Ffilm
|
Math
| gwaith clyweld, llun symudol, gwaith celf gweledol, cyfres
|
---|
Yn cynnwys
| clodrestr, rhagflas, ffram ffilm, clodrestr llun symudol, dilyniant teitl
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Math o
adloniant
a
chelf
yw
ffilm
, lle caiff lluniau symudol eu creu drwy
recordio
pobl neu bethau gan ddefnyddio
camerau
, neu drwy ddefnyddio
animeiddiad
neu
effeithiau arbennig
. Mae'r gair ffilm hefyd yn cyfeirio at brosiectau lluniau symudol eu hunain.
Mae nifer yn ystyried ffilm fel ffurf celf pwysig; maent yn adlonni, addysgu, hysbysu ac ysbrydoli
cynulleidfaoedd
. Nid oes angen cyfieithiad ar elfennau gweledol sinema, felly mae gan y llun symudol y p?er byd-eang o gyfathrebiad.
Mae ffilm yn rhan o
ddiwylliant
pob dydd ar draws y byd. Mae mynd i'r
sinema
neu gwylio ffilm ar
deledu
neu
DVD
wedi dod yn rhan o fywydau miliynau o bobl.
Mae hanes ffilm yn mynd nol i'r
1860au
, wrth i declynnau cael eu dyfeisio oedd yn gwibio delweddau dau-ddimensiwn heibio wrth greu'r argraff bod y ffigwr ar y delweddau yn symud. Daeth hyn yn egwyddor sylfaenol
animeiddiad ffilm
.
Gyda datblygiad ffilm seliwloid am
ffotograffiaeth lonydd
daeth yn bosib i gipio gwrthrychau symudol mewn
amser real
yn syth. Erbyn y
1880au
, roedd y
camera llun symudol
yn caniatau i'r delweddau cydrannol unigol cael eu cipio a'u cadw ar un
ril
. Arweiniodd hyn yn fuan at ddatblygiad y
taflunydd llun symudol
er mwyn chwyddo'r ffilmiau arno
sgrin
ar gyfer cynulleidfa.
Ar ddechrau'r
ugeinfed ganrif
gwelodd poblogrwydd y
ffilmiau mud
. Cynhyrchwyd
ffilmiau comedi
fel rhai
Charlie Chaplin
a
Buster Keaton
,
straeon rhamantus
yn serennu
actorion
fel
Rudolph Valentino
, hanesion arwrol (neu
epigau
) fel
Ben Hur
, ac hyd yn oedd
cartwnau cynnar
fel
Felix the Cat
.
Wrth i'r
Rhyfel Byd Cyntaf
ymyrru ar
ddiwydiant ffilm
Ewrop
, ffynnodd diwydiant ffilm yr
Unol Daleithiau
gyda chodiad
Hollywood
. Yn y
1920au
, roedd technoleg newydd yn caniatau
gwneuthurwyr ffilm
i redeg
trac sain
ar gydamseriad a'r ffilm. Gelwir y
ffilmiau sain
yma yn
talkies
, sef talfyriad o "talking pictures".
Y cam mawr nesaf o fewn datblygiad sinema oedd cylfwyniad
lliw
. Tra cysgododd ychwanegiad
sain
ffilm fud yn gyflym, mabwysiadir lliw yn mwy raddol. Roedd y cyhoedd yn gymharol ddi-fraw i ffotograffiaeth lliw o gymharu a du-a-gwyn. Ond wrth i brosesau lliw gwella a dod mor rad a ffilm ddu-a-gwyn, ffilmir mwy a mwy o ffilmiau mewn lliw ar ol ddiwedd yr
Ail Rhyfel Byd
, wrth i'r diwydiant yn America ystyried lliw fel anghenraid er mwyn denu cynulleidfaoedd mewn ei chystadleuaeth efo theledu, wnaeth aros yn gyfrwng
du-a-gwyn
nes canol y
1960au
. Erbyn diwedd y 1960au, roedd lliw wedi dod yn y norm am wneuthurwyr ffilm.
Roedd ail hanner yr 20g yn gyfnod nifer o newidiadau o fewn cynhyrchiad ac arddull ffilm, gyda chodiad
New Hollywood
,
Nouvelle Vague
,
ysgolion ffilm
a
gwneuthurwyr ffilm annibynnol
. Gwelodd datblygiadau
ffilmiau cwlt
,
ffilmiau plant
a nifer o fathau arall o ffilmiau. Mae
technoleg ddigidol
wedi bod yn bwnc pwysig yn ystod y
1990au
a dechrau'r
unfed ganrif ar hugain
wrth i effeithiau arbennig ac animeddiad dod yn gryf yn y diwydiant.
Mae theori ffilm yn ceisio i ddatblygu cysyniadau systematig a chryno sy'n cymhwyso at astudiaeth sinema fel
celf
.
Yn yr
Unol Daleithiau
heddiw, mae llawer o'r diwydiant ffilm wedi'i chanoli o gwmpas
Hollywood
. Mae canolfannau rhanbarthol eraill yn bodoli ar draws y byd, ac mae diwydiant ffilm
India
(wedi'i chanoli o gwmpas
Bollywood
yn bennaf) yn cynhyrchu'r nifer mwyaf o ffilmiau yn flynyddol yn y byd.
Mae
elw
yn rym allweddol yn y diwydiant, gan fod gwneuthuriad ffilmiau mor gostus. Mae
hysbysebu
ac
adolygiadau
positif yn ffyrdd o ddenu gwylwyr, er nad yw'r diwethaf o fewn rheolaeth gwneuthurwyr y ffilm. Mae
gwobrau
hefyd yn bwysig wrth godi
proffil
ffilmiau:
Gwobrau'r Academi
a
G?yl Ffilm Cannes
yw dau o'r seremoniau enwocaf.
Mae
cylchred cynhyrchiad
arferol Hollywood yn cynnwys pum prif gam:
- Datblygiad
- Rhag-gynhyrchiad
- Cynhyrchiad
- Ol-gynhyrchiad
- Dosbarthiad
Mae'r cylchred cynhyrchiad hwn fel arfer yn cymryd tair blynedd. Llenwir y flwyddyn gyntaf gan
ddatblygiad
. Mae'r ail flwyddyn yn cynnwys
rhag-gynhyrchiad
a
chynhyrchiad
. Ac yn olaf,
ol-gynhyrchiad
a
dosbarthiad
yn ystod y drydedd flwyddyn.
- Prif erthygl:
Ffilm yng Nghymru
Mae ffilm yng
Nghymru
, ai mewn
Cymraeg
neu
Saesneg
, wedi bod yn symbol o ddiwylliant y wlad ers blynyddoedd, ac wedi hyrwyddo enw Cymru ar draws y byd. Mae nifer o actorion a chyfarwyddwyr enwog wedi dod o Gymru, yn cynnwys
Richard Burton
a
Peter Greenaway
.