyth.
[1]
Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae'n rhaid i bobl ymweld a phob un person yn y teulu cyn hanner dydd er mwyn casglu eu calennig, ac mae dathliadau yn amrywio o ardal i ardal. Yn
Stations of the Sun
, mae
Ronald Hutton
yn rhoi enghraifft o rigwm calennig o
Aberystwyth
o'r 1950au a chenid wrth gasglu'r calennig,
Dydd calan
yw hi heddiw,
Rwy'n dyfod ar eich traws
I ofyn am y geiniog,
Neu grwst, a bara a chaws.
O dewch i'r drws yn siriol
Heb nesid dim o'ch gwedd;
Cyn daw dydd calan eto
Bydd llawer yn y bedd
.
[1]
Mae Ronald Hutton hefyd yn nodi yn ne-ddwyrain Cymru ac yn ardal
Fforest y Ddena
, gelwir yr afal ar sgiwer ei hun y calennig, ac yn ei ffurf fwyaf manwl, mae'n cynnwys "afal neu oren, sy'n gorffwys ar dair ffon fel trybedd, wedi dwbio a blawd, cnau, ceirch neu wenith, wedi topio a theim neu berlysieuyn persawrus arall."
[1]
Dyma fersiwn arall o
Cwm Eithin
gan Hugh Evans:
Calenig wyf yn 'mofyn
Ddydd Calan ddechrau'r flwyddyn,
A bendith fyth fo ar eich t?
Os tycia im gael tocyn.
Calennig i mi, Calennig i'r ffon,
Calennig i fwyta'r noswaith hon:
Calennig i'm tad am glytio'm 'sgidia,
Calennig i mam am drwsio fy sana.
Rhowch galennig yn glonog
I ddyn gwan heb geiniog,
Gymaint roddwch rhowch yn ddiddig,
Peidiwch grwgnach am ryw chydig!
'
Nghalennig i'n gyfan ar fore dydd Calan:
Blwyddyn Newydd Dda i chwi!
[2]
Os gwrthodir rhoi calennig, yna bloeddir
Blwyddyn newydd ddrwg - a llond y t? o fwg
!
Yng
Ngheredigion
a
Sir Benfro
, arferid canu'r pennill canlynol,
Mi godais heddiw mas o'm t?
A'm cwd a'm pastwn gyda mi,
A dyma'm neges ar eich traws,
Sef llanw'm cwd a bara a chaws.
Yn ardal Dyffryn Teifi, cenir y canlynol,
Blwyddyn newydd dda i chi,
Ac i bawb sydd yn y t?,
Dyna yw'n dymuniad ni,
Blwyddyn newydd dda i chi.
- ↑
1.0
1.1
1.2
1.3
Hutton, Ronald (1996).
The Stations of The Sun
. Rhydychen, DU: Gwasg Prifysgol Rhydychen.
ISBN 0-19-820570-8
- ↑
Hugh Evans,
Cwm Eithin
(Gwasg y Brython, 1931).