한국   대만   중국   일본 
Gareth Bale - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Gareth Bale

Oddi ar Wicipedia
Gareth Bale
MBE

Bale gyda tim Cymru yng Nghwpan y Byd Pel-droed 2022
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni ( 1989-07-16 ) 16 Gorffennaf 1989 (34 oed)
Man geni Caerdydd
Taldra 1.86
Safle Asgellwr
Gyrfa Ieuenctid
Gwasanaeth Sifil Caerdydd
1999?2006 Southampton
Gyrfa Lawn *
Blwyddyn Tim Ymdd (Gol)
2006?2007 Southampton 40 (5)
2007?2013 Tottenham Hotspur 146 (42)
2013?2022 Real Madrid 176 (81)
2020?2021 Tottenham Hotspur (ar fenthyg) 20 (11)
2022 Los Angeles FC 12 (2)
Cyfanswm 394 (141)
Tim Cenedlaethol
2005?2006 Cymru dan 17 7 (1)
2006 Cymru dan 19 1 (1)
2006?2008 Cymru dan 21 4 (2)
2006?2022 Cymru 111 (41)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Cyn bel-droediwr proffesiynol o Gymro yw Gareth Frank Bale (ganwyd 16 Gorffennaf 1989 ). Fe'i ystyrir yn un o asgellwyr gorau ei genhedlaeth ac un o'r chwaraewyr Cymreig gorau erioed. [1] [2] [3] [4] [5]

Gyrfa clwb [ golygu | golygu cod ]

Southampton [ golygu | golygu cod ]

Dechreuodd Bale ei yrfa broffesiynol gyda Southampton fel cefnwr chwith ac ar 17 Ebrill 2006, daeth yr ail ieuengaf erioed i chwarae dros y clwb wrth wneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Millwall pan yn 16 mlwydd a 275 diwrnod oed. Ar 6 Awst sgoriodd Bale ei gol gynghrair gyntaf i'r clwb yn erbyn Derby County . [6]

Tottenham Hotspur [ golygu | golygu cod ]

Symudodd i Tottenham Hotspur yn 2007 am ffi o £7 miliwn. Yn ystod ei gyfnod gyda Spurs, cafodd ei ddefnyddio'n fwy fwy fel chwaraewr ymosodol gan symud i chwarae yng nghanol y cae. Cafodd ei urddo'n Chwaraewr y Flwyddyn gan y PFA yn 2011 ac yn 2013 enillodd Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y PFA, Chwaraewr y Flwyddyn y PFA a Chwaraewr y Flwyddyn yr FAW. Cafodd ei gynnwys yn Nhim y Flwyddyn UEFA yn 2011 a 2013.

Real Madrid [ golygu | golygu cod ]

Ar 1 Medi 2013, ymunodd a Real Madrid yn Sbaen am ffi na chafodd ei ddatgelu. Yn ol adroddiadau yn y wasg yn Sbaen ac ar orsaf deledu Real Madrid TV, roedd y ffi yn £77 miliwn (€91 miliwn), tra bo'r wasg ym Mhrydain yn awgrymu bod y ffi yn record byd newydd o £85.3 miliwn (€100 miliwn). [7]

Ar 16 Ebrill, sgoriodd Bale y gol fuddugol wrth i Real Madrid drechu Barcelona yn rownd derfynol y Copa del Rey . [8] Hon oedd 20fed gol y tymor i Bale, a'r gyntaf mewn gornest El Clasico . [9]

Ar 24 Mai 2014, sgoriodd Bale ei ail gol yn erbyn Atletico Madrid yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn y 110fed munud o amser ychwanegol - ef yw'r Cymro cyntaf i sgorio yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Gorffennodd ei dymor cyntaf gyda Real Madrid gyda 22 gol a 16 cynorthwy ym mhob cystadleuaeth. [10]

Ar 30 Hydref 2016, cadarnhawyd fod Gareth Bale wedi arwyddo cytundeb newydd i barhau i chwarae gyda Real Madrid hyd nes 2022. [11]

Yn ystod ei yrfa gyda Real Madrid helpodd y clwb i ennill Cynghrair y Pencampwyr UEFA bedair gwaith, yn 2014, 2016, 2017 a 2018. Yn nhymor 2016-17, er iddo gael anafiadau, roedd yn rhan o fuddugoliaeth y clwb yn La Liga .

