Cyfundrefn
wleidyddol
gydag
awdurdod
dros
diriogaeth
ydy
gwladwriaeth
. Yn y byd modern, mae'r term bron yn gyfystyr a
sofraniaeth
. Weithiau caiff ei ddefnyddio yn gyfystyr a
gwlad
(bro ddaearyddol), ond nid a
chenedl
(bro ddiwylliannol).
Yn fewnwladol, pwrpas y wladwriaeth yw i ddarparu fframwaith o
gyfraith
a threfn i gadw ei thrigolion yn ddiogel, ac i weinyddu materion sydd yn berthnasol i'r wladwriaeth. Felly, mae gan y mwyafrif o wladwriaethau sefydliadau megis
deddfwrfa
neu
gyrff deddfwriaethol
,
llysoedd barn
, a
heddlu
ar gyfer defnydd mewnol, a
lluoedd arfog
i sicrhau diogelwch allanol. Yn y ddwy ganrif ddiwethaf, derbyniodd y mwyaf o wladwriaethau cyfrifoldeb dros nifer fawr o faterion
cymdeithasol
, ac felly datblygodd gysyniad
y wladwriaeth les
. Ar adegau gwahanol yn hanes mae rhai wladwriaethau wedi ymyrryd ar
hawliau
grwpiau ac unigolion yn fwy nag eraill. Bu wladwriaethau
totalitaraidd
megis
yr Undeb Sofietaidd
Gomiwnyddol
a'r
Almaen Natsiaidd
yn rheoli
rhyddid barn
.
Dechreuodd ddatblygiad cysyniad y wladwriaeth yng
Ngroeg yr Henfyd
gydag ymddangosiad
gwladwriaethau dinas
. Ystyriodd yr
athronwyr
Aristotlys
a
Phlaton
y gwladwriaethau hyn fel
cymunedau
yn hytrach na sefydliadau gwleidyddol yn unig. Trafododd Platon gwladwriaeth ar ffurf
gweriniaeth
yn ei lyfr
Y Weriniaeth
.
Arweiniodd yr angen milwrol i greu a chadw gwladwriaethau cynnar at ddatblygiad cyfundrefnau
awdurdodaidd
, a dywedodd rhai bod angen aberthu
rhyddid
unigolion er trefn, ond wedi'i wneud mewn ffyrdd sy'n parchu lles holl grwpiau'r gymdeithas. O'r
unfed
ac
ail
ganrifoedd ar bymtheg ymlaen, gwelwyd adnabyddiaeth gynyddol o'r wladwriaeth a
dinasyddion
gyda rhyw hunaniaeth ddiwylliannol debyg, yn ogystal a chynydd yn nheimladau
cenedlaetholgar
a dymuniad pobl i reoli eu hunain, ac felly ymddangosodd cysyniad y
wladwriaeth genedl
. Datblygodd
Jean Jacques Rousseau
a
Georg Wilhelm Friedrich Hegel
cysyniadau
ideolegol
am allu'r genedl i gyflwyno cyfreithlondeb ar ei hunan a'i gweithredoedd.
Un o nodweddion y wladwriaeth yw, mewn theori, gall fodoli fel
undeb
o genhedloedd. Ond y gwrthwynebiad i'r posibilrwydd hwn yw
cenedlaetholdeb
a dymuniad cenhedloedd i fodoli fel gwladwriaethau eu hunain. Cwympodd
yr Undeb Sofietaidd
oherwydd teimladau dinasyddion nad oedd symbolaeth nac ideoleg y wladwriaeth yn berthnasol iddynt. Mae cenhedloedd o fewn gwladwriaethau cyfoes
Canada
,
y Deyrnas Unedig
,
Ffrainc
a
Sbaen
hefyd o blaid
annibyniaeth
.
[1]