Departement
tramor
a
rhanbarth tramor
Ffrainc
yn nwyrain
Mor y Caribi
yw
Guadeloupe
. Fe'i lleolir yn yr
Antilles Leiaf
rhwng
Montserrat
ac
Antigwa a Barbiwda
i'r gogledd a
Dominica
i'r de. Mae'n cynnwys dwy brif ynys,
Basse-Terre
a
Grande-Terre
, a wahanir gan sianel gul. Mae nifer o ynysoedd llai hefyd megis
Marie-Galante
,
La Desirade
a
Les Saintes
. Dinas
Basse-Terre
ar yr ynys o'r un enw yw'r brifddinas ond
Pointe-a-Pitre
ar Grande-Terre yw'r ddinas fwyaf.
Er mai baner trilliw
Ffrainc
yw baner swyddogol yr ynys, ceir hefyd
faner Guadeloupe
a arddelir yn lleol.
Llun lloeren o Guadeloupe