Geraint Thomas
Thomas yn Harelbeke 2015
|
Gwybodaeth bersonol
|
---|
Enw llawn
| Geraint Howell Thomas
|
---|
Llysenw
| Gez, G, Crazy G, G Man
|
---|
Ganwyd
| (
1986-05-25
)
25 Mai 1986
(38 oed)
Caerdydd
|
---|
Taldra
| 1.83 m (6 ft 0 in)
[1]
|
---|
Pwysau
| 70 kg (154 lb; 11 st 0 lb)
[1]
|
---|
Gwybodaeth tim
|
---|
Tim presennol
| Ineos Grenadiers
|
---|
Disgyblaeth
| Ffordd a trac
|
---|
Rol
| Reidiwr
|
---|
Math reidiwr
| Amryddawn (ffordd)
Ymlidwr (trac)
|
---|
Tim(au) amatur
|
---|
0
| Maindy Flyers Youth Cycling Club /CC Cardiff
|
---|
0
| Cardiff JIF
|
---|
2005
| Team Wiesenhof
(stagiaire)
|
---|
2006
| Saunier Duval?Prodir
(stagiaire)
|
---|
|
---|
Tim(au) proffesiynol
|
---|
2006
| Recycling.co.uk
|
---|
2007?2009
| Barloworld
|
---|
2010?2019
| Team Sky
|
---|
2019-
| Ineos Grenadiers
|
---|
|
---|
Prif fuddugoliaethau
|
---|
Teithiau Mawr
- Tour de France
- Dosbarthiad cyffredinol
(2018)
- 3 cymal unigol (2017, 2018)
Cymalau ras
- Criterium du Dauphine
(2018)
- Paris?Nice
(2016)
- Bayern?Rundfahrt
(2011, 2014)
- Volta ao Algarve
(2015, 2016)
- Tour of the Alps
(2017)
Rasus undydd a Clasuron
- Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd
(2010)
- Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser
(2018)
- E3 Harelbeke (2015)
|
|
---|
|
---|
Seiclwr
Cymreig
, proffesiynol ydy
Geraint Howell Thomas
,
OBE
(ganwyd
25 Mai
1986
), sydd yn aelod o
Team Sky
ar Gylchdaith Proffesiynol yr
UCI
.
Mae Thomas wedi profi llwyddiant ar y trac ac ar y ffordd gan ennill Pencampwriaethau Trac y Byd a medal aur Olympaidd yn y
Ras Ymlid
i dimau yn
Ngemau Olympaidd 2008
a
2012
. Ar y ffordd mae wedi ennill ras y
Junior Paris-Roubaix
yn 2004, Pencampwriaethau Cenedlaethol Prydain yn 2010, medal aur yn Ras Lon
Gemau'r Gymanwlad 2014
, ras Bayern-Rundfart yn 2011 a 2014, Ras
E3 Harelbeke
yn 2015,
Paris?Nice
yn 2016, Tour of the Alps yn 2017 a'r Criterium du Dauphine yn 2018.
Yn 2017 daeth Thomas y Cymro cyntaf erioed a dim ond yr wythfed beiciwr o Ynysoedd Prydain i wisgo'r siwmper felen yn y
Tour de France
ond bu rhaid iddo adael y ras yn gynnar ar ol torri pont ei ysgwydd mewn damwain ar y nawfed cymal
[2]
.
Yn Tour de France 2018, cymerodd Thomas y crys melyn ar ol ennill cymal 11, gan arwain y daith ers hynny. Cwblhaodd y cymal olaf o
Houilles
i
Baris
yn llwyddiannus, gan ddod y Cymro cyntaf i ennill y ras, a'r trydydd o wledydd Prydain.
[3]
Ar 16 Rhagfyr 2018, enillodd wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC, y Cymro cyntaf i ennill ers
Ryan Giggs
yn 2009.
Ganwyd Thomas yng
Nghaerdydd
,
Cymru
, yn fab hynaf i Howell Thomas, mab ffermwr o
Bancyfelin
,
Sir Gaerfyrddin
,
[4]
ac yn frawd i Alun Lloyd Thomas. Magwyd yn ardal
Llwyn Fedw
ger
yr Eglwys Newydd
, mynychodd
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
. Dechreuodd seiclo gyda chlwb "Maindy Flyers Cycling Club" yn
Canolfan Maendy
pan yn 10 oed,
[5]
cyn mynd ymlaen i reidio dros glybiau lleol eraill, "Cycling Club Cardiff" a "Cardiff Just in Front". Cafodd lwyddiant mewn rasys ar gyfer rhai o dan 14 ac o dan 16 oed, gan gynnwys pencampwriaethau cenedlaethol Prydain, ond dechreuwyd sylwi ar ei botensial pan enillodd fedal arian yn y ras bwyntiau yn y pencampwriaethau Ewropeaidd.
[6]
Cyfarfu Thomas ei wraig, Sara Elen Thomas, drwy ffrind.
[7]
Priododd y cwpl yng Nghymru yn Hydref 2016 a maent yn byw yn
Monaco
,
Daeth Thomas yn aelod o Academi Olympaidd
British Cycling
. Enillodd Wobr Iau
Carwyn James
yn seremoni Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru. Gwnaeth gystadlu mewn rasys Cwpan y Byd o amgylch y byd. Fe gafodd ddamwain wrth ymarfer yn
Sydney
,
Awstralia
ym mis Chwefror 2005 ar ol i'r reidiwr o'i flaen daro darn o fetel a gadawodd ei fflicio i olwyn Thomas. Dioddefodd o waedu mewnol ar ol i ddarn o fetel fynd i'w gorff pan ddisgynnodd, torlengigodd ei
ddueg
, a bu'n rhaid cael llawdriniaeth i'w dynnu.
