Gertrud Fussenegger

Oddi ar Wicipedia
Gertrud Fussenegger
Ganwyd 8 Mai 1912  Edit this on Wikidata
Plze?  Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Mawrth 2009  Edit this on Wikidata
Linz   Edit this on Wikidata
Man preswyl Leonding  Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Awstria  Awstria
Galwedigaeth ysgrifennwr   Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol   Edit this on Wikidata
Gwobr/au Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Addurniad Aur Mawr Styria, Cadlywydd gyda Gorchymyn St Sylvester, Medal Diwylliant Awstria Uchaf, Gwobr Andreas Gryphius, Gwobr-Jean-Paul, Gwobr Llenyddol Weilheim, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, Gwobr Heinrich Gleißner  Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.fussenegger.de/   Edit this on Wikidata

Awdures doreithiog o Awstria oedd Gertrud Fussenegger ( 8 Mai 1912 - 19 Mawrth 2009 ) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei nofelau hanesyddol.

Fe'i ganed yn Plze? , Bohemia , Awstria-Hwngari ar 8 Mai 1912 a bu farw yn Linz , Awstria Uchaf . Ni allodd yn llwyr ddianc o gysgodion ei hieuenctid, pan oedd yn Sosialydd, ac yn aelod o Blaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol (Plaid Gomiwnyddol). [1] [2] [3] [4] [5] [6] [7] [8]

Magwraeth [ golygu | golygu cod ]

Rhan o dir Ymerodraeth Awstria oedd Pilsen, lle'i ganed, tref ddiwydiannol, lewyrchus. Daeth ei mam, Karoline Hassler, o Bohemia ac roedd ei thad, Emil Fussenegger, yn swyddog yn y fyddin ymerodrol, fel ei dad yntau, gyda'r teulu'n tarddu o Vorarlberg . [9] [10]

Fe'i maged yn Neu Sandez, a oedd yr adeg honno yn Galicia , Dornbirn (Vorarlberg) a Telfs (Gogledd Tirol). Bu'n ddisgybl yn ysgol y menywod, Madchen-Realgymnasium , yn Innsbruck yn 1923, ond bu farw ei mhamyn 1926 a symudodd y teulu'n ol i Pilsen gan gwbwlhau ei chwrs uwchradd, a'i arholiad Matura yn llwyddiannus. [9] Fe'i maged gan ei thaid a'i nain, gan fod ei thad oddi cartref. Roedd yn difaru na ddysgodd y Tsieceg . [11] [12] [13]

Prifysgol [ golygu | golygu cod ]

Astudiodd hanes, hanes celf ac athroniaeth yn Innsbruck (am 7 tymor) a Munich (am 1 tymor). O Brifysgol Innsbruck y derbyniodd ei doethuriaeth ym 1934. Roedd ei thraethawd hir yn ymwneud a Jean de Meun (teitl: "Gemeinschaft und Gemeinschaftsbildung im Rosenroman von Jean Clopinel von Meun" ).

Ymunodd Fussenegger a phlaid Sosialaidd Cenedlaethol Awstria - a oedd ar wahan i'w gymar o'r Almaen - ym mis Mai 1933. Roedd aelodaeth o'r blaid yn anghyfreithlon yn Awstria. Yn Mai 1934 cymerodd ran mewn gwrthdystiad yn Innsbruck lle adroddwyd ei bod wedi ymuno a chanu'r gan Horst-Wessel a rhoddodd saliwt Hitleraidd. Cafodd ei chyhuddo, ei dyfarnu'n euog a'i dirwyo am hyn. [8] [14] Ysgrifennodd "emyn" yn dyrchafu Adolf Hitler .

Priodi a theulu [ golygu | golygu cod ]

Yn 1935 priododd Fussenegger Elmar Dietz, cerflunydd o Bafaria. Cawsant bedwar o blant, ond daeth y briodas i ben chydig wedyn. Nid oedd y briodas yn un hapus. Ym 1943 gadawodd Munich a setlo yn Hall in Tirol lle bu'n byw gyda'i phedwar plentyn fel rhiant sengl. [15] [16] Ailbriododd yn 1950 a hynny gyda cherflunydd arall, a chawsant fab.

Awdur [ golygu | golygu cod ]

Cyhoeddodd Gertrud Fassenegger dros chwe-deg o lyfrau, ynghyd ag amryw ddarnau rhyddiaith a cherddi byr, a gyhoeddwyd gan 25 o gyhoeddwyr a'u cyfieithu i un-ar-ddeg o ieithoedd. [17]

Aelodaeth [ golygu | golygu cod ]

Bu'n aelod o Academi y Gwyddorau a'r Celfyddydau Almaeneg.

