Gwesty
yw
Gwesty'r Angel
mewn lleoliad amlwg ar gornel Stryd y Castell/Heol y Porth yng nghanol Caerdydd. Am ran helaeth o'i fodolaeth roedd yn un o brif westai'r ddinas, wedi ei ymweld gan enwogion a
phrif weinidogion
.
[1]
Honnir fod Gwesty'r Angel wedi bodoli yng Nghaerdydd ers 1666
[2]
ond mae'n sicr ei fod yno ers yr 18g mewn lleoliad gyferbyn porth
Castell Caerdydd
ar stryd oedd a'r enw Stryd yr Angel bryd hynny,
[3]
a ddim yn bell o'i leoliad presennol. O tua 1782 roedd yn cael ei redeg gan John Bradley, o deulu oedd wedi gwneud eu harian o rasio ceffylau.
[4]
Roedd Bradley yn bostfeistr a chludwr post i Gaerdydd. Gwesty'r Angel oedd pen daith coets y post dyddiol o
Lundain
a
Bryste
.
[2]
Canrif yn ddiweddarach roedd angen llydanu'r ffordd o flaen Castell Caerdydd. Adeiladwyd gwesty newydd ar ddiwedd y stryd i gymryd lle'r hen Westy'r Angel a'r hen Westy'r Arfau (oedd wedi ei ddymchwel). Prynwyd y plot gan Gorfforaeth Caerdydd o Marcwis Bute am swm enwol a dyluniwyd gwesty newydd gan "Mr C.J. Jackson" mewn arddull 'Dadeni Seisnig'. Adeiladwyd y gwesty gan gwmni Jackson yn llwyr mewn briciau coch a wnaed gan Waith Briciau Ystad Bute am gost o dros £20,000.
[5]
Roedd wedi ei addurno, dodrefnu ac yn barod am westai erbyn Gorffennaf 1883.
[6]
Dyluniwyd logo'r gwesty newydd, a ddefnyddiwyd ar arwyddion a'r llestri, gan Marcwis Bute, yn cyfeirio at y ddau westy blaenorol drwy gyfuno angel yn dal
arfbais
Caerdydd.
[6]
Lleolwyd mynedfa portico'r adeilad newydd ar gornel weladwy'r safle. Roedd gan y gwesty 76 stafell wely, bariau, stafell biliards a neuadd hecsagonaidd uchder llawn yn llenwi'r tu mewn gyda golau ddydd drwy nen lamp gwydr.
[5]
Roedd gan y prif ofod, y stafell goffi mawr ar y llawr cyntaf, olygfeydd godidog o'r wlad oddi amgylch. Roedd yn arwain at falconi uwchben y fynedfa oedd wedi ei fwriadu ar gyfer yr Aelod Seneddol lleol i "gyfarch ei etholwyr pan oedd rhaid iddo ddiolch iddynt am ei ethol".
[5]
Fe addaswyd yr hen Westy'r Angel i swyddfeydd ar gyfer Ystad Bute.
[5]
Yn y 1930au fe ddymchwelodd hen wyneb 18g yr adeilad wrth i waith atgyweirio gael ei wneud. Fe'i hail-adeiladwyd, ac er ei fod yn atgynhyrchiad, cafodd ei
restru
gyda Gradd II yn 1975.
[3]
Ar droad yr 20g roedd Gwesty'r Angel wedi ei berchen gan gwmni'r Arglwyddes Honywood, Gwestai Honywood gyda phrydles gan yr entrepreneur gwestai Elizabeth Miles, a adeiladwyd wyneb newydd i'r adeilad.
[7]
Parhaodd y Gwesty'r Angel newydd yn lety pwysig i wleidyddion ac enwogion, yn cynnwys
Greta Garbo
,
y Beatles
[1]
a'r actor Anthony Perkins (a arestiwyd yn y gwesty yn 1989 ar ol i becyn o
ganabis
a bostiwyd iddo'i hunan gael ei roi i westai arall mewn camgymeriad).
[8]
Yn y 1990au a'r 2000au daeth Gwesty'r Angel yn llety llai pwysig wrth i nifer o westai modern gael eu hadeiladu yng nghanol y ddinas a
Bae Caerdydd
. Fe'i hadnewyddwyd yn 2000.
[1]
Yn 2012, daeth Jo McElveen yn Rheolwraig Gyffredinol y gwesty, ar ol cychwyn fel gweinyddes yn y gwesty 14 mlynedd ynghynt.
[9]
[10]
Mae'r gwesty yn rhan o gwmni The Hotel Collection (Puma Hotels Collection/Barcelo Hotels ynghynt). Mae ganddo 102 stafell wely.
[11]
- ↑
1.0
1.1
1.2
Porter, Darwin; Prince, Danforth (2004),
Frommer's Great Britain
, Wiley Publishing, p. 694,
ISBN
0-7645-3823-3
,
https://books.google.co.uk/books?id=jMPEIqbVFTIC&pg=PA694#v=onepage&q&f=false
- ↑
2.0
2.1
Wells, Martin (5 Rhagfyr 2013).
"Brian Lee recalls the illustrious history of one of Cardiff's legendary coaching inns"
.
Wales Online
. Cyrchwyd
24 Mai
2015
.
- ↑
3.0
3.1
"Nos.1&3 Castle Street, Castle"
. British Listed Buildings
. Cyrchwyd
24 Mai
2015
.
- ↑
Childs, Jeff (2012) (e-Book),
Roath, Splott and Adamsdown: One Thousand Years of History
, The History Press, p. 98
,
https://books.google.co.uk/books?id=nnQ7AwAAQBAJ&pg=PT98#v=onepage&q&f=false
- ↑
5.0
5.1
5.2
5.3
"The New Angel Hotel, Cardiff"
.
Western Mail
. 13 Mehefin 1883. t. 3
. Cyrchwyd
24 Mai
2015
– drwy
British Newspaper Archive
.
- ↑
6.0
6.1
"The New Angel Hotel, Cardiff"
.
Western Mail
. 9 Gorffennaf 1883. t. 3
. Cyrchwyd
24 Mai
2015
– drwy
British Newspaper Archive
.
- ↑
Griffiths, Richard (2010),
The Entrepreneurial Society of the Rhondda Valleys, 1840-1920
,
Gwasg Prifysgol Cymru
, pp. 90, 92,
ISBN
978-0-7083-2291-8
,
https://books.google.co.uk/books?id=JEyuBwAAQBAJ&pg=PA92#v=onepage&q&f=false
- ↑
"As Alfred Hitchcock opens we look back on Psycho star's Welsh hotel horror"
.
Wales Online
. 8 Chwefror 2013
. Cyrchwyd
24 Mai
2015
.
- ↑
Barry, Sion (4 Gorffennaf 2012).
"Former waitress appointed as general manager at The Angel Hotel, Cardiff"
.
Wales Online
. Cyrchwyd
24 Mai
2015
.
- ↑
Woodrow, Emily (21 December 2012).
"Meet the real 'angel' of The Angel Hotel in Cardiff"
.
Wales Online
. Cyrchwyd
24 Mai
2015
.
- ↑
"The Angel Hotel, Cardiff"
. TheHotelCollection.co.uk
. Cyrchwyd
24 Mai
2015
.