[8]
[9]
Yn 2006, reidiodd y rhan fwyaf o'i rasus dros dim
Recycling.co.uk
, ond tuag at ddiwedd 2006 ymunodd a
Saunier Duval-Prodir
. Reidiodd rai rasus hefyd dros
Brydain
, er enghraifft
Tour of Britain
.
Bu Geraint yn byw ac yn ymarfer yn
Toscana
yn
yr Eidal
, ynghyd a sawl seiclwr proffesiynol arall
Prydeinig
megis
Mark Cavendish
. Bydd seiclwyr proffesiynol yn ymarfer yn rheolaidd yn
Awstralia
er mwyn manteisio ar y tywydd.
Thomas oedd y reidiwr ifancaf yn
Tour de France
2007
, wedi i'w dim Barloworld, gael un o'r tri safle
wildcard
sydd yn cael eu neilltuo ar gyfer y ras. Gorffennodd Geraint y
Tour de France
yn yr 140fed safle allan o 141,
[10]
wedi ugain niwrnod o rasio, er nad oedd disgwyl iddo wneud hynny ar y cynnig cyntaf. Honnir gan amryw mai hon yw'r ras seiclo ffordd, galetaf i gyd.. Geraint oedd y Cymro cyntaf i gymryd rhan yn y ras ers
Colin Lewis
yn
1968
, a'r Cymro cyntaf i orffen y ras ras.
[11]
Derbyniodd gryn gefnogaeth gan ei gefnogwyr Cymreig yn y seremoni agoriadol yn Llundain, gyda nifer ohonynt yn mynd ymlaen i ddilyn yr holl ras.
[12]
Fe dreuliodd Geraint chwe wythnos yn ymarfer yn
Mherth
,
Awstralia
yng ngaeaf 2007.
[11]
Enwebwyd ef ar gyfer gwobr
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
yn 2007, datganwyd yr enillwyr ar y teledu ar y
2 Rhagfyr
a chafodd Geraint ei bleidleisio i'r drydydd safle gan y cyhoedd.
[13]
Ni chystadlodd Thomas yn
Tour de France 2008
, yn hytrach cystadlodd yn y
Giro d'Italia
yn gynharach yn y tymor cyn dychwelyd i Brydain er mwyn canolbwyntio ar baratoadau ar gyfer
Gemau Olympaidd 2008
.
[14]
Wedi darganfod na fyddai baneri gwledydd nad oedd yn cymryd rhan o dan eu henwau eu hunain yn cael eu caniatau yn y Gemau, dywedodd Thomas:
- "It would be great to do a lap of honour draped in the Welsh flag if I win a gold medal, and I'm very disappointed if this rule means that would not be possible."
[15]
[16]
Ar 17 Awst, roedd Thomas yn aelod o'r sgwad tim dilyn a dorrodd record y byd yn y rowndiau cyn-derfynol yn y Gemau Olympaidd gydag amser o 3:55:202, gan guro eu gwrthwynebwyr Rwsiaiddyn gyfforddus i fynd ymlaen i'r rownd derfynol i gystadlu am yr aur a'r arian.
[17]
Y diwrnod canlynol, ar eu ffordd i ennill y fedal aur, torrodd y tim Prydeinig record y byd eu hunain, gan osod amser newydd o 3:53:314, a churo eu gwrthwynebwyr Danaidd o 6.7 eiliad.
[18]
Roedd Thomas wedi bod yn un o'r cystadleuwyr posibl ar gyfer y dilyn unigol, ond penderfynodd beidio a chystadlu yn y ddwy gystadleuaeth gan nad oedd eisiau peryglu ymdrechion ei dim. Roedd hefyd wedi cael ei gysidro i gystadlu yn y Madison gyda
Bradley Wiggins
, ond dewiswyd
Mark Cavendish
yn y pen draw; dywedodd
Chris Boardman
fod
"Geraint keeps surpassing people's expectations"
.
[19]
Yn dilyn diarddeliad ei gyd-aelod tim Barloworld,
Moises Duenas
, o'r Tour de France, datgelodd Thomas ei farn cryf yn erbyn defnydd cyffuriau yn ei flog ar y wefan BBC 606: "
..if someone is fraudulent in a business, wouldn’t they be facing a prison term? I don’t see how riders taking drugs to win races and lying to their teams is any different. Bang them up and throw away the key!
"
[20]
Apwyntiwyd ef yn
Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig
(MBE) yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd yn 2009.
[21]
. Fe'i dyrchafwyd yn OBE yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd yn 2019
[22]
Ni chafodd Thomas ddechrau da iawn i'w dymor rasio yn 2009, pan dorrodd ei
belfis
a'i
drwy
wrth ddisgyn ar ol cam-farnu cornel a tharo'r barier diogelwch mewn cymal treial amser o'r Tirreno-Adriatico yn
Macerata
, yr Eidal. Daeth yn ddamwain yn fuan wedi i siec amser 8 km ddangos mai ef oedd yr ail cyflymaf ar y ffordd. Er y bu iddo allu dychwelyd i westy ei dim o'r ysbyty'r un diwrnod, gorfodwyd iddo gymryd 20 diwrnod o orffwys cyfan gwbl cyn gallu dychwelyd at ymarfer.
[23]
[24]
Ar 30 Hydref 2009, gosododd Thomas yr amser cyflymaf yn y dilyn o dan y rheolau presennol, pan gyflawnodd 4 km mewn 4 munud 15.105 eiliad yn rownd gyntaf y
2009?2010 UCI Track Cycling World Cup Classics
yn
Velodrome Manceinion
. Rhagorir yr amser hwn gan
Chris Boardman
yn unig, gydag amser o 4 munud 11.114 eiliad, a osodwyd ym 1996 mewn safle ar y beic sydd eisoes wedi cael ei wahardd.
