Francisco Madero

Oddi ar Wicipedia
Francisco Madero
Yr Arlywydd Francisco Madero
Ganwyd 30 Hydref 1873  Edit this on Wikidata
Parras de la Fuente  Edit this on Wikidata
Bu farw 22 Chwefror 1913  Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Mecsico   Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth gwleidydd , ysgrifennwr , cerddor , person milwrol, person busnes  Edit this on Wikidata
Swydd Arlywydd Mecsico   Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Partido Nacional Antirreeleccionista, Progressive Constitutionalist Party  Edit this on Wikidata
Tad Francisco Madero Hernandez  Edit this on Wikidata
Priod Sara Perez de Madero  Edit this on Wikidata

Gwleidydd a milwr Mecsicanaidd oedd Francisco Indalecio Madero ( 30 Hydref 1873 ? 22 Chwefror 1913 ) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1911 i 1913 wedi iddo arwain chwyldro i ddymchwel yr unben Porfirio Diaz .

Ganwyd yn Parras yn nhalaith Coahuila yng ngogledd Mecsico , i deulu o dirfeddianwyr cefnog. Fe'i danfonwyd i'r Unol Daleithiau i fynychu Coleg Mount St. Mary's yn Emmitsburg, Maryland , o 1886 i 1888. Astudiodd mewn ysgol fusnes ym Mharis ac ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley . [1]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. (Saesneg)   Francisco Madero . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 21 Medi 2019.