- Mae'r erthygl yma am sir Gwynedd. Am y deyrnas ganoloesol gweler
Teyrnas Gwynedd
. Gweler hefyd
Gwynedd (gwahaniaethu)
.
Sir
yng ngogledd-orllewin
Cymru
yw
Gwynedd
. Mae'n ffinio a
Sir Conwy
i'r dwyrain a gogledd, a
Phowys
a
Cheredigion
i'r de. Gwynedd yw y sir sydd a'r gyfartaledd uchaf o'i phoblogaeth yn siarad
Cymraeg
. Mae'r prif drefi yn cynnwys dinas
Bangor
,
Caernarfon
,
Dolgellau
,
Harlech
,
Blaenau Ffestiniog
,
Y Bala
,
Porthmadog
,
Pwllheli
,
Bethesda
a
Llanberis
. Lleolir
Prifysgol Bangor
yn y sir.
Plaid Cymru
sydd wedi rheoli'r cyngor ers ei sefydlu yn 1995.
Yn y gorffennol tybiodd haneswyr megis
J. E. Lloyd
taw tarddiad
Celtaidd
y gair "Gwynedd" oedd "casgliad o lwythau" ? yr un gwraidd a'r
Wyddeleg
fine
, sef llwyth.
[1]
Bellach, cydnabyddir cysylltiad rhwng yr enw a'r Wyddeleg
Feni
, sef un o enwau cynnar y Gwyddelod arnynt eu hunain, sy'n perthyn i
fian
, "mintai o ?yr yn hela a rhyfela, mintai o ryfelwyr dan arweinydd". Efallai
*u?en-, u?en?
(ymdrechu, dymuno, hoffi) yw'r bon
Indo-Ewropeg
.
[2]
Ymsefydlodd Gwyddelod yng ngogledd-orllewin Cymru, ac yn
Nyfed
, ar ddiwedd
cyfnod y Rhufeiniaid
.
Venedotia
oedd y ffurf
Ladin
, ac ym
Mhenmachno
mae carreg goffa o tua'r flwyddyn 500 sy'n darllen
Cantiori Hic Iacit Venedotis
("Yma y gorwedd Cantiorix, dinesydd o Wynedd").
[1]
Cedwid yr enw gan y
Brythoniaid
pan ffurfiwyd
Teyrnas Gwynedd
yn y 5g, a barhaodd hyd
oresgyniad Edward I
. Adferwyd yr enw hanesyddol hwn pan ffurfiwyd y sir newydd ym 1974.
Roedd yr hen sir Gwynedd (1974?1996) yn cyfateb yn fras i
Gwynedd Uwch Conwy
, prif diriogaeth
Teyrnas Gwynedd
. Roedd yn cynnwys rhan orllewinol
Sir Conwy
, yn cynnwys y
Creuddyn
, ac
Ynys Mon
, sef yr hen
Sir Gaernarfon
,
Sir Fon
a
Sir Feirionnydd
. Mae'r hen sir yn bodoli o hyd fel un o "siroedd cadwedig" Cymru at bwrpasau seremoniol.
- Gwynedd yng Nghymru
-
Gwynedd 1974?96
-
Gwynedd heddiw
Tarian yr hen sir, 1974?1996
Gallwch helpu Wicipedia drwy
ychwanegu at
yr adran hon.
Ceir
economi
cymysg yn y sir. Mae rhan bwysig o'r economi yn seiliedig ar
dwristiaeth
gyda nifer o ymwelwyr yn cael eu denu gan y traethau niferus a'r mynyddoedd. Gorwedd rhan sylweddol o'r sir ym
Mharc Cenedlaethol Eryri
, sy'n ymestyn o arfordir y gogledd i lawr i ardal
Meirionnydd
yn y de ac yn llawer ehangach na'r
Eryri
go iawn. Ond gwaith tymhorol yw twristiaeth ac mae hynny'n golygu diffyg gwaith yn y gaeaf. Problem arall gyda thwristiaeth yw'r alwad a greir am
dai haf
. Mae hyn yn gwthio prisiau tai i fyny allan o gyrraedd pobl leol ac yn effeithio ar sefyllfa'r iaith
Gymraeg
yn yr ardaloedd gwledig.
Mae
amaethyddiaeth
yn llai pwysig nag yn y gorffennol, yn enwedig yn nhermau y nifer o bobl sy'n ennill eu bywiolaeth o'r tir, ond mae'n aros yn elfen bwysig.
Y pwysicaf o'r diwydiannau traddodiadol yw'r
diwydiant llechi
, ond canran isel o weithwyr sy'n ennill eu bywoliaeth yn y
chwareli
erbyn heddiw.
Mae diwydiannau sydd wedi datblygu yn fwy diweddar yn cynnwys stiwdios teledu a sain (lleolir pencadlys
Cwmni Recordiau Sain
yn y sir). Ceir dau atomfa yng Ngwynedd: mae atomfa
Trawsfynydd
wedi cau ond ar hyn o bryd mae atomfa
Wylfa
yn dal i redeg.
Mae'r sector
addysg
yn bwysig iawn i'r economi lleol hefyd. Lleolir
Prifysgol Bangor
yma a cheir sawl coleg arall fel
Coleg Menai
hefyd.
Ar gyfer
llywodraeth leol
ceir sawl
cymuned
yng Ngwynedd. Mae nifer o'r rhain gyda'i chynghorau eu hunain.