Gordie Howe
|
---|
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6c/Gordie_Howe_%28cropped%29.jpg/220px-Gordie_Howe_%28cropped%29.jpg) |
Ganwyd
| 31 Mawrth 1928
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Floral
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Bu farw
| 10 Mehefin 2016
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Sylvania, Ohio
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Dinasyddiaeth
| Canada

Galwedigaeth
| chwaraewr hoci ia
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Taldra
| 185 centimetr
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Pwysau
| 93 cilogram
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Priod
| Colleen Howe
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Plant
| Mark Howe, Marty Howe
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwobr/au
| Swyddog Urdd Canada, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Hart Memorial Trophy, Hart Memorial Trophy, Hart Memorial Trophy, Hart Memorial Trophy, Hart Memorial Trophy, Hart Memorial Trophy, Art Ross Trophy, Art Ross Trophy, Art Ross Trophy, Art Ross Trophy, Art Ross Trophy, Art Ross Trophy, Canada's Sports Hall of Fame, Hockey Hall of Fame, Lester Patrick Trophy
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwefan
| http://www.mrandmrshockey.com
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Chwaraeon
|
---|
Tim/au
| Omaha Knights, Detroit Red Wings, Hartford Whalers, Houston Aeros, Detroit Vipers
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Safle
| winger

Gwlad chwaraeon

Chwaraewr
hoci ia
o
Ganada
oedd
Gordon "Gordie" Howe
,
OC
(31 Mawrth 1928 ? 10 Mehefin 2016). O 1946 hyd 1980, chwaraeodd 26 o dymhorau yn y
National Hockey League
(NHL) a chwe thymor yn y
World Hockey Association
(WHA); treuliodd ei 25 o dymhorau cyntaf gyda'r
Detroit Red Wings
. Ei lysenw oedd "Mr. Hockey", a fe'i ystyrir yn un o'r chwaraewyr hoci ia gorau erioed.
[1]
[2]
Chwaraeodd fel un o ser gornest gyfeillgar yr NHL 23 o weithiau. Bu'n dal nifer o recordiau hoci ia nes i
Wayne Gretzky
eu torri yn y 1980au. O hyd mae'n dal recordiau'r NHL am y nifer fwyaf o gemau a thymhorau a chwaraeid.
Cafodd Howe ei recriwtio gan y Red Wings a chychwynnodd chwarae yn yr NHL ym 1946. Ef oedd y prif sgoriwr pob blwyddyn o 1950 hyd 1954, ac eto o 1957 hyd 1963. Roedd ganddo safle yn y deg sgoriwr uchaf am 21 mlynedd yn olynol, ac ym 1953 gosododd record am y nifer uchaf o bwyntiau mewn tymor (95). Enillodd
Cwpan Stanley
gyda'r Red Wings pedair gwaith, enillodd
Dlws Hart
chwe gwaith (hynny yw, chwaraewr mwyaf werthfawr y gynghrair), ac enillodd
Dlws Art Ross
chwe gwaith (hynny yw, y prif sgoriwr).
Ymddeolodd Howe ym 1971 a chafodd ei ynydu i'r Hockey Hall of Fame y flwyddyn olynol. Dychwelodd i'r gem ym 1973 gan ymuno a'i feibion Mark a Marty ar dim y Houston Aeros yng nghynghrair y WHA. Er ei fod yn ddyn canol oed, sgoriodd dros 100 o bwyntiau ddwywaith mewn chwe mlynedd. Dychwelodd i'r NHL am dymor ym 1979?80, gan chwarae i'r
Hartford Whalers
, cyn iddo ymddeol yn 52 oed. Roedd ei gysylltiad a'r WHA yn ganolog i lwyddiant y gynghrair honno cyn iddi gyfuno a'r NHL, ac o ganlyniad gorfododd yr NHL i recriwtio chwaraewyr Ewropeaidd ac ehangu'r farchnad.
Roedd Howe yn enwog am ei fedr sgorio, ei gryfder, a hir oes ei yrfa ac ailddiffiniodd nodweddion delfrydol y
blaenwr
. Ef yw'r unig chwaraewr i gystadlu yn yr NHL mewn pum gwahanol ddegawd (o'r 1940au i'r 1980au). Cafodd y
Gordie Howe hat trick
ei enwi ar ei ol: sgorio gol, cynorthwyo sgorio gol, ac ymladd yn yr un gem (er i Howe wneud hyn dim ond dwywaith yn ystod ei yrfa). Ef oedd y cyntaf i dderbyn Gwobr Cyrhaeddiad Oes yr NHL yn 2008.
Comin Wikimedia