한국   대만   중국   일본 
Gabriel Garcia Marquez - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Gabriel Garcia Marquez

Oddi ar Wicipedia
Gabriel Garcia Marquez
Ganwyd Gabriel Jose de la Concordia Garcia Marquez  Edit this on Wikidata
6 Mawrth 1927  Edit this on Wikidata
Aracataca  Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Ebrill 2014  Edit this on Wikidata
o lymffoma  Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Colombia   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • National University of Colombia  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth nofelydd, awdur storiau byrion, newyddiadurwr, dramodydd , ysgrifennwr , cyhoeddwr, bardd-gyfreithiwr, hunangofiannydd, sgriptiwr , rhyddieithwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol  Edit this on Wikidata
Adnabyddus am One Hundred Years of Solitude, The Autumn of the Patriarch, Love in the Time of Cholera, Chronicle of a Death Foretold, The Story of a Shipwrecked Sailor, No One Writes to the Colonel  Edit this on Wikidata
Arddull nofel   Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad William Faulkner , Virginia Woolf   Edit this on Wikidata
Mudiad realaeth hudol   Edit this on Wikidata
Priod Mercedes Barcha  Edit this on Wikidata
Plant Rodrigo Garcia  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Ryngwladol Llenyddiaeth Neustadt, Gwobr Romulo Gallegos, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Gwobr Lenyddol Nobel , Premio Nacional de Periodismo Simon Bolivar, Urdd Eryr Mecsico, Urdd Teilyngdod Diwylliannol Gabriela Mistral, Urdd Anrhydedd, Commandeur de la Legion d'honneur?  Edit this on Wikidata
llofnod

Awdur, sgriptiwr a newyddiadurwr yn enedigol o Colombia oedd Gabriel Jose de la Concordia Garcia Marquez , yn ysgrifennu fel Gabriel Garcia Marquez (ganed 6 Mawrth 1927 ? 17 Ebrill 2014 ). Ystyrir ef yn un o brif awduron yr 20g yn yr iaith Sbaeneg .

Ganed ef yn Aracataca , yn rhanbarth Magdalena, yn fab i Gabriel Eligio Garcia a Luisa Santiaga Marquez. Priododd Mercedes Barcha ym 1958. Derbyniodd Wobr Ryngwladol Neustadt am Lenyddiaeth yn 1972 a rhoddwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo yn 1982 [1] .

Addysgodd ei hun ac o ganlyniad peidiodd ag astudio'r gyfraith a dechreuodd weithio fel newyddiadurwr. Bu'n barod iawn i feirniadu gwleidyddion Colymbaidd a thramor. Yn 1958 priododd Mercedes Barcha; cawsant ddau o feibion, Rodrigo and Gonzalo. [2] Mae Garcia Marquez yn adnabyddus am boblogeiddio'r arddull 'Realaeth Hudol' (magic realism), sydd yn defnyddio elfennau hudol yn ochr ac ochr a sefyllfaoedd pob dydd. Lleolir rhai o'i weithiau ym mhentref dychmygol Macondo (wedi'i ysbrydol gan ei dref enedigol Aracataca). Mae llawer o'i lyfrau hefyd yn archwilio'r thema o unigrwydd.

Disgrifiodd Pablo Neruda ei lyfr Cien anos de soledad (Can Mlyedd o Unigrwydd) fel "y mwyaf arwyddocal yn yr iaith Sbaeneg ers Don Quijote " (gan Miguel de Cervantes , 1547?1616).

Pan fu farw yn 2014 dywedodd lywydd Colombia ei fod y 'Colombianwr mwyaf mewn hanes'. [3]

Realaeth a realaeth hudol [ golygu | golygu cod ]

Mae realaeth yn thema bwysig yn holl waith Garcia Marquez. Dywedodd o'i waith cynnar - El coronel no tiene quien le escriba, ('Sneb yn Ysgrifennu i'r Cyrnol) 1962, Los funerales de la Mama Grande, (Angladdau y Fam Fawr) 1962 a La mala hora (Yr Amser Drwg), 1966: i gyd yn adlewyrchu realiti bywyd Columbia ac ei fod yn thema sydd yn gosod strwythur rhesymeg y llyfrau. 'Dwi ddim yn difaru eu hysgrifennu, ond maent yn perthyn i fath o lenyddiaeth disgwyliadwy sydd yn cynnig gweledigaeth rhy lonydd a chyfyngedig o realiti." [4]

Yn ei weithiau eraill mae wedi arbrofi gydag arddulliau llai traddodiadol o realiti, y pethau mwyaf anarferol yn cael eu dweud fel eu bod yn gwbl ddi-nod. [5] Un enghraifft a chyfeirir ato'n aml yw'r corff a'r ysbrydol yn esgyn i'r Nefoedd wrth hongian y dillad i'w sychu yn Cien anos de soledad, (Can Mlynedd o Unigrwydd) 1967. Yn ol yr ysgrifenwyr Cubaniadd Alejo Carpentier Mae arddull y gweithiau yn cyrraedd y 'deyrnas ryfeddol’ . [6] .

