Gwlad Iorddonen
|
|
??????? ???????? ?????????
Al-Mamlakah Al-Urdunn?yah Al-H?shim?yah
Teyrnas Hasimaidd Iorddonen
|
|
Arwyddair
| ????? ?????? ?????
|
---|
Math
| gwladwriaeth sofran,
brenhiniaeth gyfansoddiadol
,
gwlad
|
---|
Enwyd ar ol
| Afon Iorddonen
|
---|
|
Prifddinas
| Amman
|
---|
Poblogaeth
| 10,428,241
|
---|
Sefydlwyd
| 25 Mai 1946
oddi wrth Lloegr
|
---|
Anthem
| Anthem Frenhinol Gwlad Iorddonen
|
---|
Pennaeth llywodraeth
| Bisher Al-Khasawneh
|
---|
Cylchfa amser
| UTC+2, UTC+03:00, Asia/Amman
|
---|
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
| Arabeg
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Rhan o'r canlynol
| Y Dwyrain Canol
,
De-orllewin Asia
,
Y Byd Arabaidd
|
---|
Gwlad
| Gwlad Iorddonen
|
---|
Arwynebedd
| 89,341 ±1 km²
|
---|
Yn ffinio gyda
| Israel
,
Sawdi Arabia
,
Syria
,
Irac
,
y Lan Orllewinol
,
Gwladwriaeth Palesteina
|
---|
Cyfesurynnau
| 31.2°N 36.5°E
|
---|
Gwleidyddiaeth
|
---|
Corff deddfwriaethol
| Senedd Gwlad Iorddonen
|
---|
Swydd pennaeth
y wladwriaeth
| Brenin Gwlad Iorddonen
|
---|
Pennaeth y wladwriaeth
| Abdullah II, brenin Iorddonen
|
---|
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
| Prif Weinidog Gwlad Iorddonen
|
---|
Pennaeth y Llywodraeth
| Bisher Al-Khasawneh
|
---|
|
|
Ariannol
|
---|
Cyfanswm CMC (
GDP
)
| $45,116 million, $47,451 million
|
---|
Arian
| dinar (Iorddonen)
|
---|
Canran y diwaith
| 11 ±1.1 canran
|
---|
Cyfartaledd plant
| 3.422
|
---|
Mynegai Datblygiad Dynol
| 0.72
|
---|
|
|
Mae
Gwlad Iorddonen
neu'n syml
yr Iorddonen
(
Arabeg
?????? ?????????? ?????????
Al-Mamlakah al-Urdunniyyah al-H??imiyyah
) yn wlad
Arabaidd
sy'n ffinio ag
Israel
i'r gorllewin,
Syria
i'r gogledd,
Irac
i'r dwyrain a
Sawdi Arabia
i'r de-orllewin.
Amman
yw
prifddinas
y wlad. Mae'r wlad ar groesffordd bwysig rhwng Asia, Affrica ac Ewrop. Ei henw swyddogol yw "Teyrnas Hasimaidd Iorddonen".
[1]
Cafodd sofraniaeth y wlad ei chreu yn
1946
o ran o
Balesteina
Brydeinig
.
Amgylchynir Gwlad yr Iorddonen gan wledydd eraill; mae ganddi arwynebedd o 89,342 km2 (34,495 sq mi) a phoblogaeth o 10,428,241
(19 Mehefin 2019)
[2]
. Hi, felly, yw'r 11eg gwlad mwyaf poblog allan o'r holl wledydd Arabaidd.
Islam Sunni
sy'n cael ei harfer gan 95% o'r boblogaeth, gyda lleiafrif bach iawn yn
Gristnogion
. Gelwir y wlad yn aml yn "Werddon o Sefydlogrwydd" oherwydd yr ansicrwydd a'r rhyfela yn y gwledydd o'i chwmpas a gododd yn dilyn
y Gwanwyn Arabaidd
.
[3]
Ers 1948, mae'r Iorddonen wedi derbyn
ffoaduriaid
o wledydd cyfagos, o ganlyniad i wrthdaro a rhyfel. Yn 2015 amcangyfrifwyd fod 2.1 miliwn o
Balesteiniaid
ac 1.4 miliwn o
Syriaid
wedi ymgartrefu yn y wlad.
[4]
Mae yma hefyd filoedd o ffoaduriaid Cristnogol o
Irac
. Mae hyn i gyd yn rhoi wysau trwm iawn ar isadeiledd ac
economi
'r wlad.
[5]
Ceir cofnod o bobl yn byw yma ers
Hen Oes y Cerrig
ac yn niwedd
yr Oes Efydd
fe'i rheolwyd gan dair brenhiniaeth wahanol: Ammon, Moab ac Edom.
[6]
Yna daeth Brenhiniaeth y Nabatea, cyfnod gyda'r
Rhufeiniaid
yn ei rheoli ac yna
Ymerodraeth yr Otomaniaid
.