Roedd 2019-2020 yn gyfnod rhwystredig iddo yn y clwb ar ol gorfod eistedd ar y fainc am gyfnodau hir. Ar 19 Medi 2020, cyhoeddwyd ei fod wedi dychwelyd i glwb Tottenham Hotspur ar fenthyg am flwyddyn. [12]

Gyrfa ryngwladol [ golygu | golygu cod ]

Fideo o Gareth Bale yn 2016

Gwnaeth Bale ei ymddangosiad cyntaf i Gymru mewn gem gyfeillgar yn erbyn Trinidad a Tobago ar 27 Mai 2006 [13] gan ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros Gymru hyd nes i Harry Wilson dorri'r record yn Nhachwedd 2012. [14] . Roedd Bale yn 16 mlwydd a 315 diwrnod.

Ar 12 Mehefin 2015, sgoriodd Bale unig gol y gem ar achlysur ei 50fed cap wrth i Gymru drechu Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd [15] .

Ar 11 Mehefin 2016 sgoriodd gol agoriadol Cymru yn erbyn Slofacia ym Mhencampwriaeth Euro 2016 - y gol gyntaf erioed gan Gymro ym Mhencampwriaethau Ewrop. Gyda goliau yn erbyn Lloegr a Rwsia llwyddodd Bale i ddod yn brif sgoriwr Cymru ym mhrif bencampwriaethau pel-droed y byd gan dorri record Ivor Allchurch a rwydodd ddwy gol yng Nghwpan y Byd 1958 [16] [17] Helpodd Gareth Cymru fynd i rownd gyn-derfynol yr Ewros ond collodd Cymru yn erbyn Portiwgal o ddau gol i ddim.

Ar 22 Mawrth 2018 curodd record Ian Rush am y nifer o goliau a sgoriwyd mewn gemau rhyngwladol, drwy sgorio tair gol yn erbyn Tsieina , gan ddod a'i gyfanswm goliau i 29. [18]

Enillodd ei ganfed cap dros Gymru ar 13 Tachwedd 2021. [19]

Chwaraeodd ran allweddol yn llwyddiant Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd Pel-droed 2022 am y tro cyntaf ers 1958. Yn Ionawr 2023, cyhoeddodd y byddai'n ymddeol o bel-droed proffesiynol. [20]

Anrhydeddau [ golygu | golygu cod ]

Real Madrid

Gwobrau [ golygu | golygu cod ]

Yn 2006, casglodd Bale Wobr Carwyn James BBC Cymru ar gyfer athletwyr ifanc [21] . Enillodd prif Wobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn Rhagfyr 2010 [22] ac mae wedi ei enwi'n Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Bel-droed Cymru yn 2010, 2011, 2013, 2014, 2015 a 2016. [23] [24] [25] [26] .

Bywyd personol [ golygu | golygu cod ]

Cafodd Bale ei eni yng Nghaerdydd, Cymru, i'w rieni Frank, gofalwr ysgol, a Debbie, rheolwr gweithrediadau. Mae yn nai i'r cyn-bel-droediwr, Chris Pike, a oedd yn chwarae i Ddinas Caerdydd. Tra'n tyfu i fyny, ei arwr pel-droed oedd ei gyd-chwaraewr i Gymru, a seren Manchester United, Ryan Giggs.

Mynychodd Bale Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Roedd yn athletwr brwd ac yn chwarae pel-droed ochr yn ochr a chapten rygbi Cymru yn y dyfodol, Sam Warburton, rygbi, hoci tra hefyd yn rhagori mewn athletau. [26] Fel bachgen 14-mlwydd-oed, dywedir ei fod yn gallu rhedeg y ras 100 metr mewn 11.4 eiliad. Oherwydd ei sgiliau pel-droed, roedd yn rhaid i athro AG yr ysgol, Gwyn Morris, ysgrifennu rheolau arbennig oedd yn ei gyfyngu i chwarae pel-droed un-cyffyrddiad a pheidio a defnyddio ei droed chwith. Tra yn yr Eglwys Newydd, hyfforddwyd Bale yn academi lloeren Southampton yng Nghaerfaddon, er bod peth amheuaeth a fyddai Southampton yn rhoi ysgoloriaeth iddo oherwydd ei daldra.