[25]
Ar 1 Tachwedd, ar ddiwrnod olaf y rownd hon o Gwpan y Byd, roedd Thomas yn aelod o'r sgwad dilyn tim a osododd yr amser ail-gyflymaf yn y byd tra ar eu ffordd i ennill y fedal aur, gan osod record trac newydd yn y broses o 3:54.395.
[26]
Daeth Thomas yn ail i
Ryan Giggs
yng ngwobr
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
yn 2009, wedi i'r enillwyr gael eu datgan ar 8 Rhagfyr.
[27]
Gadawodd Thomas dim Barloworld ar ddiwedd 2009 i ymuno a thim proffesiynol newydd
Prydeinig
, sef
Team Sky
.
[25]
Dechreuodd Thomas ei dymor rasio yn 2010 fel aelod dim treial amser Sky yn y
Tour of Qatar
. Wedi cystadlu yng nghlasuron seiclo'r gwanwyn, daeth i sylw gan orffen y
Criterium du Dauphine
, gan orffen yn y deg uchaf yn y pedwar cymal cyntaf. Oherwydd hyn, fe oedd arweinydd y gystadleuaeth bwyntiau a gwisgodd y
Crys Gwyrdd
yng nghymalau dau, pedwar a chwech. Erbyn diwedd y ras, roed yn bumed yn y gystadleuaeth a 21ain yn y dosbarthiad cyffredinol.
Curodd Thomas ei gyd-aelod tim,
Peter Kennaugh
, i ennill
Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain 2010
. Roedd mewn siap da, a pharhaodd hyn drwy
Tour de France 2010
, lle gorffennodd yn bumed yn y Prologue ac ail yn y trydydd cymal, felly arweiniodd y gystadleuaeth reidiwr ifanc a gwisgo'r crys gwyn wedi'r trydydd cymal.
Dechreuodd Thomas dymor rasio 2011 gyda perfformiadau addawol, gan gynnwys chweched safle yn y
Classica Sarda
ac ail yn y
Dwars door Vlaanderen
.
[28]
Cipiodd ei fuddugoliaeth proffesiynol cyntaf ym mis Mai 2011, gan ennill ras pum diwrnod
Bayern-Rundfahrt
,
[29]
wedi iddo orffen yn ail ar gymal 3, a pumed ar gymal 4. Ar 26 Mehefin 2011, daeth Thomas yn ail i
Bradley Wiggins
ym
Mhencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain 2011
.
[30]
Arweiniodd Thomas y gystadleuaeth reidiwr ifanc unwaith eto yn
Tour de France 2011
, gan gwisgo'r crys gwyn wedi'r cymal cyntaf, a hyd y seithfed cymal. Yng nghymal 12, bu'n un o chwe reidiwr i ddianc oddi ar flaen y peleton wedi dim ond 2 km o'r cymal 211 km o
Cugnaux
i
Luz-Ardiden
. Ar un adeg roedd 7 munud o flaen y peleton ac yn arwain y ras fel oedd hi ar y ffordd. Cafodd ei ddal 7 km o ddiwedd y cymal ac enillodd y
Wobr Brwydrol
y cymal.
[31]
Gorffennodd y ras yn 31af, ei safle gorau yn y ras hyd yn hyn.
Bu Thomas yn llwyddiannus yn y
Tour of Britain
, gan ennill y dosbarthiad pwyntiau, a bu mewn safle uchel ar y dosbarthiad cyffredinol cyn iddo gael damwain a cholli amser. Roedd yn aelod o dim
Prydain Fawr
ym
Mhencampwriaethau Rasio Ffordd y Byd
, gan arwain
Mark Cavendish
at ei fuddugoliaeth.
Canolbwyntiodd Thomas ar rasio ar y trac ar gyfer tymor 2012 gan anelu at
Gemau Olympaidd 2012
yn
Llundain
[32]
. O'r herwydd,
Giro d'Italia
2012 oedd ei unig brif ras yn ystod y tymor ond roedd yn rhan o dim
Team Sky
sicrhaodd fuddugoliaeth i
Bradley Wiggins
yn ras Paris-Nice
[33]
[34]
.
Ar
4 Ebrill
roedd yn aelod o dim trac Prydain dorrodd record byd yn y ras ymlid wrth ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Trac y Byd ym
Melbourne
[35]
a chasglodd fedal arian gyda
Ben Swift
yn y madison
[36]
.
Ar ol ennill cymal agoriadol y Tour de Romandie
[37]
gorffennodd yn ail yng nghymal agoriadol yn erbyn y cloc y
Giro d'Italia
a hefyd yn ail yng nghymal ola'r Giro yn erbyn y cloc
[38]
[39]
Cafodd Thomas ei ddewis yn aelod o dim Ras Ymlid Prydain ar gyfer
Gemau Olympaidd 2012
ynghyd a
Steven Burke
,
Ed Clancy
a
Peter Kennaugh
. Ar ol torri'r record byd yng nghymal cyntaf y gystadleuaeth gosodwyd, llwyddodd y pedwarawd i dorri'r record unwaith eto yn y rownd derfynol yn erbyn
Awstralia
er mwyn cipio'r fedal aur
[40]
[41]
Dechreuodd Thomas dymor 2013 gyda'r
Tour Down Under
. Llwyddodd i ennill Cymal 2 a dal ar siwmper arweinydd y ras hyd nes y cymal olaf ond un. Gorffennodd yn drydydd, 25 eiliad tu ol i'r Iseldirwr,
Tom-Jelte Slagter
, gan ennill y dosbarth pwyntiau
[42]
.
