Sefydliad anllywodraethol
rhyngwladol yw
Fforwm Economaidd y Byd
sydd yn cynnal cyfarfod blynyddol, fel arfer yn Davos, cyrchfan iechyd a sgio yng
Nghanton y Grisons
,
y Swistir
, ym mis Ionawr. Yno bydd nifer o wleidyddion, pobl busnes, llunwyr polisi, academyddion, undebwyr llafur, dyngarwyr, a phenaethiaid sefydliadau anllywodraethol blaena'r byd yn ymgynnull i drafod
materion rhyngwladol
, yn bennaf
masnach ryngwladol
a
datblygu economaidd
ond hefyd pynciau gwleidyddol a chymdeithasol. Lleolir pencadlys yr WEF ei hun yn Cologny,
Canton Genefa
.
Ym 1971 trefnwyd cynhadledd i bobl busnes Ewropeaidd, a oedd yn bwriadu cystadlu a chwmniau Americanaidd, gan Klaus Schwab, athro ym
Mhrifysgol Genefa
. Yn sgil llwyddiant y gynhadledd, sefydlodd Schwab y Fforwm Rheolaeth Ewropeaidd er mwyn hyrwyddo cyfarfodydd economaidd blynyddol yn Davos, cyrchfan fynyddig a ddewiswyd er preifatrwydd. Yn ddiweddarach ychwanegwyd materion gwleidyddol a chymdeithasol at agenda'r fforwm, ac ym 1976 gwahoddwyd i gynrychiolwyr o'r mil o gwmniau mwyaf y byd fynychu'r cyfarfodydd blynyddol.
[1]
Mabwysiadwyd yr enw Fforwm Economaidd y Byd ym 1987 i gwmpasu'r holl faterion rhyngwladol a drafodwyd yn ystod y cynadleddau, gan gynnwys tlodi, yr amgylchedd, a rhyfel.
[1]
Un o lwyddiannau'r WEF oedd y cytundeb anymosod a arwyddwyd gan
Andreas Papandreou
, Prif Weinidog
Groeg
, a
Turgut Ozal
, Prif Weinidog
Twrci
, yn Davos ym 1988 er mwyn lleihau'r tensiynau rhwng y ddwy wlad. Yn Davos hefyd bu'r cyfarfod cyntaf rhwng gweinidogion o lywodraethau
Gogledd Corea
a
De Corea
ym 1989, y cyfarfod cyntaf rhwng
Nelson Mandela
, Llywydd yr
ANC
, ac
F. W. de Klerk
, Arlywydd
De Affrica
, ym 1992, a'r sesiwn i ddrafftio Cytundeb Gaza?Jericho ac felly sefydlu
Awdurdod Cenedlaethol Palesteina
ym 1994.
Yn niwedd y 1990au daeth yr WEF yn elyn i'r
mudiad gwrth-globaleiddio
, a chyhuddwyd y fforwm o ddifreinio
gwledydd datblygol
drwy hyrwyddo
cyfalafiaeth
a
neo-ryddfrydiaeth
fyd-eang. Gwrthwynebwyd yr WEF hefyd fel clwb yr elit, a bathwyd y term difriol "Dyn Davos" gan y gwyddonydd gwleidyddol
Samuel P. Huntington
. Yn sgil protestiadau mawr yn erbyn yr WEF yn 2003, cyflwynwyd Fforwm Agored Davos i'w gynnal ar y cyd a'r brif gynhadledd, a gwahoddwyd mwy o sefydliadau anllywodraethol a gwledydd datblygol i Davos.
Yn ogystal a'r gynhadledd flynyddol yn Davos, mae'r WEF yn gweithio fel
melin drafod
ac yn
lobio
dros ei argymhellion polisi. Lansiwyd sawl ymgyrch byd-eang gan yr WEF, gan gynnwys y Fenter Iechyd Byd-eang yn 2002 a chynllun
yr Ailosodiad Mawr
yn 2020.
[2]
Cyhoeddwyd nifer o adroddiadau ymchwil gan yr WEF.