Franz Bopp
|
---|
|
Ganwyd
| 14 Medi 1791
Mainz
|
---|
Bu farw
| 23 Hydref 1867
Berlin
|
---|
Dinasyddiaeth
| Teyrnas Prwsia
|
---|
Galwedigaeth
| ieithydd, addysgwr, academydd, historical linguist
|
---|
Cyflogwr
| |
---|
Gwobr/au
| Volney Prize, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America
|
---|
Ieithegwr
Almaenig
oedd
Franz Bopp
(
14 Medi
1791
-
23 Hydref
1867
), a ystyrir yn un o sefydlwyr ieitheg gymharol.
Ganed Bopp ym
Mainz
yn 1791. Astudiodd ym
Mharis
am bedair blynedd dan nawdd llywodraeth
Bafaria
. Yn 1816 cyhoeddodd ei astudiaeth gyntaf o
ramadeg
yr
Indo-Ewropeg
, yr
Uber das Konjugationssystem der Sanskritsprache in Vergleichung mit jenem der griechischen, lateinischen, persischen und germanischen Sprache
, sy'n cymharu gramadeg y ferf yn y
Sansgrit
gyda berfau'r ieithoedd
Groeg
,
Lladin
,
Perseg
ac
Almaeneg
ac yn dangos fod ganddynt gwreiddiau cyffredin.
[1]
Yn 1821 fe'i apwyntwyd i'r gadair yn y Sansgrit a gramadeg cymharol ym mhrifysgol
Berlin
. Dyma'r cyfnod a welodd gyhoeddi ei ramadeg cymharol o'r ieithoedd Sansgrit,
Zend
, Groeg, Lladin,
Lithwaneg
,
Hen Slafoneg
,
Gotheg
ac Almaeneg.
[1]
Yn 1839 cyhoeddodd ei astudiaeth
Uber die keltischen Sprachen
sy'n profi bod yr
ieithoedd Celtaidd
yn perthyn i deulu'r
ieithoedd Indo-Ewropeaidd
. Er nad ef oedd y cyntaf i awgrymu hynny, mae'r llyfr yn garreg filltir yn natblygiad
Astudiaethau Celtaidd
.
[2]
Bu farw ym Merlin yn 1867.
Prif waith:
- Uber das Konjugationssystem der Sanskritsprache in Vergleichung mit jenem der griechischen, lateinischen, persischen und germanischen Sprache
(Frankfurt am Main 1816)
- Vergleichende Grammatik des Sanskrit, Zend, Griechischen, Lateinischen, Litauischen, Gotischen und Deutschen
(6 cyfrol, Berlin 1833?52)
Traethodau ac astudiaethau eraill:
- Vocalismus, oder sprachvergleichende Kritiken
(Berlin 1836)
- Uber die keltischen Sprachen
(Berlin 1839)
- Uber die Verwandtschaft der malaiisch-polynesischen Sprachen mit dem Indogermanischen
(Berlin 1841)
- Uber die kaukasischen Glieder des indo-europaischen Sprachstammes
(Berlin 1847)
- Uber die Sprache der alten Preußen
(Berlin 1853)
- Vergleichendes Accentuationssystem
(Berlin 1854)
- Uber das Albanesische in seinen verwandtschaftlichen Beziehungen
(Berlin 1855)
- ↑
1.0
1.1
Chambers Biographical Dictionary
- ↑
Bernhard Maier,
Dictionary of Celtic Religion and Culture
(Gwasg Boydell, 1997).