Gwobr Goffa Daniel Owen
Enghraifft o'r canlynol
| gwobr
|
---|
Un o brif wobrau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
yw
Gwobr Goffa Daniel Owen
. Mae'r seremoni wobrwyo yn digwydd ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod. Rhoddir gwobr o £5000 am
nofel
yn
Gymraeg
sydd heb ei chyhoeddi o'r blaen.
Sefydlwyd y wobr yn 1978 ac fe'i enwyd ar ol y nofelydd Cymraeg nodedig
Daniel Owen
(1836-1895). Y wobr yn y flwyddyn gyntaf oedd £500, yn rhoddedig gan
HTV Cymru
. Yn y blynyddoedd cynnar nid oedd y wobr yn cael seremoni ar lwyfan y Pafiliwn ond fe gychwynwyd wneud hynny yn 1999, er nad yw'n seremoni orseddol lawn. Yn 2000, cododd y wobr ariannol i £5000, gan roi fwy o statws ac amlygrwydd i'r gystadleuaeth.
[1]