Cafodd ei ddewis fel arweinydd
Team Sky
yn rasys y Clasuron ond heb llawer o lwyddiant. Gorffennodd yn ail yn
Bayern-Rundfahrt
ac yn 15ed yn y
Criterium du Dauphine
wrth i
Chris Froome
a
Richie Porte
orffen yn gyntaf ac yn ail i
Team Sky
.
Cafodd ei ddewis i rasio yn
Tour de France 2013
ac er iddo dorri ei belfis mewn damwain hegar ar y cymal cyntaf, parhaodd i rasio gan orffen yn y 140ed safle wrth i
Team Sky
sicrhau buddugoliaeth i Froome
[43]
Unwaith eto, dechreuodd Thomas ei dymor yn y
Tour Down Under
mewn rol
domestique
i
Richie Porte
, a gorffennodd yn wythfed. Roedd Thomas i fod i gefnogi Porte yn y
Paris?Nice
hefyd ond yn dilyn anaf i Chris Froome cafodd porte ei symud i rasio yn y
Tirreno?Adriatico
gan adael Thomas i arwain
Team Sky
yn Ffrainc. Llwyddodd i fachu'r
maillot jaune
ar y pedwerydd cymal cyn disgyn i'r ail safle erbyn y chweched cymal. Cafodd ddamwain mawr ar y seithfed cymal welodd o'n gorffen dros saith munud tu ol i'r ceffylau blaen, ac ni gymrodd rhan yn y cymal olaf.
Dechreuodd tymor y Clasuron yn gryf gan orffen yn drydydd yn y
E3 Harelbeke
cyn arwain
Team Sky
yn y
Tour of Flanders
lle gorffennodd yn wythfed, 47 eiliad tu ol i
Fabian Cancellara
ac roedd yn seithfed yn y
Paris?Roubaix
, gan orffen 20 eiliad tu ol i
Niki Terpstra
. Yn y
Tour de France
bu'n gweithio dros Richie Porte wedi i arweinydd Team Sky, Chrids Froome, adael y ras wedi anaf ar y pumed cymal. Thomas oedd yr unig seiclwr o ynysoedd Prydain i orffen y ras gan orffen yn 22in, ei ganlyniad gorau yn y Tour de France.
Wedi'r Tour, teithiodd Thomas i Glasgow i gynrychioli Cymru yng
Ngemau'r Gymanwlad
yn
Glasgow
. Casglodd fedal efydd yn y Ras yn erbyn y cloc cyn casglu'r fedal aur yn y Ras Lon mewn ras hynod gyffrous welodd Thomas yn gorfod newid olwyn ym munudau olaf y ras.
[44]
Yn Ionawr cyhoeddodd Team Sky y byddai Geraint a
Mikel Landa
yn cyd-arwain yn y Giro d'Italia y flwyddyn honno.
[45]
Ym Mawrth Geraint Thomas a arweiniodd y Tirreno?Adriatico ond amharwyd ar berfformiad Team Sky gydag anaf i
Gianni Moscon
, pan chwythodd ei deiar flaen a disgynnodd ar y tarmac.
[46]
Gorffennodd Team Sky 1' 41" yn is na'r safon. Enillodd Thomas yr ail gymal - 9 eiliad o flaen
Tom Dumoulin
. Ar ddiwedd y ras gorffennodd Geraint yn 5ed: 58 eiliad y tu ol i Quintana.
Yn Ebrill, daeth Geraint y seiclwr cyntaf o Gymru, ac o Brydain, i ennill y
Tour of the Alps
(a adnabyddid cynt fel y
Giro del Trentino
).
[47]
Yn dilyn anaf i'w ysgwydd ac yna'n ddiweddarach i'w ben-glin, tynnodd o'r ras.
[48]
Yn Tour de France 2017, enillodd Geraint y cymal agoriadol, gan ei wneud y Cymro cyntaf erioed i wisgo'r siwmper felen. Cadwodd honno amdano hyd at Gymal 5, pan disgynnodd i'r ail safle. Daeth ei gyfraniad i'r ras i ben pan gafodd ddamwain ar Gymal 9 gan dorri pont ei ysgwydd.
[49]
Yn 2018 cystadlodd Thomas fel 'cyd-arweinydd' gyda
Chris Froome
ar gyfer
Team Sky
. Yn sgil damwain yn y cymal cyntaf, collodd Froome amser i Thomas. Wedi hynny, bu ymgiprys am arweinyddiaeth y tim. Enillodd Thomas cymal 11 ar
La Rosiere, Savoie
a Chymal 12 fyny'r
Alpe d'Huez
mewn modd ddramatig. Yn dilyn hynny aeth ymlaen i ennill y
Tour de France
. Ef oedd y Cymro cyntaf erioed i ennill ras bwysicaf y byd seiclo. Fe'i gyfarchwyd mewn seremoni arbennig o flaen adeilad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
yn ystod yr
Eisteddfod Caerdydd
.
Yng
Ngemau Olympaidd yr Haf 2020
yn Japan (ym mis Gorffennaf 2021), tynnodd Thomas allan o'r Ras Ffordd gyda 60 km i fynd.
[50]
Ychydig wythnosau ynghynt, fe adlynodd ei ysgwydd ar ol cwympo yn ystod wythnos gyntaf y Tour de France.
Yn y Tour de Suisse, roedd yn rhan o dim Ineos Grenadiers a oedd yn cynnwys Adam Yates, Daniel Martinez a Tom Pidcock.
[51]
Ar ol ennill eiliadau bonws ar y trydydd cymal,
[52]
roedd tu ol arweinydd y ras Aleksandr Vlasov o saith eiliad ar ol y pumed cymal.
[53]
Yn dilyn prawf
COVID-19
positif Vlasov cyn y chweched cam, symudodd Thomas i fyny i'r ail safle yn gyffredinol, un eiliad y tu ol i Jakob Fuglsang.