Syniadaeth wleidyddol [ golygu | golygu cod ]

Mae Garcia Marquez wedi cefnogi mudiadau ac arweinwyr progresif De America fel mudiad y Sandanistas yn Nicaragua ar ddechrau'r 1980au [7] a bu'n gyfaill personol gyda Fidel Castro . [8]

Yn ei araith "Unigrwydd America Ladin" a draddodwyd wrth dderbyn y wobr Nobel ym 1982 cyfeirir at hanes coloneiddio ac imperialaeth ac y modd mae'r gwledydd y cyfandir yn dioddef fel canlyniad polisi tramor yr Unol Daleithiau .

Ni fynnai America Ladin na ganddi unrhyw rheswm chwaith, fod yn wystl heb awyllus ei hun. - "Unigrwydd America Ladin", Gabriel Garcia Marquez, 1982 [9]

Llyfryddiaeth ddethol [ golygu | golygu cod ]

  • La Hojarasca, 1955. (Cwymp y dail)
  • Relato de un naufrago, 1955. (Hanes y Llongddryllwr)
  • El canibal, 1955. (Y Canibal)
  • Un dia despues del sabado, 1955. (Un Diwrnod ar ol Sadwrn)
  • El coronel no tiene quien le escriba, 1962. ('Sneb yn Ysgrifennu i'r Cyrnol)
  • Los funerales de la Mama Grande, 1962. (Angladdau y Fam Fawr)
  • La mala hora, 1966. (Yr Amser Drwg)
  • Un Senor Muy Viejo Con Unas Alas Enormes, 1966. (Hen Ddyn gydag Adenydd Mawrion)
  • Cien anos de soledad, 1967. (Can Mlynedd o Unigrwydd)
  • Monologo de Isabel viendo llover en Macondo, 1968. (Ymson Isabel yn Gwylio'r Glaw ym Macondo)
  • La increible y triste historia de la candida Erendira y de su abuela desalmada, 1972. (Hanes Anhygoel a Thrist Erendria Didwyll a'i Nain Dideimlad)
  • Cuando era feliz e indocumentado, 1973. (Pan Roeddwn Llawen a heb Ddogfennau)
  • Chile,el golpe y los gringos, 1974. (Chile, Ergyd y Gringos)
  • Ojos de perro azul, 1974. (Llygaid y Ci Glas)
  • El otono del patriarca, 1975. (Hydref y Patriarch)
  • Todos los cuentos (1947-1972), 1976. (Yr Holl Straeon)
  • Cronica de una muerte anunciada, 1981. (Cronicl y Farwolaeth Hysbys)
  • Textos costenos, 1981. (Straeon Glan y Mor)
  • Viva Sandino, 1982. (Sandino am Byth)
  • El olor de la guayaba, 1982. (Arogl yr Gwafa)
  • El secuestro, 1982. (Y Herwgipio)
  • El asalto: el operativo con el que el FSLN se lanzo al mundo, 1983. (Yr ymosodiad: yr ymgyrch a lansiodd yr F.S.L.N. i'r byd)
  • Erendira, 1983.
  • El amor en los tiempos del colera, 1985 (Cariad yn Amser y Colera)
  • Las Aventuras de Miguel Littin Clandestino en Chile, 1986 (Anturiaethau Miguel Littin Cudd yn Chile)
  • El general en su laberinto, 1989. (Y Cadfridog yn ei Labrinth)
  • Doce cuentos peregrinos, 1992. (Deuddeg Hanes Pererinion)
  • Diatriba de amor contra un hombre sentado, 1994. (Geiriau Hallt yn Erbyn Dyn Eistedd)
  • Del amor y otros demonios, 1994. (Cariad a Chythreuliaid Eraill)
  • Noticia de un secuestro, 1996. (Hanes y Herwgipio)
  • Vivir para contarla, 2002. (Byw i'w Dweud)
  • Memoria de mis putas tristes, 2004. (Cofio fy Mhuteiniaid Trist)

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1.   The Nobel Prize in Literature 1982 .
  2. Author Gabriel Garcia Marquez dies , BBC News , 17 Ebrill 2014.
  3. http://www.theguardian.com/books/2014/apr/19/gabrielgarciamarquez-colombia
  4. Apuleyo Mendoza & Garcia Marquez 1983 , t. 56
  5. McMurray 1987 , t. 18
  6. Maurya 1983 , t. 57
  7. http://jan.ucc.nau.edu/~ewh/GGMREVOL.htm
  8. http://www.theguardian.com/books/2014/apr/25/gabrielgarciamarquez-fidel-castro
  9. "copi archif" . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-25 . Cyrchwyd 2014-09-09 .