한국   대만   중국   일본 
Ghazni - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Ghazni

Oddi ar Wicipedia
Ghazni
Math dinas , cyn-brifddinas, dinas fawr  Edit this on Wikidata
Poblogaeth 143,379  Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+04:30  Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Hayward  Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ghazni District  Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Affganistan  Affganistan
Uwch y mor 2,219 metr  Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 33.5492°N 68.4233°E  Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn nwyrain canolbarth Affganistan a phrifddinas Talaith Ghazni yw Ghazni ( Dari : ?????, Pashto : ?????). Saif ar lwyfandir 2,225 m o uchder, ger Afon Ghazni. Hon yw'r unig ddinas gaerog sydd yn goroesi yn Affganistan. [1] Ar gyrion y ddinas ei hun mae pentref Row?eh-e Sultan, safle'r olion hynafol, gan gynnwys Meindyrau Ghazni a beddrod Mahmud o Ghazni .

Mae'n debyg i Ghazni ddyddio'n ol i'r 7g, os nad yn gynharach. Yn yr 11g, dan deyrnasiad Mahmud o Ghazni, hon oedd prifddinas Ymerodraeth y Ghaznavid , brenhinllin Fwslimaidd gyntaf Affganistan. Ysbeiliwyd Ghazni ym 1150?51 gan luoedd y Ghurid , a bu sawl llwyth yn brwydro drosti nes iddi ildio i'r Mongolwyr ym 1221. Codwyd uchelgaer o'i hamgylch yn y 13g. Gorchfygwyd bro Ghazni gan Timur yn y 14g, a bu dan dra-arglwyddiaeth y Timurid nes i'r Mughal gipio Ghazni a Kabul ym 1504. Daeth yn rhan o Ymerodraeth Durrani ym 1747 dan deyrnasiad Ahmad Shah Durrani . Cafodd Ghazni ei chipio am gyfnod gan y Prydeinwyr yn ystod Rhyfel Cyntaf yr Ymerodraeth Brydeinig yn Affganistan (1839?42).

Bellach, Ghazni yw'r brif anheddiad ar hyd y briffordd o Kabul i Kandahar , ac mae'n ganolfan fasnachol a diwydiannol pwysig ar gyfer da byw , crwyn anifeiliaid, sidan , a chynnyrch amaethyddol. Cynyddodd y boblogaeth o ryw 48,700 yn 2006 i 69,000 yn 2020. [1]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg)   Ghazn? . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 23 Awst 2021.