Frank Brangwyn
|
---|
Frank Brangwyn yn 1920
|
Ffugenw
| Brangwyn, Frank William
|
---|
Ganwyd
| 12 Mai 1867, 13 Mai 1867
Brugge
|
---|
Bu farw
| 11 Mehefin 1956
Ditchling
|
---|
Dinasyddiaeth
| y Deyrnas Unedig
|
---|
Galwedigaeth
| arlunydd,
darlunydd
, ffotograffydd, cynllunydd, gwneuthurwr printiau, crefftwr, artist
|
---|
Cyflogwr
| - Morris & Co.
|
---|
Adnabyddus am
| Masnach ar y Traeth
|
---|
Mudiad
| y Mudiad Celf a Chrefft
|
---|
Tad
| William Curtis Brangwyn
|
---|
Gwobr/au
| Grand Officer of the Order of Leopold II, Medal Albert, Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Marchog Faglor
|
---|
Arlunydd
Cymreig
-
Seisnig
oedd
Syr Frank William Brangwyn
(
13 Mai
1867
?
11 Mehefin
1956
), y cyfeirir ato gan amlaf fel
Frank Brangwyn
.
Cafodd ei eni yn
Brugge
,
Gwlad Belg
, lle symudodd ei dad wedi iddo ennill cystadleuaeth a drefnwyd gan y "Belgian Guild of St Thomas and St Luke" i ddylunio eglwys plwyf. Cofrestrwyd ei enedigaeth dan yr enw
Guillaume Francois Brangwyn
, ond adnabuwyd ef fel Frank. Ym 1874 dychwelodd y teulu i
Loegr
. Priododd Lucy Ray ym 1896, ond bu farw hi'n ddi-blant ym 1924. Bu i Brangwyn brydlesu Temple Lodge, 51 Queen Street, Hammersmith o 1900 hyd 1937/38 a prynodd The Jointure, Ditchling, Sussex ym 1918. Cafodd ei wneud yn Farchog ym 1941. Bu farw ar 11 Mehefin 1956 yn ei gartref yn
Sussex
.
[1]
Ym 1925, cafodd Brangwyn gomisiwn ar gyfer yr Oriel Frenhinol, T?'r Arglwyddi. Rhoddwyd y paneli yr Ymerodraeth Brydeinig i Neuadd y Ddinas Abertawe (
Neuadd Brangwyn
) ym 1934.
Yn 1936 cyflwynodd Brangwyn dros 400 o weithiau i Bruges, sydd wedi eu cartrefu yn Amgueddfa T? Arents heddiw. Diolchodd Brenin Gwlad Belg gan wneud Brangwyn yn Swyddog Mawreddog yn
Urdd Leopold II
, a gwnaeth Bruges ef yn
Citoyen d'Honneur de Bruges
(dim ond y trydydd tro y gwobrwywyd yr anrhydedd hon).
[2]