Anrhydeddau [ golygu | golygu cod ]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (1984), Addurniad Aur Mawr Styria, Cadlywydd gyda Gorchymyn St Sylvester, Medal Diwylliant Awstria Uchaf (1999), Gwobr Andreas Gryphius (1972), Gwobr-Jean-Paul (1993), Gwobr Llenyddol Weilheim (1993), Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth (1981), Gwobr Heinrich Gleißner .


Llyfryddiaeth [ golygu | golygu cod ]

  • … wie gleichst du dem Wasser . Nofelig. Munich 1929
  • Geschlecht im Advent. Roman aus deutscher Fruhzeit . Potsdam 1936
  • Mohrenlegende . Potsdam 1937
  • Der Brautraub . Erzahlungen. Potsdam 1939 [18]
  • Die Leute auf Falbeson . Jena 1940
  • Eggebrecht . Erzahlungen. Jena 1943
  • Bohmische Verzauberungen . Jena 1944 [19]
  • Die Bruder von Lasawa . Nofel. Salzburg 1948
  • Das Haus der dunklen Kruge . Nofel. Salzburg 1951
  • In Deine Hand gegeben . Nofel. Dusseldorf/Koln 1954
  • Das verschuttete Antlitz . Nofel. Stuttgart 1957
  • Zeit des Raben, Zeit der Taube . Nofel. Stuttgart 1960
  • Der Tabakgarten, 6 Geschichten und ein Motto . Stuttgart 1961
  • Die Reise nach Amalfi . Drama radio. Stuttgart 1963
  • Die Pulvermuhle . Stuttgart 1968
  • Bibelgeschichten . Vienna/Heidelberg 1972
  • Widerstand gegen Wetterhahne. Lyrische Kurzel und andere Texte . Stuttgart 1974
  • Eines langen Stromes Reise ? Die Donau. Linie, Raume, Knotenpunkte . Stuttgart 1976
  • Ein Spiegelbild mit Feuersaule. Ein Lebensbericht . Autobiographie. Stuttgart 1979
  • Pilatus. Szenenfolge um den Prozess Jesu . Uraufgefuhrt 1979, verlegt Freiburg i. B./Heidelberg 1982
  • Maria Theresia . Vienna/Munich/Zurich/Innsbruck 1980
  • Kaiser, Konig, Kellerhals . Heitere Erzahlungen. Vienna/Munich/Zurich/New York 1981
  • Sie waren Zeitgenossen . Roman. Stuttgart 1983
  • Uns hebt die Welle. Liebe, Sex und Literatur . Essay. Vienna/ Freiburg i. B./Basel 1984
  • Gegenruf . Cerddi. Salzburg 1986
  • Jona . Vienna/Munich 1987
  • Herrscherinnen. Frauen, die Geschichte machten . Stuttgart 1991
  • Jirschi oder die Flucht ins Pianino . Graz/ Vienna/ Cologne 1995
  • Ein Spiel ums andere . Erzahlungen. Stuttgart 1996
  • Shakespeares Tochter . Three Nofelig. Munich 1999
  • Bourdanins Kinder . Nofel. Munich 2001
  • Gertrud Fussenegger. Ein Gesprach uber ihr Leben und Werk mit Rainer Hackel . Vienna/ Cologne/ Weimar 2005

