Ffilm
heb drac
sain
syncroneiddiedig (h.y. a recordiwyd ar y pryd), yn enwedig trac sain deialog, yw
film fud
. Roedd y ffilm gyntaf i gael ei saethu erioed, yn
1888
, yn ffilm fud. Bu'r ffilm fud ar ei hanterth yn y cyfnod
1915
-
1927
, ond ildiodd i'r "
talkies
" newydd yn gyflym ar ol
1928
.
Er bod y syniad o wneud ffilmiau gyda thraciau sain recordiedig hyned a'r
diwydiant ffilm
ei hun, oherwydd anawsterau technegol roedd y rhan fwyaf o ffilmiau yn fud hyd y
1920au
diweddar.
Cyfeirir yn aml at gyfnod y ffilm fud fel "Oes y Sgrin Arian," am fod gan y ffilm a ddefnyddid yn y 1910au a'r 1920au sglein arianaidd.
Roedd actio mewn ffilm mud yn gofyn technegau arbennig. Byddai'r actorion yn pwysleisio emosiynau a theimladau trwy ystumiau'r wyneb, ac mae golygfeydd sy'n canolbwyntio ar wyneb yr actor(es) yn nodweddiadol o ffilmiau mud. Mewn canlyniad mae'r actio a welir yn y ffilmiau yn gallu ymddangos fel "gor-actio" i wylwyr heddiw, ond rhaid cofio fod ymateb cynulleidfaoedd cyfoes yn wahanol.
Mae ser mawr y ffilm fud yn cynnwys
Charlie Chaplin
,
Edna Purviance
,
Lillian Gish
,
Mary Pickford
,
Theda Bara
,
Buster Keaton
a
Lon Chaney
.
Ymhlith cyfarwyddwyr enwocaf byd y ffilm fud gellid crybwyll
Abel Gance
,
D. W. Griffith
,
Mack Sennet
,
Charlie Chaplin
a
Cecil B. DeMille
.
Ffilmiau mud a wnaeth yr elw mwyaf
[
golygu
|
golygu cod
]
Dyma'r ffilmiau mud mwyaf proffidiol yn ol y cylchgrawn ffilm
Variety
yn 1932 (gwerth y doler yn 1932)
[1]
Archifwyd
2011-07-08 yn y
Peiriant Wayback
..
- The Birth of a Nation
(1915) - $10,000,000
- The Big Parade
(1925) - $6,400,000
- Ben-Hur
(1925) - $5,500,000
- Way Down East
(1920) - $5,000,000
- The Gold Rush
(1925) - $4,250,000
- The Four Horsemen of the Apocalypse
(1921) - $4,000,000
- The Circus
(1928) - $3,800,000
- The Covered Wagon
(1923) - $3,800,000
- The Hunchback of Notre Dame
(1923) - $3,500,000
- The Ten Commandments
(1923) - $3,400,000
- Orphans of the Storm
(1921) - $3,000,000
- For Heaven's Sake
(1926) - $2,600,000
- Seventh Heaven
(1926) - $2,400,000
- Abie's Irish Rose
(1928) - $1,500,000