[54]
Cafodd y ddau eu pasio gan Sergio Higuita ar y seithfed cymal, gyda Higuita yn arwain Thomas o ddwy eiliad i gam olaf y treial amser unigol yn Liechtenstein.
[55]
Gorffennodd Thomas yn ail ar y diwrnod i Remco Evenepoel, gyda Higuita yn gorffen mwy na munud i lawr, a roddodd y fuddugoliaeth gyffredinol i Thomas.
[56]
Hon oedd y bedwaredd ras fawr iddo’i hennill, a’i ddegfed podiwm, wyth ohonyn nhw’n dod ar ol iddo droi'n 30 oed.
Tour de France 2022 fyddai’r 12fed tro i Thomas seiclo y Grand Boucle. Daeth i mewn i'r ras ynghyd a'i gyd-aelodau o'r tim Adam Yates, Dani Martinez a Tom Pidcock ac nid oedd yr un beiciwr yn ffefryn amlwg. Profodd Thomas ei hun i fod y beiciwr cryfaf yn y ras, ac eithrio Jonas Vingegaard a
Tadej Poga?ar
. Rhwng yr
Alpau
a'r
Pyrenees
roedd sion bod Poga?ar yn ceisio cynghreiro gyda Thomas, ac atebodd Thomas nad oeddent yn siarad y noson cynt yn trafod tactegau, ond mae beth bynnag sy'n digwydd yn ystod y ras, yn digwydd.
[57]
I mewn i'r drydedd wythnos fe seiclodd yn ddigon cryf i roi ei hun mewn sefyllfa i orffen ar bodiwm y Tour am y trydydd tro yn ei yrfa. Gyda'i berfformiad cryf yn ystod y treial amser terfynol ef oedd yr unig feiciwr i orffen o fewn +10:00 i Vingegaard a Poga?ar, a sicrhaodd ei safle podiwm, yn y trydydd safle.
[58]
[59]
Gyda
Tesni Evans
, dewiswyd ef i gludo baner Cymru yn seremoni agoriadol
Gemau'r Gymanwlad 2022
.
[60]
- 2004
- 1af Madison Cwpan Talent UIV
Bremen
(gyda
Mark Cavendish
)
- 1af Ras Scratch, Pencampwriathau Iau y Byd,
Los Angeles
- 2il Ras Scratch, UCI Moscow World Cup
- 2il Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Ewropeaidd Iau
- 2005
- 1af
20km Ras Scratch,
Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2006
- 1af Cwpan y Byd UCI,
Moscow
, Pursuit Tim (gyda
Paul Manning
,
Chris Newton
ac
Ed Clancy
)
- 1af
Pencampwriaethau Trac Ewropeaidd, Pursuit Tim dan 23, gyda (
Ed Clancy
,
Ian Stannard
, ac
Andy Tennant
)
- 2il Pencampwriaethau'r Byd Pursuit Tim, (gyda
Stephen Cummings
,
Rob Hayles
a
Paul Manning
)
- 2il
Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
, Pursuit Tim, gyda (
Ross Sander
,
Ian Stannard
a
Ben Swift
)
- 2il Ras
Scratch
dan 23, Pencampwriaethau Trac Ewropeaidd
- 3ydd Points Race, Melbourne 2006 Commonwealth Games
- 3ydd Cwpan y Byd UCI,
Sydney
, Pursuit Tim (gyda
Ed Clancy
,
Ian Stannard
, ac
Andy Tennant
)
- 3ydd Madison, UCI Sydney World Cup, (gyda
Mark Cavendish
)
- 4ydd Ras Bwyntiau dan 23, Pencampwriaethau Trac Ewropeaidd
- 5ed
Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
, Pursuit
- 2007
- 1af
Pencampwriaethau'r Byd, Pursuit Tim
- 2008
- 1af
Pencampwriaethau'r Byd, Pursuit Tim
- 1af
Pursuit Tim, Gemau Olympaidd
- 2009
- 1af
Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
, Pursuit
- 2012
- 1af
Pursuit Tim, Gemau Olympaidd - Record y Byd
- 1af
Pencampwriaethau'r Byd, Pursuit Tim
- 2il Pencampwriaethau'r Byd, Madison (gyda
Ben Swift
)
- 2004
- 1af
Pecampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd, Cymru
- 1af, Ras Iau Paris-Roubaix
- 2005
- 1af
Pecampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd, Cymru
[61]
Cafodd Thomas ddamwain ychydig ddydiau cyn ei
debut
rasio ffordd hyn yn Sydney ac roedd rhaid iddo gael llawdriniaeth i dynnu ei
sblin
. Doedd o ddim yn gallu cystadlu llawer oherwydd hynnu yn 2005.
