한국   대만   중국   일본 
George Boots - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

George Boots

Oddi ar Wicipedia
George Boots
Ganwyd 2 Gorffennaf 1874  Edit this on Wikidata
Aber-big   Edit this on Wikidata
Bu farw 30 Rhagfyr 1928  Edit this on Wikidata
Casnewydd   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru  Cymru
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r undeb  Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tim/au Tim rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru , Clwb Rygbi Cymry Llundain, Cross Keys RFC, Clwb Rygbi Pill Harriers  Edit this on Wikidata
Safle Clo , blaenasgellwr  Edit this on Wikidata

Roedd John George Boots ( 2 Gorffennaf 1874 ? 29 Rhagfyr 1928 ) yn flaenwr rygbi rhyngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Gasnewydd [1] a rygbi sirol gyda Sir Fynwy. Enillodd 16 cap i Gymru . [2]

Cefndir [ golygu | golygu cod ]

Ganwyd Boots yn Aber-big Sir Fynwy yn fab i David Boots, gweithiwr yn y busnes gwin a gwirodydd , a Harriet (nee Simmonds) ei wraig. Roedd y teulu yn hanu o Swydd Rydychen yn wreiddiol ac wedi symud i Sir Fynwy tua 1872.

Mewn cyfnod pan oedd rygbi yn gem amatur ac nid oedd hawl dderbyn tal am chwarae bu Boots yn gweithio fel asiant i gwmni yswiriant.

Ym 1896 roedd Boots yn un o 170 o etholwyr Rhyddfrydol bu'r Ceidwadwyr yn ceisio cael tynnu eu henwau oddi ar restr etholwyr Casnewydd . Bu'r ymgais yn aflwyddiannus. [3]

Ym 1897 priododd Boots a Louisa Shepherd bu iddynt fab, a fu farw'n blentyn, a merch.

Gyrfa Rygbi [ golygu | golygu cod ]

Roedd Boots yn cael ei ystyried yn chwaraewr cyson gydag ymdeimlad gwych o leoliadol a fyddai’n taclo’n galed ac yn mygu’r bel rydd; roedd ei sgil pasio yn gryf ynghyd a'i allu i ddal a driblo'r bel. Nid oedd Boots yn chwaraewr lliwgar ond roedd yn 'anrheithiwr' da a gallai droi amddiffyniad yn ymosodiad, gan roi llwyfan i gefnwyr, fel Nicholls a Lloyd , i ennill ceisiadau. Cafodd Boots yrfa rygbi eithriadol o hir, er gwaetha'r ffaith ei fod yn ymddangos ei fod ar ei wely angau ym 1908 gyda pliwrisi actwr.

Gyrfa clwb [ golygu | golygu cod ]

Dechreuodd gyrfa rygbi Boots gyda chlwb Aber-big [4] pan oedd yn 14 mlwydd oed, yna symudodd i'r clwb y Pill Harriers, clwb yn Nociau Casnewydd oedd ag enw am fod yn galed. Ymysg chwaraewyr rhyngwladol eraill yr Harriers oedd Tommy Vile a George Travers . Roedd gan Boots un o'r gyrfaoedd hiraf ar frig rygbi Cymru. Ymunodd a Chasnewydd ym 1895 a chwaraeodd ei gem olaf iddynt ym 1922. Ei gem olaf oedd ei 365ain gem i Gasnewydd ac yn 47 oed wrth ymddeol o'r gem mae'n parhau a'r record am fod y chwaraewr hynaf i gynrychioli'r clwb mewn gem swyddogol.

Gyrfa ryngwladol [ golygu | golygu cod ]

Gwnaeth Boots ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf mewn gornest buddugol oddi cartref yn erbyn Iwerddon ar 19 Mawrth 1898 . [5] Wedi chware 16 gwaith dros ei wlad fe sgoriodd un cais a hynny mewn gem yn erbyn yr Alban ym 1901. Roedd un o eiliadau gorau Boots mewn crys Cymru yng ngem 1903 yn erbyn Iwerddon ym Mharc yr Arfau , Caerdydd . Yn hanner cyntaf y gem roedd ei daclo rhagorol yn darparu tir cadarn i'r olwyr ymosod, er iddo dorri asgwrn pont yr ysgwydd yn ystod un o'r cyfnewidiadau. [6] Er gwaethaf y boen parhaodd Boots i daclo yn ystod yr hanner cyntaf ond bu'n rhaid iddo ymadael a'r maes ar ol yr egwyl, ond erbyn hynny roedd y difrod a wnaed ganddo wedi rhoi'r oruchafiaeth i Gymru a threchwyd Iwerddon 18-0. [7]

Gemau rhyngwladol a chwaraewyd [8] [ golygu | golygu cod ]

Llyfryddiaeth [ golygu | golygu cod ]

  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby . Penybont: Seren. ISBN   1-85411-262-7 .
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union . Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN   0-7083-0766-3 .
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players . Ansells Ltd.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "MEN WHO ARE TALKED ABOUT - South Wales Daily News" . David Duncan and Sons. 1897-10-25 . Cyrchwyd 2021-02-23 .
  2. "BOOTS, JOHN GEORGE (1874 - 1928), chwaraewr pel droed (Rygbi) | Y Bywgraffiadur Cymreig" . bywgraffiadur.cymru . Cyrchwyd 2021-02-23 .
  3. "NEWPORT REGISTRATION COURT - South Wales Daily News" . David Duncan and Sons. 1896-09-09 . Cyrchwyd 2021-02-23 .
  4. "ABRRBEEG RANGERS' FOOTBALL CLUB - South Wales Daily News" . David Duncan and Sons. 1891-09-18 . Cyrchwyd 2021-02-23 .
  5. "THE SHAMROCK AND THE LEEK - Evening Express" . Walter Alfred Pearce. 1898-03-19 . Cyrchwyd 2021-02-23 .
  6. "Todays Great Match at Cardiff - Evening Express" . Walter Alfred Pearce. 1903-03-14 . Cyrchwyd 2021-02-23 .
  7. Parry-Jones (1999), tud 103.
  8. Smith (1980), tud 463.
  9. "THE PLAYERS IN TODAY'S GREAT GAME - Evening Express" . Walter Alfred Pearce. 1898-04-02 . Cyrchwyd 2021-02-23 .
  10. "ENGLAND V WALES - South Wales Daily News" . David Duncan and Sons. 1900-01-06 . Cyrchwyd 2021-02-23 .
  11. "International Football - South Wales Echo" . Jones & Son. 1898-03-21 . Cyrchwyd 2021-02-23 .
  12. "IRELAND V WALES - South Wales Daily News" . David Duncan and Sons. 1899-03-20 . Cyrchwyd 2021-02-23 .
  13. "FOOTBALL - The Cambrian" . T. Jenkins. 1901-02-15 . Cyrchwyd 2021-02-23 .