G. E. Moore
|
---|
|
Ganwyd
| 4 Tachwedd 1873
Norwood Uchaf
|
---|
Bu farw
| 24 Hydref 1958
Caergrawnt
|
---|
Dinasyddiaeth
| y Deyrnas Unedig
|
---|
Addysg
| Uwch Ddoethor
|
---|
Alma mater
| |
---|
ymgynghorydd y doethor
| - James Ward
|
---|
Galwedigaeth
| athronydd, academydd
|
---|
Cyflogwr
| |
---|
Adnabyddus am
| Ethics, Principia Ethica
|
---|
Gwobr/au
| Urdd Teilyngdod, Cymrawd yr Academi Brydeinig
|
---|
Athronydd o Sais oedd
G. E. Moore
(
4 Tachwedd
1873
?
24 Hydref
1958
) oedd yn ddylanwadol yn athroniaeth
Realaidd
ac yn aelod o'r gr?p Bloomsbury. Ynghyd a
Bertrand Russell
a
Ludwig Wittgenstein
, fe drodd
Goleg y Drindod, Caergrawnt
yn ganolfan i
athroniaeth ddadansoddol
yn hanner cyntaf yr 20g.
Cafodd ei eni a'i fagu yn ne
Llundain
. "George Edward" oedd ei enwau cyntaf, ond nid oedd yn hoff o'r rhain a fe wrthododd eu defnyddio. Yn ddiweddarach, cafodd ei alw'n Bill gan ei wraig.
[1]
Astudiodd Glasuron yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, ac ychwanegodd athroniaeth at ei radd wedi iddo ymgyfeillio a Bertrand Russell a
J. M. E. McTaggart
. Enillodd gymrodoriaeth yng Ngholeg y Drindod ym 1898, ac astudiodd yno hyd 1904.
Cyhoeddodd ei brif waith ar foeseg,
Principia Ethica
, ym 1903. Trigodd am gyfnod yng
Nghaeredin
a Llundain cyn iddo ddychwelyd i Gaergrawnt ym 1911. Addysgodd fel athro athroniaeth o 1925 hyd 1939. O 1921 hyd 1944 Moore oedd golygydd y cyfnodolyn athroniaeth
Mind
.