Fred Rogers
|
---|
|
Ganwyd
| 20 Mawrth 1928
Latrobe, Pennsylvania
|
---|
Bu farw
| 27 Chwefror 2003
Pittsburgh
|
---|
Dinasyddiaeth
| Unol Daleithiau America
|
---|
Alma mater
| - Coleg Dartmouth
- Coleg Rollins
- Thiel College
- Prifysgol Pittsburgh
- Pittsburgh Theological Seminary
- Greater Latrobe Senior High School
- Fanny Edel Falk Laboratory School
|
---|
Galwedigaeth
| gweinidog yr Efengyl
, pypedwr,
canwr
,
awdur
,
cyfansoddwr
, addysgwr,
sgriptiwr
, cyfansoddwr caneuon, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu, diwinydd, actor teledu
|
---|
Mam
| Nancy Flagg
|
---|
Priod
| Joanne Rogers
|
---|
Gwobr/au
| Medal Rhyddid yr Arlywydd
,
Gwobrau Peabody
, Gwobr Emmy 'Daytime', Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood
|
---|
llofnod
|
---|
|
Actor a seren deledu o'r
Unol Daleithiau
oedd
Frederick McFeely
"
Fred
"
Rogers
(
20 Mawrth
1928
?
27 Chwefror
2003
).
[1]
Roedd yn enwog am greu rhaglenni, eu cyflwyno ac am gyfansoddi
cerddoriaeth
agoriadol ar gyfer y gyfres plant bach
Mister Rogers' Neighborhood
(1968?2001).
[2]
Cafodd ei hyfforddi i fod yn weinidog yr Efengyl ond nid oedd yn hapus gyda chyfeiriad teledu yn yr Unol Daleithiau, yn enwedig yr arlwy ar gyfer plant a phobl ifanc. Ar deledu yn ardal
Pittsburgh
y cychwynodd ond erbyn 1968 roedd ganddo ei sioe deledu ei hun a darlledwyd hon ar gyfer y wlad gyfan gan
American Public Television
. Dros y degawdau nesaf daeth Rogers yn eicon gan ei gynulleidfa.
[3]
Bu hefyd yn flaenllaw yn hybu achosion da yn ymwneud ag addysg pobl ifanc. Ymladdodd yr hawl i gynnwys recordiadau ar drwydded "defnydd teg" er mwyn eu darlledu drachefn a thrachefn (
"time shifting"
) a sefydlodd gefnogaeth y llywodraeth i ddarlledu ar gyfer plant a phobl ifanc.
[4]