Gerry Fitt
|
---|
Ganwyd
| 9 Ebrill 1926
Belffast
|
---|
Bu farw
| 26 Awst 2005
Llundain
|
---|
Dinasyddiaeth
| y Deyrnas Unedig
,
Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
|
---|
Swydd
| aelod o D?'r Arglwyddi, Leader of the Social Democratic and Labour Party, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, member of the 1973?74 Northern Ireland Assembly, Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU
|
---|
Plaid Wleidyddol
| SDLP
|
---|
Priod
| Susan Gertrude Anne Doherty
|
---|
Plant
| Joan Fitt, Eileen Fitt, Patsy Fitt, Betty Fitt, Geraldine Fitt
|
---|
Gwleidydd o
Ogledd Iwerddon
ac arweinydd cyntaf y blaid
SDLP
oedd
Gerard "Gerry" Fitt
(
9 Ebrill
1926
-
26 Awst
2005
).
Ganed Fitt yn ninas
Belffast
, a bu'n llongwr rhwng 1941 a 1953. Etholwyd ef i Gyngor Dinas Belffast yn
1958
fel aelod o Blaid Lafur Iwerddon. Yn
1962
enillodd sedd yn Senedd Gogledd Iwerddon, gan gipio'r sedd oddi ar yr
UUP
. Yn 1964, roedd yn un o sylfaenwyr y Blaid Lafur Weriniaethol, ac enillodd sedd Gorllewin Belffast yn
Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1966
.
Ym mis Hydref
1968
, roedd gyda gorymdaith hawliau sifil pan gurwyd ef gan swyddogion yr
RUC
. Yn Awst
1970
daeth yn arweinydd cyntaf plaid newydd yr SDLP. Dan y Cytundeb Rhannu Grym, daeth yn ddirprwy arweinydd Senedd Gogledd Iwerddon yn
1973
. Fodd bynnag, teimlai rhai o fewn yr SDLP nad oedd yn cynrychioli safbwynt y cenedlaetholwyr yn ddigonol, ac yn
1980
olynwyd ef fel arweinydd gan
John Hume
. Gadawodd y blaid wedi iddo gytuno i drafodaethau ar y cyfansoddiad gyda llywodraeth Prydain heb i lywodraeth
Gweriniaeth Iwerddon
dderbyn gwahoddiad. Ymddiswyddodd o'r blaid wedi i'w chynhadledd wrthdroi'r penderfyniad. Yn ddiweddarach, daeth yn aelod o
D?'r Arglwyddi
fel Barwn Fitt.