[7]
Ar ddiwedd yr
Ail Ryfel Byd
yn 1921 daeth 'Emiradau Trawsiorddonen' (
Emirate of Transjorda
) i fodolaeth, dan brotectoriaeth Prydain, wedi'i ffurfio allan o'r o
Balesteina
Brydeinig
. Cafod Trawsiorddonen ei chydnabod gan
Gynghrair y Cenhedloedd
yn yr un flwyddyn.
[8]
Yn 1946 cyhoeddodd ei hannibyniaeth oddi wrth Prydain a dethlir y diwrnod hwn yn flynyddol ar 25 Mai. Ei henw swyddogol oedd "Teyrnas Hasimaidd Trawsiorddonen".
Yn y Rhyfel rhwng Arabia ac Israel yn 1948, meddiannodd diroedd
Y Lan Orllewinol
a newidiwyd enw'r wladwriaeth yn "Frenhiniaeth Hasimaidd Iorddonen" ar 1 Rhagfyr 1948.
[9]
Gwadodd yr Iorddonen mai hi oedd berchen y tiroedd yn 1988, cam diplomyddol, a esgorodd ar gytundeb hanesyddol rhwng Gwlad yr Iorddonen ac Israel, a arwyddwyd yn 1994.
[10]
Mae Gwlad yr Iorddonen yn un o'r gwledydd a sefydlodd
y Cynghrair Arabaidd
a'r
Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd
. Mae'n wladwriaeth sofran, yn
frenhiniaeth gyfansoddiadol
gyda'r brenin yn dal pwerau gweithredol a deddfwriaethol.
Ystyrir yr Iorddonen yn wlad o "ddatblygiad dynol uchel" gydag economi "incwm canol-uwch". Mae'n un o'r economiau lleiaf yn
y dwyrain canol
, ond yn ddeniadol i fuddsoddwyr tramor oherwydd ei gweithlu medrus, ysgilgar.
[12]
Oherwydd mannau fel
Petra
a'r
Mor Marw
mae'r wlad yn gyrchfan bwysig i
dwristiaid
, ac mae hefyd yn denu twristiaeth feddygol oherwydd ei sector iechyd arbennig o safonol.
[13]
Serch hynny, mae diffyg adnoddau naturiol, llif mawr o ffoaduriaid a chythrwfl rhanbarthol wedi llesteirio'r twf economaidd.
Yn 2016 roedd 14.4% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi.
[14]
Mae GDP (neu 'gynnyrch mewnwladol crynswth'; CMC) cyfoes y wlad yn 45,116,317,042 $ (UDA)
(2021)
,
[15]
47,451,499,859 $ (UDA)
(2022)
[15]
. Ar gyfartaledd tyfodd y CMC 8% yn flynyddol rhwng 2004 a2008, ac yna ar gyfartaledd o 2.6%, yn dilyn y mewnlifiad anferthol o ffoaduriaid Syriaid i'r wlad.
[16]
Mae economi Jordan yn gymharol amrywiol, gyda
masnach
a
chyllid
yn cyfrif am bron i draean o CMC; mae
cludiant
a
chyfathrebu
,
gwasanaethau cyhoeddus
, ac
adeiladu
yn cyfrif am un rhan o bump, ac mae
mwyngloddio
a gweithgynhyrchu yn cyfateb i bron i bumed arall. Er gwaethaf cynlluniau i ehangu'r sector preifat, mae'r wladwriaeth yn parhau i fod y prif rym yn economi Jordan.
Y pedwar ddinas fwyaf yn y wlad yw: Amman (y brifddinas), Zarqa,
Irbid
ac
Acaba
(unig borthladd y wlad) a
Rwseiffa
.
Trefi neu ddinasoedd Gwlad Iorddonen
[1]
|
|
Safle
|
|
Ardal Lywodraethol
|
Pobl.
|
|
Amman
Zarca
|
1
|
Amman
|
Ardal Lywodraethol Amman
|
4,007,526
(2015)
|
Irbid
Rwseiffa
|
2
|
Zarca
|
Ardal Lywodraethol Zarqa
|
481,300
|
3
|
Irbid
|
Ardal Lywodraethol Irbid
|
1,911,600
(2018)
[17]
|
4
|
Rwseiffa
|
Ardal Lywodraethol Zarqa
|
472,604
(2015)
[18]
|
5
|
Al Quwaysimah
|
Ardal Lywodraethol Amman
|
|
6
|
Wadi as-Ser
|
Ardal Lywodraethol Amman
|
152,000
(2011)
|
7
|
Til?' al-'Al?
|
Ardal Lywodraethol Amman
|
|
8
|
Ajlwn
|
Ardal Lywodraethol Ajlwn
|
148,870, 190,200
|
9
|
Acaba
|
Ardal Lywodraethol Aqaba
|
140,000
(2014)
|
10
|
Khuraybat as-S?q
|
Ardal Lywodraethol Amman
|
|
Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen
[
golygu
|
golygu cod
]
Mae Gwlad Iorddonen wedi'i rannu'n ddeuddeg o ardaloedd llywodraethol (muhafazah ), sy'n cael eu penu gan y Weinyddiaeth Fewnol. Rhennir llywodraeth leol ymhellach i ardaloedd (
liwa
) ac yn aml yn is-ardaloedd (q
da
).