- 2006
- 1af Canlyniadau Terfynol, Fleche du Sud
- 1af Canlyniadau Pwyntiau, Fleche du Sud
- 1af Canlyniadau dan 21, Fleche du Sud
- 1af Cymal 2, Fleche du Sud
- 2il Cymal 3B, Fleche du Sud
- 3ydd Pencampwriaethau Rasio Ffordd Prydeinig
- 3ydd Canlyniadau Terfynol y Mynyddoedd,
Giro d'Italia
(
Baby Giro
)
- 4ydd Cymal 10,
Giro d'Italia
(
Baby Giro
)
- 4ydd Cymal 4, Fleche du Sud
- 5ed Cymal 4,
Taith Prydain
- 5ed Cymal 2,
Giro d'Italia
(
Baby Giro
)
- 2007
- 5ed Canlyniadau dan 23,
Tour Down Under
- 2008
- 1af Smithfield Nocturne
- 3ydd Cymal 1, Ster Elektrotoer
- 2009
- 5ed
Coppa Bernocchi
- 2010
- 1af
Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
- 1af Cymal 1 TTT
Tour of Qatar
- 2il Cymal 3
Tour de France
- Deliodd
Crys Reidiwr Ifanc o Cymal 3?6
- 2011
- 2il
Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
- 2il
Dwars door Vlaanderen
- 10fed
Ronde van Vlaanderen
- 31af Tour de France
- 3ydd Cymal 2
- 5ed Cymal 5
- Deilydd Crys Reidiwr Ifanc o gymal 1-7
- Gwobr Brwydrol cymal 12
- 12fed Taith Prydain
- 1af Dosbarthiad Pwyntiau
- 3ydd Cymal 3
- 4ydd Cymal 4
- 2012
- 1af Prologue,
Tour de Romandie
- Giro d'Italia
- 2il Cymal 1, Treial amser
- 2il Cymal 21, Treial amser
- 2013
- 2il
Bayern?Rundfahrt
- 3ydd
Tour Down Under
- 1af
Sprints classification
- 1af Cymal 2
- 3ydd
Treial amser tim,
UCI Road World Championships
- 4ydd
Omloop Het Nieuwsblad
- 4ydd
E3 Harelbeke
- 10th Overall
Tour of Qatar
- 2014
- Commonwealth Games
- 1af
Road race
- 3rd
Treial amser
- 1af
Overall
Bayern?Rundfahrt
- 1af Cymal 4 (treial amser)
- 2il treial amser, National Road Championships
- 3ydd
E3 Harelbeke
- 6th
Eneco Tour
- 7th
Paris?Roubaix
- 8th
Tour Down Under
- 8th
Tour of Flanders
- 2015
- 1af
Volta ao Algarve
- 1af
Points classification
- 1af Cymal 2
- 1af
E3 Harelbeke
- 1af Cymal 1 (Treial amser tim)
Tour de Romandie
- 2il
Tour de Suisse
- 3ydd
Gent?Wevelgem
- 5ed
Paris?Nice
- 2016
- 1af
Paris?Nice
- 1af
Volta ao Algarve
- 9ydd Treial amser,
Gemau Olympaidd
- 2017
- 1af
Overall
Tour of the Alps
- 1af Cymal 3
- Tour de France
- 1af Cymal 1 (Treial amser)
- Held
after Stages 1?4
- Held
after Stage 1
- 3ydd
Treial amser tim,
UCI Road World Championships
- 5ed
Tirreno?Adriatico
- 1af Cymal 2
- 7th Taith Prydain
- 2018
- 1af
Treial amser, National Road Championships
- 1af
Overall
Tour de France
- 1af Cymal 11 & 12
- 1af
Overall
Criterium du Dauphine
- 1af Cymal 3 (Treial amser tim)
- 2il
Volta ao Algarve
- 1af 3 (Treial amser)
- 3ydd
Tirreno?Adriatico
- 4ydd
UCI World Tour
- 2019
- 2il
Tour de France
- 3ydd
Tour de Romandie
- 2020
- 2il
Tirreno?Adriatico
- 4ydd Treial amser,
UCI Road World Championships
- 2021
- 1af
Tour de Romandie
- 3ydd
Criterium du Dauphine
- 1af Cymal 5
- 3rd
Volta a Catalunya
Yn sgil llwyddiant cynyddol Geraint Thomas yn ystod Tour de France 2018 rhannwyd clip fideo ar Facebook o ffans Geraint Thomas yn canu fersiwn hwyliog ohonynt yn canu can
Hogia'r Wyddfa
,
Titw Tomos Las
[62]
gyda Geraint yn dod allan o'i bws teithio i'w harwain yn y canu.
[63]
Ynghanol holl hwyl llwyddiant Geraint yn y Tour, recordiodd
BBC Radio Cymru
fersiwn newydd o
Titw Tomos Las
[62]
ar gyfer rhaglen foreuol Aled Hughes. Canwyd y fersiwn newydd gan ddau o aelodau Hogia'r Wyddfa, y bandi
Siddi
, Band Pres Llarebbug a phlant lleol.
[64]
a bu sylwi iddi ar Radio Cymru a'r we.
[65]
Roedd can Titw Tomos yn rhan o don o
Ddathliadau Geraint Thomas yn Tour de France 2018
gan gynnwys cerddi a chan rap.
- ↑
1.0
1.1
"Geraint Thomas profile"
.
Nodyn:Ct
. BSkyB. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 1 Mai 2013
. Cyrchwyd
3 Ebrill
2013
.
- ↑
"Tour de France: Uran wins stage 9 in photo finish"
. CyclingNews. 10 Gorffennaf 2017.
- ↑
Y Cymro cyntaf ar fin ennill y Tour de France
, Golwg360, 28 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 29 Gorffennaf 2018.
- ↑
Village's pride at gold
. This is South Wales (20 Awst 2008).
- ↑
An interview with Geraint Thomas
. cyclingnews.com (5 Gorffennaf 2007).
- ↑
In the zone: Geraint Thomas
. BBC Sport.
- ↑
"Geraint Thomas' girlfriend: "Why I've travelled thousands of miles to support Ger
"
"
.
walesonline
. 9 Gorffennaf 2011.
- ↑
Larry Hickmott (27 Mawrth 2005).
Geraint Thomas Recovering from Aussie Crash
. British Cycling.
- ↑
Thomas in hospital after crashing
. BBC Sport (18 Chwefror 2005).
- ↑
2007 Tour de France, Overall Standing
. Le Tour de France (29 Gorffennaf 2007).
- ↑
11.0
11.1
Thomas backed for Beijing glory
. BBC (5 Rhagfyr 2007).
- ↑
Ian Jenkins (17 Gorffennaf 2007).
Maindy Flyers 'On Tour'!
. Welsh Cycling.