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12028373t . ffeil awdurdod y BnF . dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Disgrifiwyd yn: http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Gertrud&prijm=Fussenegger&dnar=08.05.1912&hledej=Hledat . https://tritius.plzen.eu/authority/217049 . dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2024. https://tritius.plzen.eu/authority/129866 . dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2024.
  3. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei , Wikidata   Q36578 , https://gnd.network/ , adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12028373t . ffeil awdurdod y BnF . dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei , Wikidata   Q36578 , https://gnd.network/ , adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12028373t . ffeil awdurdod y BnF . dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Gertrud Fussenegger, eig. Dietz, verh. Dorn" . Cyrchwyd 9 Hydref 2017 . "Gertrud Fussenegger" . Narodni autority ?eske republiky . dyddiad cyrchiad: 23 Tachwedd 2019. "Gertrud Fussenegger" . "Gertrud Fussenegger" . http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Gertrud&prijm=Fussenegger&dnar=08.05.1912&hledej=Hledat . "Gertrud Fussenegger" . Cyrchwyd 9 Hydref 2017 . https://tritius.plzen.eu/authority/129866 . dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2024.
  5. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei , Wikidata   Q36578 , https://gnd.network/ , adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12028373t . ffeil awdurdod y BnF . dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Gertrud Fussenegger, eig. Dietz, verh. Dorn" . Cyrchwyd 9 Hydref 2017 . "Gertrud Fussenegger" . Narodni autority ?eske republiky . dyddiad cyrchiad: 23 Tachwedd 2019. https://cs.isabart.org/person/151504 . dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 151504. "Gertrud Fussenegger" . Cyrchwyd 9 Hydref 2017 . https://tritius.plzen.eu/authority/129866 . dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2024.
  6. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei , Wikidata   Q36578 , https://gnd.network/ , adalwyd 11 Rhagfyr 2014 Narodni autority ?eske republiky . dyddiad cyrchiad: 23 Tachwedd 2019. http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Gertrud&prijm=Fussenegger&dnar=08.05.1912&hledej=Hledat . https://cs.isabart.org/person/151504 . dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 151504. https://tritius.plzen.eu/authority/129866 . dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2024.
  7. Franz Fend (12 Mawrth 2008). "Puhringer zeigt Flagge" . KPO Oberosterreich, Linz (Austrian Communist Party, Upper Austria branch) . Cyrchwyd 6 Hydref 2018 . Italic or bold markup not allowed in: |publisher= ( help ) [ dolen marw ]
  8. 8.0 8.1 Dieter Borchmeyer (1993). "Biographie .... Die blockierte Wahrnehmung. Vom funfzigjahrigen Versuch der Autorin, die Schwarmerei einer Zwanzigjahrigen zu korrigieren" . Rheinische Merkur . Cyrchwyd 6 Hydref 2018 . [ dolen marw ]
  9. 9.0 9.1 Gertrud Anna Fussenegger (author); Harold Steinacker (supervisor) (1934). "Gemeinschaft und Gemeinschaftsbildung im Rosenroman von Jean Clopinel von Meun" . Dissertation eingericht bei der Hohen Philosopischen Fakultat der Leopold-Franzens-Universitat in Innsbruck . Universitats- Landesbibliothek Tirol (Abteilung Digitale Services), Innsbruck. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-07 . Cyrchwyd 6 Hydref 2018 .
  10. Elisabeth Endres (8 Mai 1992). "Biographie .... Osterreichische Reminiszenzen. Gertrud Fussenegger wird achtzig" . Suddeutsche Zeitung . Cyrchwyd 6 Hydref 2018 . [ dolen marw ]
  11. Rainer Hackel (19 Ionawr 2016). "Gertrud Fussenegger, Biografie" . Adalbert-Stifter-Institut des Landes Oberosterreich, Linz . Cyrchwyd 6 Hydref 2018 .
  12. Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/151504 . dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 151504. https://tritius.plzen.eu/authority/129866 . dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2024.
  13. Olga Hochweis; Adolf Stock (6 Chwefror 2015). "... Eine uppige Familiensaga, die an die 'Buddenbrooks' erinnert" . Die Bierstadt [Pilsen] kann auch Kultur . Deutschlandfunk Kultur . Cyrchwyd 6 Hydref 2018 .
  14. Ernst Klee: Das Kulturlexikon zum Dritten Reich. Wer war was vor und nach 1945. S. Fischer, Frankfurt am Main 2007, S. 172.
  15. "Gertrud Fussenegger" . Nachrufe . Munchener Zeitungs-Verlag GmbH & Co.KG (Munchner Merkur) . Cyrchwyd 7 Hydref 2018 .
  16. "Gertrud Fussenegger vor 100 Jahren geboren" . Katholische Presseagentur, Wien, Osterreich. 2 Mai 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-07 . Cyrchwyd 7 Hydref 2018 .
  17. S. Stein (20 Mawrth 2009). "KIRCHE IN NOT trauert um die Schriftstellerin Dr. Gertrud Fussenegger" . Osterreichische Lyrikerin war dem Hilfswerk besonders verbunden . KIRCHE IN NOT, Konigstein im Taunus . Cyrchwyd 7 Hydref 2018 .
  18. Liste der auszusondernden Literatur . Zentralverlag, Berlin 1946 Fussenegger, Gertrud: Der Brautraub . Rutten & Loening, Potsdam 1939.
  19. Liste der auszusondernden Literatur. Zweiter Nachtrag . Deutscher Zentralverlag, Berlin 1948 Fusseziegger [sic!], Gertrud: Bohmische Verzauberungen. Diederichs, Jena 1944.