Glan Chwith Wcrain

Oddi ar Wicipedia
Glan Chwith Wcrain
Map o Lan Chwith Wcrain (melyn) o fewn ffiniau presennol Wcrain (gwyn).
Math Ukrainian historical regions  Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Rhanbarth y Dnieper (Wcrain)   Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Wcráin  Wcrain
Gerllaw Afon Dnieper   Edit this on Wikidata

Rhanbarth hanesyddol yn Wcrain oedd Glan Chwith Wcrain ( Wcreineg : Л?вобережна Укра?на trawslythreniad: Livoberezhna Ukrayina , Rwseg : Левобережная Украина Levoberezhnaya Ukraina , Pwyleg : Lewobrze?na Ukraina ) a leolwyd i ddwyrain canol Afon Dnieper . Ffiniodd a Rwsia Fawr (hen diriogaeth Uchel Ddugiaeth Moscfa ) i'r gogledd, Wcrain Sloboda i'r dwyrain, Sich Zaporizhzhia a'r stepdiroedd gwyllt i'r de, a Glan Dde Wcrain ar ochr draw'r Dnieper i'r gorllewin. Bu ei diriogaeth yn cyfateb i oblastau Chernihiv a Poltava , gorllewin Oblast Sumy , dwyrain Oblast Kyiv a glan ddwyreiniol dinas Kyiv , a dwyrain Oblast Cherkasy yn Wcrain heddiw.

Yn sgil Cytundeb Pereiaslav (1654), daeth y Lan Chwith dan brotectoriaeth Tsaraeth Rwsia , statws a gadarnhawyd gan Gadoediad Andrusovo (1667), Cytundeb Bakhchesarai (1681), a'r "Heddwch Tragwyddol" rhwng Rwsia a'r Gymanwlad Bwylaidd?Lithwanaidd (1686). [1] Mewn dogfennau swyddogol Rwseg, o gyfnod diweddar y Tsaraeth yn niwedd yr 17g hyd at gwymp Ymerodraeth Rwsia yn nechrau'r 20g, mae'r enw "Rwsia Fach" yn cyfateb mwy neu lai i'r Lan Chwith. [2]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. M. I?U?. Bra?chevs'ky? (1974). Annexation Or Reunification: Critical Notes on One Conception (yn Saesneg). Ukrainisches Institut fur Bildungs-politik. t. 114.
  2. Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 319?21.