[19]
Yn ddaearyddol, mae Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen wedi'u lleoli mewn un o dri rhanbarth: Rhanbarth y Gogledd, y Rhanbarth Canolog a Rhanbarth y De. Nid yw'r tri rhanbarth daearyddol yn cael eu dosbarthu yn ol ardal neu boblogaethau ond yn hytrach gan gysylltedd daearyddol a phellter ymhlith y canolfannau poblogaeth. Mae Mynyddoedd Moab yn Ardal Lywodraethol Karak yn gwahanu Rhanbarth y De o'r Rhanbarth Canolog. Mae canolfannau poblogaeth Rhanbarth y Canolbarth a'r Gogledd yn cael eu gwahanu'n ddaearyddol gan fynyddoedd Ardal Lywodraethol Jerash. Yn gymdeithasol, mae canolfannau poblogaeth
Amman
, Salt, Zarqa a Madaba yn ffurfio un ardal fetropolitan fawr le mae rhyngweithiadau busnes yn y dinasoedd hyn o dan ddylanwad
Amman
tra bod dinasoedd Jerash, Ajloun, a Mafraq yn bennaf o dan ddylanwad dinas Irbid.
- ↑
"Breaking down the headlines: Understanding the Levant"
. Global Studies Center, University of Pittsburgh. 2014
. Cyrchwyd
19 Mawrth
2016
.
- ↑
http://dosweb.dos.gov.jo
.
- ↑
Dickey, Christopher (5 Hydref 2013).
"Jordan: The Last Arab Safe Haven"
. The Daily Beast
. Cyrchwyd
12 Hydref
2015
.
- ↑
Ghazal, Mohammad (22 Ionawr 2016).
"Population stands at around 9.5 million, including 2.9 million guests"
. The Jordan Times
. Cyrchwyd
12 Mehefin
2018
.
- ↑
"2015 UNHCR country operations profile ? Jordan"
. UNHCR. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2 Hydref 2014
. Cyrchwyd
12 Hydref
2015
.
- ↑
LaBianca, Oystein S.; Younker, Randall W. (1995).
"The Kingdoms of Ammon, Moab, and Edom: The Archaeology of Society in Late Bronze/Iron Age Transjordan (ca. 1400-500 BCE)"
. In Thomas Levy (gol.).
The Archaeology of Society in the Holy Land
. Leicester University Press
. Cyrchwyd
March 9,
2016
.
- ↑
"The History of a Land"
.
Ministry of Tourism and Antiquities
. The Department Of Antiquities (Jordan). Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2015-09-23
. Cyrchwyd
30 Medi
2015
.
- ↑
Marjorie M. Whiteman, Digest of International Law, vol. 1, U.S. State Department (Washington, D.C.: U.S. Government Printing Office, 1963) tt 636, 650?652
- ↑
Sachar, Howard M. (2013).
A History of Israel: From the Rise of Zionism to Our Time
(arg. 2). Knopf Doubleday Publishing Group.
ISBN
978-0-8041-5049-1
. Cyrchwyd
2016-03-20
.
- ↑
Khalil, Muhammad (1962).
The Arab States and the Arab League: a Documentary Record
. Beirut: Khayats. tt.
53
?54.
- ↑
Learning, UNESCO Institute for Lifelong (8 Medi 2017).
"Country Profile: Jordan"
.
litbase.uil.unesco.org
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
27 Ionawr
2018
.
- ↑
El-Said, Hamed; Becker, Kip (11 Ionawr 2013).
Management and International Business Issues in Jordan
. Routledge. t. 88.
ISBN
9781136396366
. Cyrchwyd
15 Mehefin
2016
.
- ↑
"Jordan second top Arab destination to German tourists"
. Petra. Jordan News. 11 Mawrth 2016
. Cyrchwyd
12 Mawrth
2016
.
[
dolen marw
]
- ↑
"Jordan Data"
. World Bank
. Cyrchwyd
14 Mehefin
2016
.
- ↑
15.0
15.1
https://data.worldbank.org/indicator/NY.GDP.MKTP.CD
. dyddiad cyrchiad: 26 Awst 2023. cyhoeddwr: Banc y Byd.
- ↑
"The World Fact book ? Jordan"
. CIA World Factbook. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2016-05-21
. Cyrchwyd
15 Mehefin
2018
.
- ↑
https://fr.wikipedia.org/wiki/Irbid
.
- ↑
http://www.dos.gov.jo/dos_home_a/main/population/census2015/No_of_pop_depand_on_GOV.pdf
.
- ↑
"Annex B: Analysis of the municipal sector"
(PDF)
.
Third Tourism Development Project, Secondary Cities Revitalization Study
. Ministry of Antiquities and Tourism, Hashemite Kingdom of Jordan. 24 Mai 2005. t. 4. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 19 April 2016.