Math o
awyren
sy'n cael ei
hedfan
drwy adwaith deinamig o'r aer yn erbyn ei arwynebau codi, ac sy'n hedfan heb beiriant yw
gleider
.
[1]
Mae'n hedfan heb beiriant, ond ceir peiriant gan sawl math o gleider i ymestyn eu taith neu i godi o afael y ddaear. Gellir galw awyren arferol yn gleider pan fo'i beiriant yn methu a dywedir fod
aderyn
yn gleidio pan nad yw'n ysgwyd ei
adenydd
.
Daw'r gair "gleider" neu "gleidar" o'r gair Saesneg
glider
.
[2]
Y gair agosaf yn y Gymraeg ydy
llithrydd
ond dyw e ddim yn cael ei ddefnyddio am yr awyren hon.