Roedd
Guido "Guy" Fawkes
, neu
Guto Ffowc
yn Gymraeg, (
13 Ebrill
1570
?
31 Ionawr
1606
), yn aelod o gr?p o
Gatholigion Rhufeinig
Seisnig
a geisiodd gyflawni
Cynllwyn y Powdr Gwn
(neu'r 'Cynllwyn Pabaidd'), ymgais i chwythu i fyny
Senedd Lloegr
a lladd y brenin
Iago I o Loegr
, a thrwy hynny ddinistrio'r llywodraeth
Brotestannaidd
trwy ladd y pendefigion Protestannaidd, ar
5 Tachwedd
1605
, digwyddiad a goffeir ar
Noson Guto Ffowc
. Aflwyddiannus fu'r cynllwyn.
Ganed Guto yn
Efrog
, a threuliodd flynyddoedd fel milwr ym myddin
Sbaen
. Cyflwynwyd ef i
Robert Catesby
, arweinydd Cynllwyn y Powdr Gwn, gan y Cymro
Hugh Owen
. Fel milwr profiadol, roedd ei brofiad o bwysigrwydd mawr i lwyddiant yr ymgais. Fodd bynnag, cafwyd hyd i'r powdwr gwn oedd wedi ei osod mewn seler dan y Senedd cyn i Guto gael y cyfle i'w ffrwydro. Daliwyd ef a'r cynllwynwyr eraill a chafodd ei
arteithio
, ei gael yn euog o
deyrnfradwriaeth
a'i
ddienyddio
tri mis yn ddiweddarach. Ysgrifennai Ffowc ei enw cyntaf yn ei ffurf
Eidaleg
Guido
, sy'n rhoi
Guto
yn Gymraeg.
Tan yn ddiweddar iawn arferai plant a phobl ifanc yng ngwledydd Prydain fynd o d? i d? ddechrau fis Tachwedd gyda
Guto
- dymi o ddyn wedi'i wneud o hen ddillad a gwellt - i hel pres at
Noson Guto Ffowc
. Ar y noson honno rhoddid y "Guto" ar ben y
goelcerth
a'i losgi.