Er ei fod ar y pryd ddim ond yn 16, bu'n helpu tim dan 18 yr ysgol i ennill Uwch Gwpan Caerdydd a'r Fro. Gadawodd yr ysgol yn haf 2005 gyda Gradd A mewn Addysg Gorfforol ymhlith ei ganlyniadau TGAU eraill. Yn ei flwyddyn olaf yn yr ysgol, dyfarnwyd iddo wobr yr adran Addysg Gorfforol ar gyfer gwasanaethau i chwaraeon.

Mae Bale yn llwyrymwrthodwr . [27]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Gareth Bale yn ymddeol o chwarae pel-droed yn 33 oed , BBC Cymru Fyw, 9 Ionawr 2023.
  2. " ' Gareth Bale probably the best left winger in the Premier League if not in Europe' - Everton's Phil Neville on the Tottenham star" . Goal.com . Cyrchwyd 20 Mawrth 2022 .
  3. Richards, Alex. "The 15 Best Wingers in World Football" . Bleacher Report . Cyrchwyd 11 Tachwedd 2022 .
  4. Potts Harmer, Alfie (25 Rhagfyr 2019). "7 Greates Right Wingers of the decade" . HITC Football . Cyrchwyd 11 Tachwedd 2022 .
  5. "The 5 best Welsh Football Players of all-time" . The Sporting Blog . Cyrchwyd 11 Tachwedd 2022 .
  6. "Derby 2 Southampton 2" . BBC Sport. 2006-08-06.
  7. Gwefan Golwg360
  8. Jurejko, Jonathan (16 April 2014). "Gareth Bale helps Real Madrid beat Barcelona in Copa del Rey" . BBC Sport . Cyrchwyd 17 April 2014 .
  9. "Gareth Bale: Copa del Rey winner incredible, says Xabi Alonso" . BBC . 16 April 2014.
  10. "Player profile - Gareth Bale" . ESPN. Adalwyd 26 Mai 2014
  11. "Gareth Bale yn arwyddo cytundeb newydd a Real Madrid" . BBC Cymru Fyw. 2016-10-30.
  12. “Dw i ‘nol” ? Gareth Bale yn ymuno a Spurs ar fenthyg am dymor , Golwg360, 19 Medi 2020.
  13. "Bale savours record Wales debut" . BBC Sport. 2006-05-28.
  14. "Injured Bale out for three months" . BBC Sport . 2007-12-10.
  15. "Bale: cefnogwyr Cymru yw'r gorau yn y byd" . Golwg360 . 2015-06-13.
  16. "Lloegr 2-1 Cymru" . Sgorio . 2016-11-16.
  17. "Rwsia 0-3 Cymru" . Sgorio . 2016-11-20.
  18. Gareth Bale a’i hatric yn Tsieina yn torri record Ian Rush , Golwg360, 22 Mawrth 2018.
  19. Ben Davies yn talu teyrnged i Gareth Bale , Golwg360, 14 Tachwedd 2021. Cyrchwyd ar 15 Tachwedd 2021.
  20. Gareth Bale wedi ymddeol o bel-droed , Golwg360, 9 Ionawr 2023.
  21. "Calzaghe scoops BBC Wales honour" . BBC Sport . 2006-12-03.
  22. "Gareth Bale wins BBC Wales Sports Personality award" . BBC Sport Wales . 2010-12-06.
  23. "Bale yw chwaraewr y flwyddyn" . Sgorio . 2013-10-08.
  24. "Gareth Bale Welsh player of the Year 2014" . realmadrid.com . 2014-10-07.
  25. "Gareth Bale yw chwaraewr y flwyddyn" . Sgorio . 2015-10-06.
  26. "Chwaraewr y Flwyddyn: Pwy ond Gareth Bale?" . BBC Cymru Fyw . 2016-11-08.
  27. "Gareth Bale: Home is where the heart is for £85m star" . www.bbc.co.uk . Cyrchwyd 20 Mehefin 2015 .