- ↑
Calzaghe claims BBC Wales award
. BBC (2 Rhagfyr 2007).
- ↑
THE BIG INTERVIEW: GERAINT THOMAS
. Cycling Weekly (11 Mehefin 2008).
- ↑
Gordon Rayner (6 Awst 2008).
Beijing Olympics: Flags showing Cross of St George, Saltire or Welsh dragon banned
. Telegraph.co.uk.
- ↑
Martin Shipton (5 Awst 2008).
Olympic officials ban Welsh athletes from flying national flag
. South Wales Echo.
- ↑
GB pursuit team set world record
. BBC Sport (17 Awst 2008).
- ↑
GB storm to gold in team pursuit
. BBC Sport (18 Awst 2008).
- ↑
Thomas & Cavendish fight for spot
. BBC Sport (25 Gorffennaf 2008).
- ↑
Motivation is high despite Tour dopers
. BBC Sport (22 Gorffennaf 2008).
- ↑
London Gazette, rhifyn 58929, tud. 23, 31 Rhagfyr 2008
- ↑
Golwg360 Geraint Thomas ymysg y Cymry ar restr anrhydeddau’r Frenhines
adalwyd 29 Rhagfyr 2018
- ↑
Latest Cycling News: Broken bones for Thomas
. CyclingNews (2009-03-16).
- ↑
44th Tirreno-Adriatico - Stage 4 & 5 Comnments & Photos
. Daily Peleton (15 Mawrth 2009).
- ↑
25.0
25.1
William Fotheringham (31 Hydref 2009).
Geraint Thomas sets second fastest individual pursuit time in history
. The Guardian.
- ↑
BBC Live Cycling coverage, 1 Tachwedd 2009
- ↑
Ryan Giggs wins BBC Wales Sports Personality 2009
. BBC Sport (8 Rhagfyr 2009).
- ↑
Geraint Thomas
. Team Sky.
- ↑
Thomas seals victory in Bavaria
. Sky Sports (29 Mai 2011).
- ↑
Wiggins Wins National RR Champ
. British Cycling (26 Mehefin 2011).
- ↑
Geraint Thomas in the thick of the Tour de France action
. South Wales Echo (15 Gorffennaf 2011).
- ↑
Thomas, Graham (7 Hydref 2011).
"Geraint Thomas considers quitting track after London Olympics"
. BBC Wales Sport.
- ↑
Callow, James (24 Hydref 2011).
"Geraint Thomas to skip Tour de France in bid for Olympic gold"
.
The Guardian
. London.
- ↑
Howell, Andy (5 Mawrth 2012).
"Geraint Thomas helps Bradley Wiggins claim Paris-Nice yellow jersey"
.
WalesOnline
. Media Wales.
- ↑
Richardson, Simon (2012-04-04).
"Great Britain break team pursuit world record to win gold"
.
Cycling Weekly
. IPC Media Limited.
- ↑
"Belgians win world Madison crown"
.
SBS Cycling Central
. SBS. 8 Ebrill 2012. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2013-02-19
. Cyrchwyd
2014-08-10
.
- ↑
"Tour de Romandie: Geraint Thomas wins on opening day"
.
BBC Sport
. BBC. 24 Ebrill 2012.
- ↑
Gallagher, Brendan (2012-05-05).
"Taylor Phinney romps to victory in opening time-trial ahead of Team Sky's Geraint Thomas"
.
The Guardian
. Telegraph Media Group Limited.
- ↑
"Giro d'Italia 2012: Ryder Hesjedal is first Canadian to win the race"
.
BBC Sport
. BBC. 2012-05-27.
- ↑
"Track cycling: GB men set team pursuit world record"
. BBC Sport. 2 Awst 2012.
- ↑
Bevan, Chris (3 Awst 2012).
"Olympics cycling: Team GB defend men's pursuit title"
. BBC Sport.
- ↑
"Tour Down Under: Geraint Thomas finishes third"
.
BBC Sport
. BBC. 27 Ionawr 2013.
- ↑
"Tour de France 2013: stage 21 results"
.
guardian.co.uk
. 2013-07-21.
- ↑
"Geraint Thomas wins Commonwealth gold for Wales"
. Guardian.co.uk.
- ↑
"Thomas and Landa to have joint leadership of Team Sky at Giro d'Italia - Cyclingnews.com"
.
- ↑
Windsor, Richard (8 Mawrth 2017).
"Gianni Moscon's front wheel collapses in bizarre crash during Tirreno TTT (video)"
.
Cycling Weekly
.
Time Inc. UK
. Cyrchwyd
14 Mawrth
2017
.
- ↑
"Geraint Thomas wins Tour of Alps: Welshman the first Briton to win event"
.
BBC Sport
.
BBC
. 21 Ebrill 2017
. Cyrchwyd
21 Ebrill
2017
.
- ↑
"Giro d'Italia: Geraint Thomas pulls out of race after crash on Sunday"
. 19 Mai 2017 – drwy www.bbc.co.uk.
- ↑
"Tour de France: Uran wins stage 9 in photo finish"
.
Cyclingnews.com
.
Immediate Media Company
. 9 Gorffennaf 2017
. Cyrchwyd
9 Gorffennaf
2017
.
- ↑
"Dim medal yn y ras ffordd i Geraint Thomas ar ol disgyn"
.
BBC Cymru Fyw
. 25 Gorffennaf 2021.
- ↑
Benson, Daniel (10 Mehefin 2022).
"Ineos Grenadiers dispatch Tour de France leaders to Tour de Suisse"
.
VeloNews
. Outside
. Cyrchwyd
25 Mehefin
2022
.
- ↑
"Tour de Suisse stage 3: Peter Sagan blasts back with bunch sprint stunner"
.
