Bardd
a aned yn "Nh? Uchaf", fferm ym mhlwyf Llandderfel
Sarnau
,
Sir Feirionnydd
(de
Gwynedd
heddiw) oedd
Gerallt Lloyd Owen
(
6 Tachwedd
1944
?
15 Gorffennaf
2014
).
[1]
[2]
Roedd yn un o brif feistri'r
gynghanedd
ac yn feuryn
ymryson
barddol Radio Cymru,
Talwrn y Beirdd
.
[3]
Gerallt oedd yr ail fab i Henry Lloyd Owen (1906-1982),
amaethwr
a Swyddog Pla
Cyngor Sir Feirionnydd
ac yna
Gwynedd
, a Jane Ellen (Jin, 1905-1989), athrawes a fu hefyd yn cadw siop a llythyrdy'r Sarnau wedi i'r teulu symud yno i fyw i'w hen gartref hi, "Broncaereini", yn 1945 pan benodwyd Henry i'w swydd gyda Chyngor Sir Feirionnydd.
Llwyd o'r Bryn
a gyflwynodd y gynghanedd iddo, ei athro barddol cyntaf, a gallai Gerallt gyfansoddi englyn cywir yn ddeuddeg oed. Yna aeth at Ifan Rowlands y Gistfaen,
Llandderfel
i wella'i grefft.
Derbyniodd Gerallt ei addysg yn
Ysgol T? Tan Domen
. Tra yn y chweched dosbarth dyrchafwyd y tad a symudodd y teulu i Gaernarfon, ond arhosodd Gerallt gyda'i fodryb yn y Sarnau i adolygu ar gyfer ei arholiadau 'lefel A', ond gwell ganddo astudio'r
gynghanedd
a darllen
barddoniaeth
ac ni chafodd y graddau angenrheidiol i fynd i'r brifysgol ac felly aeth i
Goleg y Normal, Bangor
lle derbyniodd Dystysgrif Athro yn 1966.
[3]
Treuliodd gyfnod o bum mlynedd fel athro: Ysgol Gynradd,
Ysgol Glynd?r
(yr ysgol breifat Gymraeg a sefydlwyd ym
Mhen-y-bont ar Ogwr
gan y cenedlaetholwr brwd
Trefor Morgan
) ac Ysgol Gymraeg y Betws. Bu'n ysgrifennu comics i blant, gan gynnwys
Llinos
ac
Yr Hebog
[4]
.
Sefydlodd
Wasg Gwynedd
ym 1972. Yn 1972 hefyd y priododd ag Alwena Jones o
Ddeiniolen
gan fyw yn
Llandwrog
, a chawsant dri o blant:
Mirain
, Bedwyr a Nest.
Er i'w gyfrol gyntaf,
Ugain Oed a'i Ganiadau
(Argraffty'r M.C., Caernarfon, 1966) gael ei gyhoeddi ym
1966
, ni ddaeth yn ffigwr amlwg nes iddo gyhoeddi
Cerddi'r Cywilydd
ym
1972
.
[5]
Nodweddir ei farddoniaeth gan ymdeimlad cryf am
Gymreictod
a phwyslais ar
etifeddiaeth y Cymry
a'r angen i'w hamddiffyn. Gwelir hyn yn arbennig o eglur mewn cerddi fel yr
awdl
Cilmeri
, am dranc
Llywelyn ap Gruffudd
, a'r gerdd
Fy Ngwlad
(
Cerddi'r Cywilydd
) am yr
arwisgiad
yng
Nghaernarfon
yn 1969 sy'n agor efo'r llinellau cofiadwy,
- Wylit, wylit, Lywelyn,
- Wylit waed pe gwelit hyn.
- Ein calon gan estron ?r,
- Ein coron gan goncwerwr,
- A gwerin o ffafrgarwyr
- Llariaidd eu gwen lle'r oedd gw?r.
Ond mae gan ei
awen
agwedd bersonol hefyd, yn ei gerddi am gyfeillion a pherthnasau, a'i gariad amlwg at ei fro. Mae'n medru bod yn ffraeth yn ogystal, er enghraifft yn ei gerdd
Trafferth mewn siop
(yn y gyfrol
Cilmeri
) am gael gwrthod talu a siec yn y Gymraeg yn siop
Marks and Spencers
,
Llandudno
, sy'n adleisio cerdd adnabyddus
Dafydd ap Gwilym
Trafferth mewn Tafarn
.
Cyhoeddodd
hunangofiant
ym 1999 dan y teitl
Fy Nghawl Fy Hun
. Golygodd gylchgrawn y Coleg Normal (Y Normalydd), sawl cyfrol yn y gyfres
Talwrn y Beirdd
, a bu'n gyd-olygydd y cylchgrawn
Barddas
am gyfnod.
Enillodd y
Gadair
yn
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor 1975
gyda'i awdl
Yr Afon
ac yn
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1982
gydai' awdl
Cilmeri
.
Dymuniad y teulu oedd bod rhoddion er cof am Gerallt i'w gyfrannu i
ymgyrch ‘Ie’ yr Alban
.
[6]
Gwasg Gwynedd gyhoeddodd ei ddwy gyfrol bwysicaf o farddoniaeth:
Cerddi'r Cywilydd
yn 1972 a
Cilmeri a Cherddi Eraill
yn 1991, a hefyd ei hunangofiant
Fy Nghawl Fy Hun
yn 1999. Cafwyd 4 argraffiad o
Cerddi'r Cywilydd
ac enillodd
Cilmeri a Cherddi Eraill
wobr
Llyfr y Flwyddyn
, 1992.