한국   대만   중국   일본 
Ffilm ddrama - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Ffilm ddrama

Oddi ar Wicipedia
Ffilm ddrama
Poster y ffilm ddrama 12 Angry Men (1957), un o glasuron sinema'r Unol Daleithiau .
Enghraifft o'r canlynol genre mewn ffilm  Edit this on Wikidata
Math drama fiction, ffilm   Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Genre o ffilm yw ffilm ddrama a nodweddir gan stori ffuglennol (neu led-ffuglennol, yn achos drama ddogfen ) ddifrif, gyda chymeriadaeth ddofn, sy'n ceisio dal sylw'r gwyliwr yn natblygiad y plot a thynged y cymeriadau gydag effaith ar ei deimladau. Defnyddir y gair " drama " yma mewn ystyr debyg i ddrama radio neu deledu : stori draethiadol realistig, sy'n ceisio adlonni'r gynulleidfa trwy emosiwn a diddordeb yn hytrach na chwerthin. [1] Mae ffilmiau drama fel arfer yn ymwneud a sefyllfaoedd pob dydd a phrofiadau dynol, gan flaenoriaethau meddyliau a pherthnasau'r cymeriadau: cymhelliant, gwrthdaro, a thwf personol. Mae themau cyffredin y genre yn cynnwys cariad , y teulu , hunaniaeth, cyfyng-gyngorau moesol, colled a galar, goroesiad, unigrwydd ac ymddieithriad, grym a llygredigaeth, gwaredigaeth a maddeuant, ymddiriedaeth a brad, a dirfodaeth. Mae nifer o ffilmiau drama yn ymwneud a phynciau llosg a materion cymdeithasol, megis hiliaeth , trosedd a chosb , a rhywioldeb . Gall y digwyddiadau mewn ffilm ddrama fod yn gyffrous i raddau, ond nid ydynt mor anghyffredin a'r hyn a geir mewn ffilm gyffro neu lawn cyffro ("acsiwn").

Disgrifir ffilmiau drama fel arfer gyda thermau ychwanegol i nodi is-genre, pwnc, neu thema'r stori, er enghraifft drama hanesyddol , drama drosedd (gan gynnwys drama heddlu a drama lys), drama ramantus , drama seicolegol , drama deuluol neu ddrama gegin , drama'r arddegau, neu ddrama wleidyddol. Fel rheol bwriedir y ffilm ddrama i fod yn stori ddifrif, o bosib trasig , ac yn wahanol felly i ffilm gomedi . Fodd bynnag, mae is-genre'r ddrama gomedi yn pontio'r gwahaniaeth hwn, ac yn cynnwys elfennau digrif yn ogystal a stori ddramatig.

Y ffilm ddrama Gymraeg [ golygu | golygu cod ]

Un o'r ffilmiau drama cyntaf yn yr iaith Gymraeg yw Noson Lawen (1949), sy'n serennu Meredydd Evans ac Ieuan Rhys Williams . Wedi sefydlu'r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg , cynhyrchwyd sawl ffilm ddrama Gymraeg yn y 1970au a'r 1980au, gan gynnwys Teisennau Mair (1979) a Newid Ger (1980).

Mae ffilmiau drama sy'n seiliedig ar nofelau Cymraeg yn cynnwys Un Nos Ola Leuad (1991), addasiad o'r nofel o 1961 gan Caradog Prichard . Ffilm rymus ydyw sy'n ymwneud ag afiechyd meddwl , rhywioldeb, ac emosiynau dwfn. Esiampl arall ydy Tan ar y Comin (1994), addasiad o'r nofel i blant o 1975 gan T. Llew Jones .

Un o'r ffilmiau Cymraeg enwocaf ydy'r ddrama ryfel fywgraffyddol Hedd Wyn ( 1992 ) gan Paul Turner . Cafodd ei henwebu am Oscar yn y categori ffilm iaith dramor orau yn 1994 . Derbyniodd Hedd Wyn llawer o gymeradwyaeth nid yn unig yng Nghymru gan ei fod yn hybu'r Gymraeg, ond ar draws y byd am ei thechnegau ffilm a'i themau dwfn. Yr unig ffilm Gymraeg arall i gael ei henwebu am Oscar yw Solomon & Gaenor ( 1999 ) [2] , hanes Iddew ifanc ( Ioan Gruffudd ) yn ystod terfysgoedd gwrth-Semitaidd yng Nghymru ym 1911 . [3]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Modern British Drama on Screen (yn Saesneg). Cambridge University Press. 2013. ISBN   9781107652408 .
  2. "Solomon And Gaenor (1999)" . BBFC . Cyrchwyd 31 March 2021 .
  3. Gemma Romain (2013). Connecting Histories (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 200. ISBN   9781136220630 .