Mae
Golwg360
yn wasanaeth newyddion dyddiol arlein a lansiwyd ym mis Mai 2009.
Ariennir Golwg360 trwy gymysgedd o grantiau cyhoeddus gan
Lywodraeth Cymru
,
Cyngor Llyfrau Cymru
a gwerthiant hysbysebion a gwasanaethau masnachol drwy'r wefan. Derbyniodd grant dechreuol o £600,000 dros gyfnod o dair mlynedd, gan roi diwedd ar obeithion Dyddiol Cyf am gael arian cyhoeddus ar gyfer papur dyddiol print Cymraeg
Y Byd
. Ym Mawrth 2011 cafodd Golwg360 estyniad i'w grant am dair mlynedd arall wedi adroddiad ffafriol gan
Wavehill Consulting
.
[1]
[2]
Er bod cryn gydweithio rhwng y
Cylchgrawn Golwg
a Golwg360 ar sawl lefel, yn wreiddiol roedd y ddau wasanaeth yn gweithredu fel busnesau ar wahan ac roedd gan y ddau olygyddion gwahanol. Yn Ebrill 2020 cyfunwyd y swyddi gan roi swydd Prif Olygydd i Golwg a Golwg360. Ers Hydref 2009,
Owain Schiavone
yw Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Golwg Newydd (Golwg360) ac mae'n gyfarwyddwr Golwg Cyf.
Ifan Morgan Jones
oedd golygydd cyntaf Golwg360, yn ei swydd rhwng Ionawr 2009 a Medi 2011.
[3]
. Cymerodd
Bethan Lloyd
y swydd yn 2011. Ym mis Mawrth 2020 apwyntiwyd Garmon Ceiro fel golygydd y cylchgrawn Golwg a gwefan Golwg360, a cychwynodd ei swydd ym mis Ebrill. Ers 2022, Alun Rhys Chivers yw’r golygydd.
[4]
Mae prif adrannau'r wefan yn cynnwys:
- Newyddion
- Chwaraeon
- Celfyddydau
- Calendr
- Blog
- Bwyd
- Lle Pawb
- Adran Swyddi