한국   대만   중국   일본 
Felix Houphouet-Boigny - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Felix Houphouet-Boigny

Oddi ar Wicipedia
Felix Houphouet-Boigny
Ganwyd 18 Hydref 1905, 16 Hydref 1905  Edit this on Wikidata
N’Gokro  Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Rhagfyr 1993  Edit this on Wikidata
Yamoussoukro   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Traeth Ifori   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ecole normale superieure William Ponty  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd   Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Prif Weinidog Arfordir Ifori, Arlywydd y Traeth Ifori   Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Democratic Party of Cote d'Ivoire ? African Democratic Rally  Edit this on Wikidata
Priod Marie-Therese Houphouet-Boigny, Kady Racine Sow  Edit this on Wikidata
Plant Guillaume Houphouet-Boigny  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd Teilyngdod Sifil  Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd a meddyg Iforaidd oedd Felix Houphouet-Boigny ( 18 Hydref 1905 ? 7 Rhagfyr 1993 ) a wasanaethodd yn Arlywydd y Traeth Ifori am 33 mlynedd, o annibyniaeth y weriniaeth ym 1960 hyd at ei farwolaeth.

Ganed ef yn Yamoussoukro , Gwladfa'r Traeth Ifori, un o drefedigaethau Ffrainc yng Ngorllewin Affrica , yn fab i benadur cefnog o'r bobl Baoule. Gweithiodd yn feddyg yng nghefn gwlad, ac enillodd arian hefyd fel perchennog planhigfeydd. Cychwynnodd ar ei yrfa wleidyddol ym 1944 pan gyd-sefydlodd y Syndicet Amaethyddol Affricanaidd i gynrychioli planwyr brodorol a oedd yn anfodlon a'r drefn dan y Ffrancod. Cafodd ei ethol yn ddirprwy i gynrychioli etholaeth frodorol y Traeth Ifori a Blaenau'r Folta yng Nghynulliad Cenedlaethol Ffrainc yn yr etholiadau cyntaf yn y ddwy wladfa honno ym 1945, a fe'i ail-etholwyd y flwyddyn olynol. Yn Ebrill 1946 sefydlodd Houphouet-Boigny Blaid Ddemocrataidd y Traeth Ifori (PDCI), yn gysylltiedig a Phlaid Gomiwnyddol Ffrainc . Yn sgil cynhadledd yn Bamako , Swdan Ffrengig , yn Hydref 1946, daeth y PDCI yn rhan o Gynulliad Democrataidd Affrica (RDA) a sefydlwyd i gydlynu'r frwydr wleidyddol dros wrthdrefedigaethrwydd ar draws ffederasiynau Gorllewin Affrica Ffrengig ac Affrica Gyhydeddol Ffrengig , a gwasanaethodd Houphouet-Boigny hefyd yn llywydd yr RDA.

Yn niwedd y 1940au trodd y llywodraeth drefedigaethol yn fwyfwy ddrwgdybus o'r PDCI, yn enwedig wedi i'r Blaid Gomiwnyddol gael ei bwrw allan o'r glymblaid Tripartisme ym 1947, a phenderfynodd Houphouet-Boigny dorri ei gysylltiadau a'r comiwnyddion yn Hydref 1950 ac i gydweithio a'r Ffrancod wrth i'w blaid ennill cefnogaeth. Yn y cyfnod o 1956 i 1960, teithiodd yn ol ac ymlaen rhwng ei famwlad a la Metropole , yn cynrychioli'r Traeth Ifori a Blaenau'r Folta yn y Cynulliad Cenedlaethol ym Mharis ac yn gwasanaethu'n faer Abidjan , yn llywydd y cynulliad trefedigaethol, ac yn arweinydd y PDCI. Er iddo ddod i'r amlwg fel un o'r prif arweinwyr dros annibyniaeth i drefedigaethau Ffrainc yn Affrica, gwrthodai'n gryf y syniad o ffederasiwn yng Ngorllewin Affrica, gan nad oedd am i gael gwledydd tlotach y rhanbarth yn dibynnu ar gymorthdaliadau o economi'r Traeth Ifori. Ym 1958, wedi i'r Arlywydd Charles de Gaulle gynnig refferendwm i ddewis rhwng ffederasiwn neu annibyniaeth, ymgyrchodd Houphouet-Boigny yn llwyddiannus dros hunanlywodraeth, er yn rhan o Gymuned Ffrainc . Fe'i penodwyd yn brif weinidog ym 1959, a datganwyd annibyniaeth Gweriniaeth y Traeth Ifori yn ffurfiol ar 7 Awst 1960. Cyhoeddwyd cyfansoddiad newydd ar 3 Tachwedd, gan sefydlu llywodraeth arlywyddol, ac ar 27 Tachwedd 1960 etholwyd Houphouet-Boigny yn arlywydd cyntaf y Traeth Ifori.

O'r cychwyn, rhoes polisiau rhydd-fenter ar waith, gan ryddfrydoli'r economi a datblygu amaethyddiaeth y wlad . Byddai'r pwyslais hwn ar gnydau gwerthu yn wahanol i nifer o wledydd newydd-annibynnol eraill Affrica, a geisiodd ddiwydiannu dan reolaeth y wladwriaeth. Dan ei arweiniad, daeth y Traeth Ifori yn un o brif allforwyr coco , coffi , pin-afalau , ac olew palmwydd . Croesawodd fuddsoddiad tramor, a chyflogwyd miloedd o dechnegwyr a rheolwyr o Ffrainc i gynorthwyo datblygiad economaidd. [1] Erbyn y 1980au, y Traeth Ifori oedd un o wledydd cyfoethocaf Affrica, a gelwid ffyniant economaidd y wlad yn "y gwyrth Iforaidd".

Hyd at 1990, gwladwriaeth un-blaid oedd y Traeth Ifori, ac yr oedd yn rhaid i bob oedolyn yn y wlad fod yn aelod o'r PDCI. Fe'i ail-etholwyd yn arlywydd heb wrthwynebiad ym 1965, 1970, 1975, 1980, a 1985. Fodd bynnag, unben pragmataidd ydoedd, a cheisiodd dawelu unrhyw wrthwynebiad gwleidyddol i'w rym drwy gydweithio, consensws, a chyfaddawdu. [1] Yn Hydref 1990, cynhaliwyd etholiad arlywyddol am y tro cyntaf gyda gwrthwynebydd, Laurent Gbagbo o'r Ffrynt Poblogaidd Iforaidd. Enillodd Houphouet-Boigny unwaith eto, gyda 82% o'r bleidlais, a thair mlynedd yn ddiweddarach bu farw yn Yamoussoukro yn 88 oed.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg)   Felix Houphouet-Boigny . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 7 Chwefror 2024.