Cronicl
o
Rws Kyiv
sy'n adrodd hanes
Slafiaid y Dwyrain
o'r
Dilyw
hyd at y flwyddyn
1110
yw
Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen
(Hen Slafoneg Dwyreiniol: Пов?сть врем?ньныхъ л?тъ
trawslythreniad:
Pov?st? vrem?n?nyx? l?t?
). Daw enw'r gwaith o frawddeg agoriadol ei destun: "Dyma hanesion y blynyddoedd o'r blaen parthed tarddiad gwlad Rws, tywysogion cyntaf Kyiv, ac o ba ffynhonnell y dechreuodd gwlad Rws." Fe'i elwir hefyd yn
Gronicl Cynradd Rwsia
,
Cronicl Kyiv
, neu
Gronicl Nestor
.
Credir iddo gael ei gyfansoddi ar ei ffurf gynharaf yn ystod y 12g, gan ddechrau gyda fersiwn goll dybiedig a ysgrifennwyd yn
Kyiv
ym 1113. Priodolid yn draddodiadol i fynach o'r enw Nestor, ond bellach fe'i cydnabyddir yn gywaith neu gasgliad o sawl gwaith gwahanol, yn seiliedig ar ddeunydd o groniclau
Bysantaidd
, ffynonellau Slafig o'r de a'r gorllewin, dogfennau swyddogol Rws, a'r
traddodiad llafar
. Er ei fod yn gynharach o ran dyddiad cyfansoddi na'r holl groniclau canoloesol eraill sydd ar glawr heddiw o wledydd
Rwsia
,
Belarws
, ac
Wcrain
, cynhwysir y llawysgrif hynaf ohono yng Nghodecs Laurentius, sy'n dyddio o 1377. Y prif lawysgrifau eraill yw Codecs Ipatiev (oddeutu 1425), Cronicl Radziwiłł a Chronicl Academi Moscfa (y ddau o ddiwedd y 15g). Pery'r hanes yng Nghodecs Ipatiev hyd at
1117
, yng Nghronicl Radziwiłł hyd at
1206
, ac yng Nghronicl Academi Moscfa hyd at y 15g.
Ynghyd a Chronicl Cyntaf Novgorod, mae
Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen
yn arbennig o bwysig am ei fod yn disgrifio digwyddiadau cynnar yn hanes Slafiaid y Dwyrain. Er enghraifft, mae'n adrodd sut y daeth tri brawd
Llychlynnaidd
a'u llwyth, y Rws, i greu seiliau gwladwriaeth Rws Kyiv yn 862:
"Dywedodd y Chud (llwyth Ffinnaidd) a'r Slovene a'r Krivichi (llwythi Slafaidd) a phawb wrth y Rws, "Mae ein gwlad yn fawr ac yn gyfoethog, ond nid oes trefn ynddi. Dewch i deyrnasu ac i reoli arnon ni." A dewisiwyd tri brawd a'u hil, a daethant a'r holl Rws gyda nhw, ac ymgartrefodd yr hynaf,
Rurik
, yn Novgorod, a'r ail, Sineus, yn Beloozero, a'r trydydd, Truvor, yn Izborsk. Ac o'r
Farangiaid
hyn y mae gwlad Rwsia yn cymryd ei henw."
Mae hefyd yn adrodd am ddyfodiad
Cristnogaeth
i Slafiaid y Dwyrain dan ddylanwad
Olga o Kiev
, a'r brwydrau cynnar rhwng tywysogion Slafiaid y Dwyrain.
- D. S Likhachev a V. P. Adrianova-Peretts,
Povest' Vremennykh Let
(St Petersburg: Nauka, 1996)