Un o ynysoedd Denmarc yw Fyn , hefyd Funen . Hi yw ynys ail-fwyaf Denmarc, gydag arwynebedd o 2975 km². Mae pontydd a thwneli yn ei chysylltu a gorynys Jylland ac ag ynys Sjælland . Prifddinas yr ynys yw Odense . Mae ei phoblogaeth tua 447,000.