Roedd
Gruffudd ap Rhys
(bu farw
1137
) yn dywysog rhan o deyrnas
Deheubarth
yn ne-orllewin
Cymru
.
Pan laddwyd tad Gruffudd,
Rhys ap Tewdwr
yn
1093
, cymerodd y
Normaniaid
feddiant o'i deyrnas, a threuliodd Gruffudd ei ieuentid mewn alltudiaeth yn
Iwerddon
. Tua
1113
dychwelodd i Gymru ac wedi rhai blynyddoedd o grwydro o le i le, llwyddodd i gael digon o w?r i'w ddilyn i fedru ymosod ar nifer o gestyll a threfi Normanaidd yn
1116
. Cafodd gryn lwyddiant, ond methodd ymosodiad ar
Aberystwyth
a gwasgarodd byddin Gruffudd.
Yn ddiweddarach daeth Gruffudd i gytundeb a
Harri I, brenin Lloegr
a chaniatawyd iddo reoli rhan fechan o deyrnas ei dad, y
Cantref Mawr
. Cyn hir ymosodwyd arno gan yr arglwyddi Normanaidd o'i amgylch, a gorfodwyd ef i ffoi i Iwerddon eto am gyfnod yn
1127
. Yn
1136
ymunodd Gruffudd ag
Owain Gwynedd
a'i frawd
Cadwaladr
, meibion
Gruffydd ap Cynan
o
Wynedd
, mewn ymgyrch yn erbyn y Normaniaid a ddechreuwyd gyda
Brwydr Garn Goch
ar ddydd Calan 1136. Tra'r oedd Gruffudd oddi cartref, cododd ei wraig
Gwenllian ferch Gruffudd
fyddin ac ymosododd ar
gastell Normanaidd Cydweli
, ond gorchfygwyd hi a'i lladd.
Enillodd Gruffudd ei hun, gydag Owain a Chadwaladr, fuddugoliaeth ysgubol dros y Normaniaid yn
Mrwydr Crug Mawr
ger
Aberteifi
yr un flwyddyn. Yn
1137
cafodd Gruffudd fwy o lwyddiant yn
Nyfed
, ond bu farw yn fuan wedyn mewn amgylchiadau ansicr.
Roedd gan Gruffudd bedwar mab gan Gwenllian,
Maredudd
,
Rhys
, Morgan a Maelgwn. Roedd ganddo hefyd ddau fab h?n o briodas flaenorol,
Anarawd
a
Chadell
, ac o leiaf ddwy ferch, Gwladus and Nest. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf, Anarawd. Daeth tri arall o'i feibion, Cadell, Maredudd a Rhys (a ddaeth yn adnabyddus yn ddiweddarach fel
Yr Arglwydd Rhys
), i deyrnasu ar Ddeheubarth yn eu tro.