VeloNews
. Outside. 14 Mehefin 2022
. Cyrchwyd
25 Mehefin
2022
.
- ↑
Fletcher, Patrick (16 Mehefin 2022).
"Vlasov holds off Powless to win Tour de Suisse stage 5"
.
Cyclingnews.com
.
Future plc
. Cyrchwyd
25 Mehefin
2022
.
- ↑
"Tour de Suisse leader Vlasov and Olympic champion Pidcock quit after new positive Covid cases"
.
BBC Sport
.
BBC
. 17 June 2022
. Cyrchwyd
25 Mehefin
2022
.
- ↑
Trifunovic, Pete (18 June 2022).
"Thibaut Pinot wins Tour de Suisse stage seven as Sergio Higuita takes the overall lead"
.
Cycling Weekly
.
Future plc
. Cyrchwyd
25 June
2022
.
- ↑
Walker-Roberts, James (20 Mehefin 2022).
"Geraint Thomas 'easy' over Tour de France leadership for Ineos Grenadiers after Tour de Suisse win"
.
Eurosport
.
Discovery, Inc.
Cyrchwyd
22 Mehefin
2022
.
- ↑
Benson, Daniel (17 Gorffennaf 2022).
"Geraint Thomas: Possible Tour de France alliances but Poga?ar isn't calling me the night before: 'I'm more looking ahead but you have to be aware of what's behind you,' Welshman tells VeloNews"
. Velo News by Outside Magazine
. Cyrchwyd
23 Gorffennaf
2022
.
- ↑
Ostanek, Daniel (23 Gorffennaf 2022).
"Thomas 'over the moon' to seal Tour de France podium place"
. cyclingnews.com
. Cyrchwyd
23 Gorffennaf
2022
.
- ↑
"Geraint Thomas yn codi i'r trydydd safle yn y Tour de France"
.
BBC Cymru Fyw
. 8 Gorffennaf 2022
. Cyrchwyd
30 Gorffennaf
2022
.
- ↑
"Gemau'r Gymanwlad: Evans a Thomas i gludo baner Cymru"
.
BBC Cymru Fyw
. 28 Gorffennaf 2022
. Cyrchwyd
30 Gorffennaf
2022
.
- ↑
Thomas retains Welsh Road crown
BBC
25 Mai
2005
- ↑
62.0
62.1
https://www.youtube.com/watch?v=XIni2DrPGXk
- ↑
https://www.facebook.com/geraint.thomas.921/videos/676098202538132/
- ↑
ysgol.
https://www.bbc.co.uk/programmes/p06fnknw
- ↑
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44954312
1903
Maurice Garin
·
1904
Henri Cornet
·
1905
Louis Trousselier
·
1906
Rene Pottier
·
1907
·
-
1908
Lucien Petit-Breton
·
1909
Francois Faber
·
1910
Octave Lapize
·
1911
Gustave Garrigou
·
1912
Odile Defraye
·
1913
&
1914
Philippe Thys
·
1915-1918
Rhyfel Byd Cyntaf
·
1919
Firmin Lambot
·
1920
Philippe Thys
·
1921
Leon Scieur
·
1922
Firmin Lambot
·
1923
Henri Pelissier
·
1924
&
1925
Ottavio Bottecchia
·
1926
Lucien Buysse
·
1927
&
1928
Nicolas Frantz
·
1929
Maurice De Waele
·
1930
Andre Leducq
·
1931
Antonin Magne
·
1932
Andre Leducq
·
1933
Georges Speicher
·
1934
Antonin Magne
·
1935
Romain Maes
·
1936
Sylvere Maes
·
1937
Roger Lapebie
·
1938
Gino Bartali
·
1939
Sylvere Maes
·
1940-1946
Ail Ryfel Byd
·
1947
Jean Robic
·
1948
Gino Bartali
·
1949
Fausto Coppi
·
1950
Ferdinand Kubler
·
1951
Hugo Koblet
·
1952
Fausto Coppi
·
1953
,
1954
&
1955
Louison Bobet
·
1956
Roger Walkowiak
·
1957
Jacques Anquetil
·
1958
Charly Gaul
·
1959
Federico Bahamontes
·
1960
Gastone Nencini
·
1961
,
1962
,
1963
&
1964
Jacques Anquetil
·
1965
Felice Gimondi
·
1966
Lucien Aimar
·
1967
Roger Pingeon
·
1968
Jan Janssen
·
1969
,
1970
,
1971
&
1972
Eddy Merckx
·
1973
Luis Ocana
·
1974
Eddy Merckx
·
1975
Bernard Thevenet
·
1976
Lucien Van Impe
·
1977
Bernard Thevenet
·
1978
&
1979
Bernard Hinault
·
1980
Joop Zoetemelk
·
1981
&
1982
Bernard Hinault
·
1983
&
1984
Laurent Fignon
·
1985
Bernard Hinault
·
1986
Greg LeMond
·
1987
Stephen Roche
·
1988
Pedro Delgado
·
1989
&
1990
Greg LeMond
·
1991
,
1992
,
1993
,
1994
&
1995
Miguel Indurain
·
1996
Bjarne Riis
·
1997
Jan Ullrich
·
1998
Marco Pantani
·
1999
,
2000
,
2001
,
2002
,
2003
,
2004
&
2005
Lance Armstrong
·
2006
Oscar Pereiro
·
2007
Alberto Contador
·
2008
Carlos Sastre
·
2009
Alberto Contador
·
2010
Andy Schleck
·
2011
Cadel Evans
·
2012
Bradley Wiggins
·
2013
Christopher Froome
·
2014
Vincenzo Nibali
·
2015
&
2016
&
2017
Christopher Froome
·
2018
Geraint Thomas
·
2019
Egan Bernal
·
2020
&
2021
Tadej Poga?ar
·
|